Julie Ann Press Release

22 February 2023

Cyhoeddi Canlyniadau Blynyddol Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022

Mae Principality wedi cyhoeddi canlyniadau blynyddol cryf ar gyfer 2022, wrth iddi barhau i gefnogi ei haelodau a’i chwsmeriaid drwy’r argyfwng costau byw, gwneud gwahaniaeth yn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, a sicrhau llesiant ei chyd-weithwyr sydd wedi ennill gwobrau. 

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Principality: “O’r eiliadau cyntaf i mi gymryd yr awenau fel Prif Swyddog Gweithredol, gallwn weld angen dybryd i ganolbwyntio ar fod yn llawer mwy uchelgeisiol a chlir ynghylch yr hyn y mae Principality yn ei gynrychioli, er mwyn helpu mwy o bobl ledled y DU i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain a bod yn fwy cadarn yn ariannol. Mae’n amlwg bod pwysau’r argyfwng costau byw presennol wedi effeithio ar ein haelodau, ein cydweithwyr a’n cymunedau drwy 2022. 

“I roi mwy o sicrwydd i’n haelodau, ein cydweithwyr, a’n cymunedau, gwnaethom addo yn 2022 y byddem yn cadw ein canghennau ar agor ledled Cymru a Lloegr tan o leiaf 2025, er mwyn cadw presenoldeb ar y stryd fawr. Mae gennym fwy o ganghennau nag unrhyw ddarparwr gwasanaethau ariannol arall ar y stryd fawr yng Nghymru, ac rydym yn parhau i ddatblygu ein technoleg i’w gwneud yn haws gwneud busnes, bod yn gyflymach ac yn fwy effeithlon. Dyma y cawsom ein sefydlu dros 160 o flynyddoedd yn ôl i’w wneud, ac mae ein diben i helpu pobl i ddod o hyd i gartref a diogelu eu cynilion yn gryfach nag erioed o’r blaen yn y cyfnod anodd hwn.”

Helpu aelodau drwy gyfnod economaidd anodd

Wrth i gyfraddau llog gynyddu yn 2022, gweithiodd Principality yn galed i gydbwyso anghenion gwahanol ei chwsmeriaid morgeisi a chynilion, gan drosglwyddo dim ond 2.05% o godiadau cyfradd sylfaenol Banc Lloegr o 3.25% i’w haelodau morgais cyfradd amrywiol a disgownt. 

Manteisiodd bron i 400,000 o aelodau ar gyfraddau cynilion gwell, gan sicrhau bod Principality yn cynnig enillion cystadleuol i’w chynilwyr wrth i’r cyfraddau llog godi. Ar gyfartaledd, mae’r gyfradd gynilo a delir i aelodau wedi cynyddu mwy na’r farchnad, gyda chyfradd gynilo gyfartalog o 1.03% o’i chymharu â chyfradd gynilo y farchnad o 0.56% (Ffynhonnell: Cyfradd Llog Gyfartalog CSDB, Stoc wedi’i phwysoli CACI ar gyfer (Rhagfyr 2021 – Tachwedd 2022).

Helpodd i gefnogi bron i 76,000 o berchnogion tai, a rhoddodd forgeisi i fwy na 4,500 o brynwyr tro cyntaf y llynedd. Helpodd y tîm masnachol i ariannu’r gwaith o adeiladu mwy na 200 o gartrefi ac, ar yr un pryd, ymrwymodd £19 miliwn i ddarparu benthyciadau i gymdeithasau tai ar gyfer cartrefi fforddiadwy ledled y wlad.

Cymdeithas Decach

Rhagorodd Principality ar gefnogi cymunedau ledled Cymru a’r gororau, wrth i £500,000 gael ei ddosbarthu ar gyfer gweithgareddau effaith gymdeithasol gadarnhaol i grwpiau cymunedol ledled Cymru, a bron £200,000 i’r partneriaid elusennol hosbisau plant Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith. Manteisiodd mwy na 28,000 o bobl ifanc ar raglenni addysg ariannol. Hefyd, daeth Principality yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig – sy’n golygu ei bod yn talu o leiaf y cyflog byw gwirioneddol i gydweithwyr, ac yn ei helpu i gadw ei thimau arobryn.

Mae’r 6ed gymdeithas adeiladu fwyaf yn y DU hefyd wedi cael statws carbon niwtral, ac mae ganddi uchelgais i sicrhau gweithrediadau sero net. Dyfarnwyd gwobrau iddi am fod y gymdeithas adeiladu orau ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid morgeisi, yn ogystal â bod yn gyflogwr cryf, gan ennill y nawfed safle yn y DU fel Great Place to Work® yn y categori busnes mawr iawn, ac ar y brig yn y DU fel Great Place to Work® i fenywod.

Uchafbwyntiau o ran perfformiad


Roedd perfformiad ariannol Principality yn gryf yn 2022, gydag elw sylfaenol o £43.5 miliwn ac elw statudol cyn treth o £49.3 miliwn. Cynyddodd ei llyfr morgais manwerthu £209 miliwn yn 2022 ac mae ei mantolen bellach yn fwy na £11.3 biliwn.

Mae'r ansicrwydd economaidd parhaus wedi creu anwadalrwydd o ran darpariaethau amhariadau. Dyma’r prif ffactor ar gyfer y gostyngiad mewn elw yn dilyn tâl amhariad o £14.8 miliwn yn ystod y flwyddyn, o’i gymharu â rhyddhau darpariaeth o £15.4 miliwn yn ystod 2021 wrth i’r Gymdeithas gymryd golwg ddarbodus o’r economi dros y 18 mis nesaf.

Ychwanegodd Julie-Ann: “Gall ein haelodau fod yn dawel ei meddyliau bod gennym fantolen gref a chyfalaf i’w ail-fuddsoddi yn y busnes er eu budd nhw, i’n helpu i greu cartrefi gwell, er mwyn helpu aelodau i sicrhau eu dyfodol yn ariannol drwy gynilion, yn ogystal â cheisio creu cymdeithas decach drwy gael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau. Gyda disgwyl i amodau economaidd anffafriol bara tan o leiaf 2024, mae ein busnes yn parhau i fod yn gadarn a bydd yn gallu dioddef y cyfnod anodd hwn. 

“Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen i ni fod yn ddewr wrth wneud penderfyniadau. Mae’r heriau sy’n wynebu ein haelodau, ein cymunedau a’n cydweithwyr oherwydd yr argyfwng costau byw yn golygu bod angen i ni ymdrechu i gyflawni mwy. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd o’n blaenau a sut y gallwn wneud mwy o wahaniaeth fyth.”

Prif Ddangosyddion Perfformiad 

Cyfanswm asedau £11.3 biliwn (2021: £10.9 biliwn)
Elw sylfaenol cyn treth £43.5 miliwn (2021: £54.4 miliwn)
Balansau morgeisi manwerthu – £8,241 miliwn (2021: £8,033 miliwn)
Balansau cynilion – £8,114 miliwn (2021: £7,944 miliwn)
Cyfalaf (Cymhareb Ecwiti Cyffredin Haen 1) – 26.5% (2021: 34.0%)
Datganiadau Polisi Cenedlaethol – 81.6 (2021: 80.5)
Mae’r Gymdeithas yn ymrwymedig i gefnogi cymunedau yng Nghymru, gyda 53 o ganghennau a 14 o asiantau yng Nghymru a’r gororau. 

 

Published: 22/02/2023

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig