Image showing Julie-Ann Haines, Chief Executive Officer of Principality

5 August 2021

Mae Principality wedi cyhoeddi canlyniadau interim da wrth iddi barhau i fuddsoddi yn ei thechnoleg, ei phobl a'i chymunedau

Mae'r gymdeithas adeiladu wedi helpu mwy na 1,500 o brynwyr tro cyntaf i gael cartref yn ystod y chwe mis cyntaf, wedi helpu llawer o aelodau i ymdopi â'r ansicrwydd ariannol a grëwyd gan bandemig COVID-19, ac wedi cefnogi cymunedau drwy gadw ei changhennau ar agor drwy gydol cyfnod cyfyngiadau symud y gaeaf. 

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu Principality: "Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol sy'n eiddo i’w haelodau, nid sicrhau'r elw mwyaf yw ein nod, ond canolbwyntio ar ddyfodol y Gymdeithas yn y tymor hir. Rydym wedi gwneud penderfyniad i gael ein hysgogi yn llawer mwy gan ddiben er mwyn inni allu cyflawni ein hamcan o helpu pobl i gael cartref ac aros yn eu cartref am fwy o amser ond hefyd cael effaith gadarnhaol ar wella ffyniant a chadernid cwsmeriaid, cydweithwyr, cleientiaid a chymunedau.

"Mae'n ymddangos bod yr amgylchedd economaidd yn fwy optimistaidd na'r 18 mis blaenorol, er y bydd effaith pandemig y coronafeirws yn llywio'r amgylchedd ehangach a'n Cymdeithas am flynyddoedd i ddod. Mae Principality yn parhau i fod yn gartref diogel ar gyfer cynilion, mae ein lefelau cyfalaf a hylifedd yn parhau i fod yn gryf, ymhell dros y gofynion rheoleiddiol a byddwn yn gallu gwrthsefyll unrhyw amodau economaidd a marchnad heriol.

"Ein pwyslais o hyd yw helpu aelodau i gael cartref ac aros mewn cartref am fwy o amser, i ddod yn fusnes cynaliadwy a arweinir yn llawer mwy gan ddiben, ac i anrhydeddu ein hymrwymiad i ddatblygu a thyfu ein busnes mewn ffordd ddiogel a sicr. Rydym yn cydnabod bod y disgwyliadau ohonom yn newid, felly byddwn yn parhau i addasu, buddsoddi a gwella fel ein bod yn parhau i fod yn berthnasol ar gyfer y tymor hir ac yn barod i wynebu heriau yn y dyfodol.

"Rwy'n falch iawn o'r ffordd y parhaodd ein cydweithwyr i ddarparu gwasanaeth arobryn ac ymdrechion ein rhwydwaith canghennau i aros ar agor yn ystod cyfyngiadau symud y gaeaf. Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'r stryd fawr ond rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i'n rhwydwaith o ganghennau ac asiantaethau, gan wasanaethu 70 o gymunedau ledled Cymru a'r Gororau.

"Tra bod ein aelodau'n parhau i werthfawrogi ac ymweld â'n rhwydwaith yna byddwn yn parhau i gefnogi cymunedau fel y gwnaethom drwy'r cyfyngiadau symud. Nid yw'r pwyslais hwn ar ein stryd fawr yn tynnu ein sylw oddi ar ein pwyslais ar ddatblygu technoleg i ymateb i'r galw gan aelodau a chwsmeriaid i ryngweithio dros y ffôn, dros fideo ac yn ddigidol i'w galluogi i reoli eu materion ariannol."

Perfformiad ariannol cadarn gyda chefndir economaidd sy'n gwella

DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL 

Cyfanswm asedau o £10.9bn (31 Rhagfyr 2020: £11.1bn)
Balansau morgais manwerthu o £8,200.4m (31 Rhagfyr 2020: £8,175.7m)
Balansau cynilion wedi aros yn gyson ar £8.2bn (31 Rhagfyr 2020: £8.2bn)
Benthyca morgeisi manwerthu net am chwe mis cyntaf y flwyddyn o £24.7m (30 Mehefin 2020: £118.7m)
Elw statudol cyn treth o £33.1m (30 Mehefin 2020: colled o £6.4m)
Elw sylfaenol cyn treth o £28.6m (30 Mehefin 2020: colled o £3.5m)
Cyfalaf cryf gyda chymhareb Ecwiti Cyffredin Haen 1 o 30.70% (30 Mehefin 2020: 24.48%)
Sgôr Hyrwyddwr Net Gwasanaeth Cwsmeriaid o 80.8% (30 Mehefin 2020: 81.2%)
Elw llog net o 1.14% (30 Mehefin 2020: 0.99%)

Roedd benthyca morgeisi manwerthu net yn £24.7m yn ystod chwe mis cyntaf eleni (Mehefin 2020: £118.7m). Er bod benthyca manwerthu yn gymharol wastad, mae ceisiadau morgais yn parhau i fod yn gryf mewn marchnad dai sy'n cael ei chefnogi gan ryddhad treth stamp. Rydym yn disgwyl i fenthyciadau morgeisi manwerthu net aros yn gymharol wastad drwy gydol 2021 wrth i ni sefydlu ein platfform morgais newydd a rheoli nifer y ceisiadau yn y tymor byr. 

Mae cydbwyso anghenion cynilwyr a pharhau i fod yn gystadleuol yn y farchnad forgeisi yn bwyslais cyson ac roedd y llog a enillwyd ar forgeisi yn effeithio'n uniongyrchol ar y cyfraddau cynilo a gynigir i aelodau. Roedd Principality yn dal i ddarparu cyfradd gyfartalog o 0.77% i gynilwyr o gymharu â chyfartaledd y farchnad o 0.32%  dros yr un cyfnod, gan gynnal ei safle fel un o'r goreuon ar y stryd fawr.

Yn 2020 cynyddodd Principality ei darpariaethau ar gyfer colledion benthyciadau posibl yn y dyfodol oherwydd yr ansicrwydd economaidd mawr a achoswyd gan y pandemig. Dros y chwe mis diwethaf mae'r rhagolygon economaidd wedi gwella ac mae'n llawer mwy addawol ar gyfer 2021 a thu hwnt. Mae'r farchnad dai yn fywiog ac mae cyflogaeth yn sefydlog, er nad yw effaith diwedd graddol y cynllun ffyrlo wedi dod i’r amlwg eto, sydd wedi lleihau lefel gyffredinol y ddarpariaeth.

Mae'r gostyngiad hwn yn y darpariaethau ar gyfer colledion ar forgeisi yn bennaf gyfrifol am elw cryf yn chwe mis cyntaf 2021, yn yr un modd ag y arweiniodd darpariaethau uwch yn ystod camau cynharach y pandemig y llynedd at lefelau is o broffidioldeb yn 2020. Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar ganlyniadau ar gyfer y cyfnod interim hwn, gydag elw sylfaenol cyn treth o £28.6m (chwe mis i 30 Mehefin 2020: colled o £3.5m) ac elw statudol cyn treth o £33.1m (chwe mis i 30 Mehefin 2020: colled o £6.4m). 

Gellir gweld yr adroddiad interim llawn trwy glicio yma.

Published: 05/08/2021

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig