Wales House Price Index

19 April 2023

Prisiau tai yn gostwng ledled Cymru yn chwarter cyntaf 2023

Mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru wedi gostwng i £245,101 ar ddechrau 2023 -  y gostyngiad cyntaf ers pandemig Covid - 1.6% yn is na'r lefel uchaf a gafwyd erioed yn y chwarter diwethaf, sef dros £249,000.

Mae'r ffigyrau wedi eu rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch1 2023 (Ionawr-Mawrth), sy'n dangos y cynnydd a'r gostyngiad ym mhrisiau tai ym mhob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae'r gostyngiad chwarterol wedi golygu, o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, mai 5% yw'r cynnydd blynyddol mewn prisiau, hanner y gyfradd tri mis ynghynt a'r cynnydd blynyddol isaf ers 2020. 

Mae'r darlun distaw hwn yn cael ei adlewyrchu ledled Cymru yn Ch1, a mwy o awdurdodau lleol yn dweud bod prisiau chwarterol wedi gostwng yn hytrach na chynyddu. Mae Mynegai Prisiau Tai Principality yn dangos mai dim ond pedwar o'r 22 o awdurdodau lleol a ddywedodd eu bod wedi nodi uchafbwynt newydd o ran prisiau – Blaenau Gwent, Casnewydd, Bro Morgannwg a Thorfaen. 

Cafodd lefelau trafodiadau eu taro'n sylweddol yn dilyn cyllideb fach yr hydref a'r cynnydd dilynol mewn cyfraddau llog a morgeisi. O ganlyniad i hynny, y gweithgarwch ym mis Ionawr-Mawrth 2023 oedd y gwanaf ers lefelau’r pandemig yn 2020, gyda gwerthiant i lawr 17% flwyddyn ar ôl blwyddyn a 26% yn chwarterol i ychydig dros 9100 o drafodiadau.

Dywedodd Shaun Middleton, Pennaeth Dosbarthu Cymdeithas Adeiladu Principality: "Yn debyg iawn i weddill y DU, mae amodau'r farchnad dai yng Nghymru yn fwy distaw nag yn y chwarteri blaenorol. Rydym ar bwynt yng nghylched y farchnad dai lle mae ffactorau economaidd ehangach yn pwyso'n drymach, ac yn  effeithio ar y galw sylfaenol am gartrefi ar hyn o bryd. Bydd prisiau yn y dyfodol yn cael eu penderfynu gan newidynnau allweddol megis;  symudiadau cyfraddau llog, chwyddiant, a  baich costau byw. 

"Ni ellir diystyru'r newid sylweddol mewn cyfraddau morgeisi dros y flwyddyn ddiwethaf, gan symud o ddegawd ar tua 2% i agosach at 5% o fewn cyfnod o 12 mis. Rydym yn disgwyl i gyfraddau setlo o amgylch y lefel hon am weddill 2023 ac i mewn i 2024. Rydym yn gweld mwy o arwyddion o fenthycwyr yn cystadlu i ddenu busnes, mae cyfraddau wedi bod yn gostwng yn araf ac mae sefydliadau sy’n rhoi benthyg yn chwilio am ffyrdd newydd o gefnogi benthycwyr sy'n cael trafferth o ran gallu fforddio morgais."

O'i gymharu â blwyddyn ynghynt, mae prisiau eiddo mewn 20 o'r 22 o awdurdod lleol wedi parhau i gynyddu, a dim ond Gwynedd a Môn sy’n nodi eu bod wedi gostwng yn flynyddol mewn termau nominal (gostyngiad o 5.5% a 0.6% yn y drefn honno), a chynnydd cymharol fach yn unig a nododd Sir y Fflint, Sir Fynwy, ac Abertawe (0.2%, 2% a 0.1%). 

Gwelodd chwe awdurdod lleol brisiau tai blynyddol o ddau ddigid - Casnewydd, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, a Merthyr Tudful, sydd ar frig y tabl cynnydd blynyddol gydag 20%. 

Aeth Shaun ymlaen i ddweud: "Roedd y darlun ledled Cymru o ran symudiadau prisiau Ch1 yn eithaf amrywiol, a bydden ni'n disgwyl i hyn barhau. Er bod awgrymiadau wedi bod y byddai cywiriad mawr i’r farchnad dai, mae safbwyntiau mor negyddol wedi gostegu yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan adlewyrchu perfformiad ychydig yn well na'r disgwyl gan economi'r DU. Mae rhai elfennau cadarnhaol bod y farchnad yn setlo i'w lefel newydd."

Mae'r gostyngiad a adroddir mewn trafodiadau yn gyson ar draws pob math o eiddo, ond mae gwerthiant eiddo ar wahân yn parhau i fod ar ei hôl hi – i lawr 23% dros y flwyddyn. Mae'n ymddangos bod hyn yn rhan o duedd gyffredinol, o bosibl yn adlewyrchu ôl-effeithiau’r rhuthr ar ôl y pandemig i brynu eiddo ar wahân, ynghyd â phwysau costau byw a fforddiadwyedd mwy diweddar, gan arwain at fwy o alw am gartrefi llai a llai o alw am eiddo mwy. 

Dywedir mai’r pris cyfartalog yn ôl y math o eiddo yng Nghymru yn Ch1 yw £364,275 ar gyfer cartrefi ar wahân, £226,347 ar gyfer cartrefi  pâr, £171,290 ar gyfer cartrefi teras a £152,576 ar gyfer fflatiau. 

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.principality.co.uk/cy/mortgages/House-Price-Index.

 

Published: 19/04/2023

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig