Wales House Price Index

17 July 2023

Prisiau tai yng Nghymru yn arafu wrth i gyfraddau llog barhau i godi

Mae pris cyfartalog tŷ yng Nghymru wedi gostwng i £242,076 yn ail chwarter 2023, sef 1.2% yn is ers y chwarter diwethaf. Dyma’r ail ostyngiad chwarterol yn olynol yn 2023 ac mae’n dangos gostyngiad o fwy na £3,000 ers mis Mawrth.

Mae’r ffigurau wedi’u rhyddhau gan Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch2 2023 (Ebrill-Mehefin), sy’n nodi cynnydd a gostyngiad mewn prisiau tai ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru.

O'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, mae'r cynnydd blynyddol mewn prisiau o dan 1% erbyn hyn, sef yr arafu mwyaf mewn twf prisiau tai blynyddol ers bron i ddegawd.

Ledled Cymru, mae awdurdodau lleol hefyd yn parhau i nodi’r arafu yn y farchnad dai. Mae Mynegai Prisiau Tai Principality yn dangos, am yr ail chwarter yn olynol, fod mwy o awdurdodau lleol yn nodi gostyngiadau chwarterol mewn prisiau na chynnydd, a Chaerdydd yw’r unig awdurdod lleol i gofnodi uchafbwynt pris newydd o £310,930.

Roedd llai na 8,500 o drafodiadau yng Nghymru yn Ch2, sef gostyngiad cymedrol o 5% o gymharu â’r chwarter blaenorol, ond 24% yn is ers blwyddyn yn ôl, daw hyn wrth i gyfraddau llog barhau i godi ynghyd â chost uwch morgeisi. 

Dywedodd Shaun Middleton, Pennaeth Dosbarthu Cymdeithas Adeiladu Principality: “Yn y gwanwyn gwelsom rai arwyddion bod agwedd y farchnad yn gwella, ar ôl cael ei tharo’n wael gan y cythrwfl yn dilyn cyllideb fach yr hydref Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae gweithgarwch yn Ch2 wedi bod ychydig yn wannach nag yn Ch1, ac mae’n ymddangos bellach y bydd yn gwanhau eto. Adlewyrchir y darlun hwn ledled Cymru, gyda’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn nodi gostyngiadau mewn prisiau yn y chwarter diweddaraf, yn ogystal ag o un flwyddyn i’r nesaf.”

O gymharu â blwyddyn ynghynt, mae prisiau eiddo mewn 9 o’r 22 awdurdod lleol wedi cynyddu o hyd, gyda dim ond Sir Ddinbych, Gwynedd a Phowys yn nodi gostyngiad blynyddol o fwy na 5% (6.1%, 6.1% ac 8.9%). 

Nododd awdurdod lleol Sir Fynwy y cynnydd chwarterol a blynyddol mwyaf, sef 12.4% a 15.4% yn y drefn honno, gan ddod â’r pris cyfartalog newydd am dŷ i £415,000.

Wrth gymharu pris cyfartalog yn ôl y math o eiddo yng Nghymru, tai sengl yw’r unig fath sy’n cynnal rhywfaint o gynnydd o un flwyddyn i’r nesaf, gyda chynnydd blynyddol o 0.7% i bris cyfartalog newydd o £360,302. Er bod prisiau cyfartalog tai pâr wedi gostwng 1.1% yn flynyddol i £219,460, mae tai teras wedi gostwng 1% i £171,546 ac mae fflatiau wedi gostwng 4% i £154,508 o gymharu â’r un cyfnod y llynedd. 

Parhaodd Shaun: “Roedd ein rhagolygon diwethaf yn cynnig golwg gweddol optimistaidd i'r dyfodol yn seiliedig ar ddisgwyliad y farchnad bod cyfraddau llog yn agosáu at eu hanterth. Fodd bynnag, ers hynny, i frwydro yn erbyn chwyddiant, mae Banc Lloegr wedi parhau i godi’r gyfradd sylfaenol gyda chynnydd o 0.25% ym mis Mai a chynnydd o 0.5% ym mis Mehefin (felly 5% ar hyn o bryd). 

“Mae marchnadoedd ariannol yn disgwyl cynnydd pellach, gan barhau drwy gydol 2023 ac i mewn i 2024, gan gyrraedd uchafbwynt ar 6.5% o bosibl. Mae codiadau parhaus mewn cyfraddau wedi arwain at ailbrisio cynnyrch morgeisi, ac yn anochel mae hyn wedi bod yn drafferthus. Mae cyfraddau uwch hefyd yn effeithio ar y swm y gall pobl fforddio ei fenthyca ac, o ganlyniad, mae gwerthwyr wedi'i chael hi'n anoddach denu prynwyr ac mae rhai wedi'u gorfodi i gynnig gostyngiadau a gostwng eu disgwyliadau er mwyn sicrhau gwerthiant. Er mai ychydig sy’n rhagweld dirwasgiad eang yn y farchnad dai, mae’n gwbl amlwg bod y farchnad yn mynd yn anoddach.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.principality.co.uk/mortgages/house-price-index.

 

Published: 17/07/2023

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig