Image of a housing development

18 July 2022

Prisiau tai yng Nghymru yn parhau i fod yn gryf yn hanner cyntaf 2022

Mae Cymru’n parhau i weld rhywfaint o’r cynnydd cryfaf mewn prisiau eiddo ledled y DU wrth i bris cyfartalog eiddo godi i fwy na £240,000 am y tro cyntaf yn ail chwarter 2022.

Mae’r ffigurau wedi’u rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch2 2022 (Ebrill-Mehefin), sy’n dangos cynnydd a chwymp prisiau tai yn y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae’r pris cyfartalog uchaf newydd o £240,635 yng Nghymru yn adlewyrchu cynnydd blynyddol o 11.5% a chynnydd chwarterol o 3.1%. Adroddodd hanner yr awdurdodau lleol gynnydd prisiau canrannol dau ddigid yn Ch2, ac adroddodd naw ardal lefelau uchaf newydd hefyd. Mae sawl awdurdod – Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin a Bro Morgannwg – yn parhau i adrodd cynnydd i brisiau blynyddol o fwy na 15%.

 Dywedodd Shaun Middleton, Pennaeth Dosbarthu yng Nghymdeithas Adeiladu Principality: “O fewn cyd-destun pwysau costau byw sylweddol wrth i brisiau bwyd, tanwydd ac ynni barhau i gynyddu y tu hwnt i bob rheolaeth, disgwyl cyfraddau llog uwch oddi wrth Fanc Lloegr, a’r chwalfa mewn lefelau hyder ymysg cwmnïau ac aelwydydd, mae disgwyliad cynyddol y bydd yr economi ehangach yn mynd i mewn i ddirwasgiad yn y chwarteri nesaf. Ledled y DU mae’r pwysau costau byw hyn wedi dechrau cyfrannu at gyfrifiadau fforddiadwyedd benthycwyr, a gallai cyfraddau morgeisi uwch effeithio ar allu a pharodrwydd aelwydydd i fenthyca.

“Mae’r taliadau hyn yn ymddangos yn gymharol fach am y tro, ond maen nhw’n gronnus wrth eu natur a bydd graddau’r cynnydd mewn cyfraddau yn y pen draw, cadernid y farchnad swyddi a gallu aelwydydd i gynyddu eu hincwm yn dylanwadu ar eu heffaith yn y pen draw. Mae’r farchnad dai yng Nghymru yn cychwyn o sefyllfa gref, gan fod prisiau wedi bod yn cynyddu’n raddol ers cyfyngiadau Covid, ond nid yw’n ddiogel rhag yr heriau macroeconomaidd hyn, a’r tebygolrwydd yw y bydd galw am dai a chwyddiant prisiau eiddo yn gostegu dros y chwarteri nesaf.”

Roedd prisiau eiddo i fyny ym mhob ardal awdurdod lleol o’u cymharu â’r un adeg y llynedd, ac eithrio Sir Ddinbych lle’r oedd prisiau bron i 3% yn is. Fodd bynnag, mae cynnydd prisiau mewn sawl awdurdod – gan gynnwys Conwy a Merthyr Tudful yn gymharol fach, a bydd yr awdurdodau hyn wedi gweld gostyngiadau mewn termau real ar ôl cyfrif am gyfradd bennaf y chwyddiant prisiau defnyddwyr.

Mae’n ymddangos bod amodau’r farchnad wedi gostegu, gyda llai o achosion o newidiadau mawr i brisiau chwarterol i’r naill gyfeiriad neu’r llall, er gwaethaf y ffaith bod Powys, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir y Fflint ac Abertawe wedi adrodd cynnydd chwarterol o 5% neu fwy. At ei gilydd, adroddodd 18 o awdurdodau lleol gynnydd chwarterol yn Ch2, i fyny o 14 yn y chwarter blaenorol.

Mae Mynegai Prisiau Tai Cymru Principality yn amcangyfrif y bu cynifer ag 11,900 o drafodiadau yng Nghymru yn Ch2, 9% yn uwch nag yn Ch1 ac ymhell uwchlaw lefelau cyfatebol yn 2019 cyn Covid. Yn ail chwarter 2022, mae gwerthiannau eiddo ar wahân wedi gostwng 19% tra bod gwerthiannau fflatiau i fyny 14%.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.principality.co.uk/mortgages/house-price-index 

 

Published: 18/07/2022

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.