Lesddaliad neu rydd-ddaliad: beth yw’r gwahaniaeth?

Last updated: 01/04/2022

If you’re a first time buyer, the words ‘freehold’ and ‘leasehold’ might be new to you. Knowing the difference between the two legal terms is important.  Here’s why. 

 
Beth yw eiddo rhydd-ddaliad?

Hwn yw’r symlaf o’r ddau derm, a’r hyn y mae’n debyg y byddwch yn ei gysylltu fel arfer â pherchnogaeth cartref. Os ydych yn berchen ar rydd-ddaliad eich cartref, mae’r adeilad a’r tir y mae eich tŷ arno yn eiddo i chi, a bydd hynny’n parhau nes i chi benderfynu ei werthu.

Mae hyn yn golygu bod holl gyfrifoldebau perchnogaeth cartref lawn arnoch chi, gan gynnwys gwneud unrhyw waith atgyweirio a sicrhau eich bod yn cynnal a chadw eich cartref.

Beth yw eiddo lesddaliad?

Mae ffioedd yn gysylltiedig â phrynu eiddo lesddaliad hefyd. Y ffioedd mwyaf cyffredin yw:

  • Rhent tir: ffi am rentu’r tir y mae’r eiddo arno
  • Taliadau gwasanaethau: i dalu costau darparu gwasanaethau i adeilad, ac weithiau amwynderau ac ardaloedd o amgylch yr adeilad
  • Taliadau gweinyddu: gan gynnwys ffioedd caniatâd, er enghraifft i isosod neu wneud addasiadau i’r eiddo

Os ydych yn prynu lesddaliad, gofynnwch i’r asiant eiddo neu’r datblygwr am ddadansoddiad o’r taliadau hyn, a fyddan nhw’n cynyddu bob blwyddyn a faint.

Gyda lesddaliad, rydych yn berchennog yr eiddo am gyfnod penodedig yn unig, ac nid chi yw perchennog y tir y mae wedi’i adeiladu arno.

Yng Nghymru a Lloegr, mae’r rhan fwyaf o fflatiau yn lesddaliad, er y gall tai fod yn lesddaliad hefyd (ar y cyfan mae tuedd i dai newydd-adeiledig fod yn lesddaliad).

Bydd gennych gytundeb cyfreithiol, neu les, gyda’r landlord, a elwir hefyd y rhydd-ddeiliad, yn dweud wrthych am faint o flynyddoedd y byddwch yn berchennog yr eiddo. Ar ôl y cyfnod hwnnw, mae perchnogaeth yr eiddo yn dychwelyd i’r landlord oni bai y gallwch chi ymestyn y les. Mae lesoedd fel arfer yn dechrau am dymor o 99 neu 999 mlynedd.

Os ydych yn ystyried prynu eiddo lesddaliad, sicrhewch faint o flynyddoedd sy’n weddill ar y les. Yn gyffredinol, po leiaf sy’n weddill ar y les y lleiaf yw gwerth eiddo a’r anoddaf y gall fod i’w werthu. Yn arbennig, gall fod yn anodd cael morgais neu werthu eiddo â llai na 70-80 mlynedd yn weddill ar y les.

Perchen ar gyfran o rydd-ddaliad

Os ydych yn lesddaliad ac yn dymuno cael mwy o reolaeth ar eich cartref, gallwch brynu’r rhydd-ddaliad oddi wrth y landlord ynghyd â lesddeiliaid eraill. Mae’n rhaid i o leiaf hanner y lesddeiliaid gytuno i brynu cyfran.

Bydd hyn yn eich galluogi i ymestyn eich les yn weddol rhwydd am hyd at 999 mlynedd.

A ddylwn i brynu rhydd-ddaliad neu lesddaliad?

Beth yw’r gwahaniaeth?

Yn gyffredinol, ystyrir mai rhydd-ddaliad yw’r dewis gorau i brynwyr cartref bron bob amser.

Gyda rhydd-ddaliad, nid oes angen i chi boeni am les yn dirwyn i ben, na thalu taliadau fel rhent tir, a chi sydd â rheolaeth lawn am yr eiddo.

Gyda lesddaliad, nid oes unrhyw reolau safonol ar gyfer pwy sy’n gyfrifol am fannau cymunedol na phwy sy’n rheoli beth. Er enghraifft, os ydych yn prynu fflat lesddaliad, efallai mai’r landlord sy’n berchen ar y rhydd-ddaliad sy’n gyfrifol am adeiladwaith yr adeilad ac ardaloedd cymunedol, ond efallai ddim, felly mae’n bwysig darganfod hyn a phenderfynu beth sy’n iawn i chi. Hefyd os ydych yn berchen ar fflat lesddaliad, dylai’r adeilad fod wedi’i yswirio gan y landlord sy’n berchen ar y rhydd-ddaliad.

Mae’r HomeOwners Alliance, gwefan cyngor ar eiddo, yn rhybuddio y gall asiantau eiddo guddio math perchnogaeth eiddo. Felly mae’n bwysig eich bod yn gwybod eich pethau.

Canfu ymchwiliad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2020 gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fod rhai prynwyr lesddaliad yn cael eu trin yn annheg a bod ffioedd afresymol yn cael eu codi arnynt.

Wrth chwilio am eiddo lesddaliad am y tro cyntaf, neu ymweld ag eiddo o’r fath, mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn awgrymu eich bod yn gofyn am gyngor gan yr asiant eiddo, y datblygwr neu’r rhydd-ddeiliad ar:

  • Nifer y blynyddoedd sy’n weddill ar dymor y les
  • Y rhent tir blynyddol, a fydd yn cynyddu, amlder y cynnydd a dull y cynnydd
  • Y tâl gwasanaethau cyfredol, beth mae hyn yn ei gynnwys ac o leiaf y ddwy flynedd ddiwethaf o daliadau er mwyn i chi weld sut mae’r costau yn newid bob blwyddyn
  • A oes unrhyw waith mawr wedi’i gwblhau yn ddiweddar neu ar y gorwel y bydd gofyn i chi gyfrannu at ei gost
  • A oes unrhyw gyfyngiadau ar sut yr ydych yn defnyddio’r eiddo neu daliadau ar gyfer gweithgareddau penodol – er enghraifft, bod ag anifail anwes neu newid eich boeler
  • A oes unrhyw ofynion ar gyfer cael caniatâd, er enghraifft i isosod neu addasu’r eiddo, ac a fydd ffioedd yn cael eu codi am wneud hynny
  • A yw’r taliadau rhent tir wedi’u talu’n llawn hyd yn hyn a phwy sy’n eu casglu
  • Pwy yw’r rhydd-ddeiliad ac, os oes un, pwy yw’r asiant rheoli mae’n ei ddefnyddio ar gyfer yr eiddo
  • Pa gwmni yswiriant fydd yn yswirio’r adeilad a swm yr yswiriant blynyddol. Mae’n bosibl y bydd hyn wedi’i gynnwys yn yr wybodaeth am daliadau gwasanaethau
  • A yw’r rhydd-ddeiliad wedi cytuno i werthu’r rhydd-ddaliad, neu’n bwriadu gwneud hynny (yn enwedig ar gyfer eiddo newydd-adeiledig). Mae’n bosibl mai hwn yw’r pwysicaf. Mewn rhai achosion gallwch brynu’r rhydd-ddaliad eich hun, mewn rhai achosion ni fydd hyn yn bosibl.
     

 

Click here for our Wales House Price Index page

Dysgwch fwy >

 

What next?

Cliciwch ar yr adrannau isod i archwilio beth mae angen i chi ei wybod ar bob cam o’ch taith i brynu cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig