Cymorth i Brynu - Cymru
Canllaw i gynllun Cymorth i Brynu - Cymru
Yn y Principality, rydym ni wedi bod yn helpu ein Haelodau i brynu eu cartrefi am dros 150 o flynyddoedd. Rydym ni’n deall y gall fod yn amser anodd i gynilo ar gyfer blaendal i brynu eich cartref cyntaf neu i symud i fyny’r ysgol eiddo. Dyma pam ein bod yn falch o fod yn rhan o gynllun Cymorth i Brynu – Cymru.
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi ei chynllunio gan ddefnyddio gwybodaeth oddi ar dudalen Cymorth i Brynu - Cymru.
Os byddwch yn gymwys, mae Cymorth i Brynu – Cymru yn caniatáu ichi brynu eiddo newydd gwerth hyd at £300,000 trwy gael benthyciad rhannu ecwiti gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Mae Cymorth i Brynu – Cymru yn cynnwys 3 rhan:
- Bydd y prynwr yn talu blaendal o 5% o leiaf o bris yr eiddo
- Bydd Llywodraeth Cymru, gyda help Cymorth i Brynu – Cymru, yn rhoi benthyciad rhannu ecwiti o hyd at 20% o bris prynu’r eiddo
- Bydd angen i’r prynwr wedyn gael morgais ar gyfer y gweddill.
Ni chaiff prynwyr sy’n rhan o’r cynllun is-osod eu cartref.
Enghraifft:
O’r adeg y bydd y prynwr yn derbyn y benthyciad rhannu ecwiti bydd angen iddo ef neu hi dalu ffi weinyddol fechan o £1 y mis.
Yna, yn y 6ed blwyddyn, bydd llog o 1.75% y flwyddyn o swm gwreiddiol y benthyciad rhannu ecwiti yn cael ei godi. Wedi hyn, bydd y llog yn cynyddu bob blwyddyn, a’r cynnydd yn cael ei gyfrifo trwy ddefnyddio 1% ar ben y Mynegai Prisiau Manwerthu.
Mae Cymorth i Brynu – Cymru yn agored i unrhyw un sydd eisiau prynu eiddo yng Nghymru ac:
- sy’n prynu eiddo gwerth £300,000, a hwnnw’n cael ei adeiladu o’r newydd
- sydd â blaendal personol o 5% o leiaf
- sy’n gallu fforddio’r ad-daliadau ar forgais ad-dalu â chymhareb benthyciad a gwerth o 75%
- sy’n prynu eu hunig eiddo i fyw ynddo, heb fod yn bwriadu is-osod
Mae Cymorth i Brynu – Cymru yn amodol ar delerau ac amodau penodol, a meini prawf fforddiadwyedd yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru.
Ceir manylion llawn yn www.cymorthibrynucymru.co.uk
- Bydd angen ichi ddod o hyd i eiddo ag adeiladwr sydd wedi cofrestru gyda chynllun Cymorth i Brynu – Cymru
- Cyflwynwch gais i Gymorth i Brynu (Cymru) Cyf
- Bydd Cymorth i Brynu (Cymru) Cyf yn gwneud yn siŵr eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun ac yn gallu fforddio’r ad-daliadau ar forgais ad-dalu
- Os byddwch yn gymwys ac yn bodloni’r meini prawf fforddiadwyedd, bydd Cymorth i Brynu (Cymru) Cyf yn anfon cymeradwyaeth atoch chi, eich cyfreithiwr a’r adeiladwr.
- Wedyn bydd angen ichi gyflwyno cais am forgais llawn i fenthyciwr cofrestredig.
- Os bydd eich cais yn arwain at gynnig morgais gan y benthyciwr, rydych chi bron yno. Gellir cyfnewid contractau, trosglwyddo cyllid ac mae’r gwerthiant wedi ei gwblhau.
Cymorth i Brynu – Cymru
Mynd i’r wefan - Ewch i wefan Cymorth i Brynu – Cymru i weld manylion llawn y cynllun.