10 gweithgaredd Nadoligaidd llawn hwyl am ddim (neu bron iawn)

Credwch neu beidio, gallwch barhau i fwynhau yr ŵyl a chael llawer o hwyl heb orwario.

Dyma ddeg ffordd o wneud hynny.

Ewch ar daith i weld y goleuadau Nadolig lleol

Byddwch yn barod i gael eich cyfareddu a’ch difyrru wrth i chi a'ch teulu neu eich ffrindiau droedio’r strydoedd i weld y goleuadau yn eich ardal.

Mae'n hwyl gyrru neu gerdded o gwmpas a gweld pwy sydd â'r goleuadau Nadolig a'r arddangosfeydd Nadoligaidd mwyaf deniadol. Hefyd, ym mhob cymdogaeth, byddwch bob amser yn gallu dod o hyd i o leiaf un unigolyn sydd wedi mynd dros ben llestri gan droi ei dŷ yn olygfa ysblennydd werth ei gweld. Meddyliwch am arddangosfeydd golau Mark Wahlberg a Will Ferrell yn y ffilm Nadolig ‘Daddy's Home’.

Ewch ar daith gerdded aeafol

Beth all gymharu â diwrnod o aeaf clir a ffres? Gall hyd yn oed ambell i ddiwrnod llwm ym mis Rhagfyr sy’n teimlo fel nad yw hi wedi goleuo’n iawn fod â’i swyn ei hun; wedi'r cyfan, mae’n arwydd bod dyddiau byrraf y flwyddyn yn agosáu sydd wrth gwrs yn dweud wrthym fod y Nadolig ei hun yn agosáu.

Un o'r pethau gorau am fynd am dro yn yr oerfel yw gwybod y byddwch yn dychwelyd i'ch cartref cynnes a chlud wedyn. 

Felly, gwahoddwch rai o’ch ffrindiau, gwisgwch yn gynnes, ac i ffwrdd â chi. Neu os oes gennych chi blant, gallech hyd yn oed ei droi'n helfa sborion, gyda chliwiau Nadoligaidd, danteithion a straeon ar hyd y ffordd. 

Creu traddodiad newydd

Anghofiwch draddodiad drud nad oes neb yn ei hoffi –  faint o bobl sy'n prynu pwdin Nadolig dim ond am eu bod yn teimlo y dylen nhw? – ac yn hytrach mabwysiadwch draddodiad newydd.

Nid oes angen arian arnoch. Gallech, er enghraifft, roi cynnig ar rannu cynhesrwydd y Nadolig: cyn mwynhau gwledd Nadolig, ewch o amgylch y bwrdd a siarad yn eich tro am rywbeth yr ydych chi'n ddiolchgar amdano, yn ogystal â'r hyn yr ydych chi'n edrych ymlaen ato yn y flwyddyn i ddod, ac yn olaf, rhywbeth yr ydych chi'n ei garu neu'n ei werthfawrogi am y person sy'n eistedd wrth eich ymyl.

Cyfnewid danteithion yr Ŵyl wedi’u pobi

Beth am ymuno â ffrindiau, cymdogion neu deulu a chynnal ffair gyfnewid? Dewiswch eitem, fel bisgedi neu mins peis, ac yna pawb i bobi peth. Yna dewch at eich gilydd i rannu'r danteithion. Mae'n esgus i bobi rhywbeth Nadoligaidd a chymdeithasu, a gellid cyflwyno elfen o gystadlu hefyd.

Chwarae bingo ffilmiau Nadolig

Fel y Nadolig ei hun, un rheswm pam eich bod yn caru ffilmiau Nadolig yw eich bod yn gwybod yn y bôn beth fyddwch yn ei gael: o olygfa sglefrio iâ i gwymp eira ar yr adeg berffaith, mae'r rhan fwyaf o ffilmiau Nadolig yn rhannu rhai themâu a digwyddiadau cyffredin.

Ffordd llawn hwyl o fwynhau’r ffilmiau Nadolig ailadroddus hyn yw chwarae Bingo Nadolig. Os ydych eisiau rhoi cynnig arni, gallwch chi a chriw o ffrindiau neu deulu ddod o hyd i gardiau y gellir eu hargraffu am ddim ar-lein, fel hwn. Bob tro y byddwch yn gwylio ffilm Nadoligaidd, ticiwch y golygfeydd clasurol pan fyddwch chi'n eu gweld.

Gwneud dyn eira

Ydy, mae’n rhaid cyfaddef, mae angen un peth allweddol ar hyn nad yw bob amser ar gael. Ond os digwydd i’r stwff gwyn ddechrau disgyn o'r awyr yn ddigon swmpus, yna p'un a oes gennych chi blant ai peidio, ewch allan a gwneud eich dyn eira eich hun.

Adeiladu tŷ bara sinsir

Nid yw'n syndod bod tai bara sinsir mor boblogaidd: maen nhw’n yn edrych ac yn blasu'n wych, ac mae bara sinsir yn rhwydd iawn i'w wneud.

Felly hyd yn oed os nad ydych chi'n llawer o bobydd, gallwch roi cynnig ar y gweithgaredd hwn – a thrwy ei wneud gydag eraill gall fod yn dipyn o hwyl.

Gallwch ddod o hyd i ryseitiau a thempledi ar gyfer eich tŷ ar-lein, fel hwn gan BBC Good Food. Yna mae fyny i chi fod yn greadigol a brolio eich campwaith.

Canu Carolau

Chwiliwch am wasanaeth carolau yn eich ardal a mwynhewch yr awyrgylch, gan ymuno yn y canu efallai. Neu, fe allech chi fynd â phethau gam ymhellach a chreu eich grŵp canu carolau bach eich hun.

Hefyd, ceisiwch ymarfer rhywfaint yn gyntaf, cyn i chi gerdded y strydoedd dan ganu.

Ewch i farchnad Nadolig

Nid oes angen i chi wario arian. Ewch draw a chrwydro i fwynhau'r awyrgylch Nadoligaidd hyfryd.

Gwirfoddoli

Efallai nad dyma eich syniad chi o hwyl y Nadolig. Ond gall gwirfoddoli fod yn werth chweil, ac yn gymdeithasol iawn, wrth i chi gwrdd â llawer o bobl newydd.

Mae gan y Big Issue ganllaw defnyddiol ar sut i ddod o hyd i waith gwirfoddol yn eich ardal leol y Nadolig hwn.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am y Nadolig yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig