Siopa Nadolig: awgrymiadau ar gyfer osgoi straen a dyled

Mae'r Nadolig yn adeg ddrud o'r flwyddyn, mae llawer iawn o gostau ac mae'n hawdd gorwario.

Yn aml, mae hefyd llawer iawn o bwysau ar bawb i brynu anrhegion a danteithion arbennig, a rhoi gwledd i unrhyw westeion.

Dyma rai awgrymiadau a thechnegau i'ch helpu chi i leihau cost eich siopa Nadolig a helpu i wneud y Nadolig yn adeg fwy pleserus heb gymaint o straen. 

Gosod cyllideb

Efallai nad yw'n ymddangos yn Nadoligaidd iawn, ond gall gosod cyllideb gwario i chi'ch hun wneud gwahaniaeth mawr.

Does dim angen i chi greu eich taenlen gymhleth eich hun – yn lle hynny, mae digon o offer ar gael ar-lein, fel hwn gan MoneySavingExpert

Pan fyddwch wedi cyllidebu ar gyfer biliau, costau byw ac ad-daliadau eraill, byddwch yn gwybod faint sydd gennych dros ben.

Ar ôl i chi osod eich cyllideb, cofiwch gadw ati!

Trafod cyn prynu

Mae llawer o bobl yn teimlo dan bwysau mawr i blesio eu hanwyliaid ar adeg y Nadolig, yn enwedig plant ifanc sy’n gofyn am lwyth o bethau.

Ond os ydych chi wedi gosod eich cyllideb ac yn methu fforddio gwario llawer ar anrheg i ffrind neu aelod o'r teulu, yna gall helpu i drafod hyn yn gyntaf. Wedi'r cyfan, efallai fod eich ffrind neu berthynas yn teimlo'r un fath ac eisiau gwario llai hefyd. Drwy drafod yn gyntaf, efallai y gallech chi gytuno ar gyllideb fach ar gyfer anrhegion Nadolig?

Gyda rhai pobl, efallai y byddwch yn penderfynu nad oes angen i chi brynu anrheg i’ch gilydd. Neu, ymhlith teulu estynedig, gallech chi gytuno i brynu anrhegion i’r plant yn unig.

Fel arall, gallech chi drefnu prynu un anrheg fel grŵp o ffrindiau. Gall gytuno ar gyllideb fach ac yna prynu anrheg weithio'n dda.

Gall siarad â ffrindiau a theulu am arian a gwario fod yn lletchwith neu'n anodd, ond mae'n werth rhoi cynnig arni. Mae gan Money Helper, y gwasanaeth cynghori ar-lein, rai awgrymiadau ar gyfer siarad â ffrindiau a theulu am arian.

Dechrau'n gynnar

Dechreuwch gynllunio ar gyfer y Nadolig cyn gynted â phosibl - meddyliwch am brynu pan fydd pethau’n rhad ym mis Ionawr!

Gall prynu anrhegion ar gyfer y Nadolig ym mis Ionawr fod yn anodd – pan fyddwch chi’n barod i symud ymlaen o'r Nadolig - ond gall fod yn amser gwych i ddod o hyd i hanfodion Nadoligaidd fel addurniadau a phapur lapio am bris llai.

Ac mae llawer mwy y gallwch chi ei wneud. Cadwch lygad am ostyngiadau drwy gydol y flwyddyn ac erbyn mis Tachwedd byddwch chi wedi prynu'r rhan fwyaf o'ch anrhegion Nadolig yn barod.

Byddwch yn ofalus gyda chynlluniau Prynu Nawr Talu’n Hwyrach

Mae cynlluniau Prynu Nawr Talu'n Hwyrach (BNPL) yn dod yn ffordd gynyddol boblogaidd o wasgaru taliadau am bethau drud. Maent yn ymddangos yn syniad da gan nad oes rhaid i chi dalu’r gost gyfan ar unwaith.

Ond mae'n hawdd ei orwneud oherwydd gallwch golli golwg ar faint yr ydych chi'n ei wario. Yn wir, roedd mwy na dwy ran o bump (44%) o oedolion y DU a ddefnyddiodd gynllun BNPL i ariannu eu siopa Nadolig y llynedd yn pryderu am eu gallu i’w ad-dalu.

Dangosodd yr ymchwil gan Comparethemarket.com, a arolygodd dros 2,000 o bobl ym mis Ionawr, fod 36% o ddefnyddwyr BNPL yn ei ystyried yn ffordd dda o wasgaru cost y Nadolig dros gyfnod hirach. Y swm cyfartalog a wariwyd gan ddefnyddio cynlluniau BNPL yn ystod cyfnod y Nadolig 2020 oedd £211, ychydig yn fwy na’r £201 yn 2019.

Pan gaiff ei ddefnyddio'n ofalus, gall cynlluniau BNPL fod o gymorth. Fodd bynnag, gallant hefyd annog gwario diangen ac roedd bron i draean (32%) o ymatebwyr yr arolwg yn teimlo ei fod yn gwneud iddynt wario mwy nag y bydden nhw fel arfer, tra bod bron i hanner (44%) wedi prynu mwy o anrhegion drutach.

Felly, os ydych chi'n eu defnyddio, cymerwch ofal a gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw golwg ar faint yr ydych chi'n ei wario.

Defnyddio gwefannau arian yn ôl

Ceisiwch ddefnyddio gwefan ‘arian yn ôl’ pan fyddwch yn siopa am anrhegion ar-lein. Bob tro y byddwch yn prynu rhywbeth drwy un o'r gwefannau hyn – sydd am ddim i gofrestru ar eu cyfer - byddwch yn derbyn taliad bach fel comisiwn.

Manteisiwch ar gynlluniau gwobrwyo

Mae cynlluniau fel cerdyn mantais Boots neu gerdyn harddwch Superdrug yn cynnig pwyntiau y gallwch eu defnyddio yn y siop. Mae eraill yn cynnwys Waterstones Plus a Paperchase Treat Me.

Mae rhai yn well nag eraill, felly gwnewch eich ymchwil. Edrychodd y grŵp defnyddwyr Which? ar y cynlluniau hyn a chanfod y gallwch chi arbed rhwng 50c a £10 am bob £100 y byddwch yn ei wario gyda chynlluniau teyrngarwch, ond os yw prisiau'r siop yn uwch na'i chystadleuwyr, bydd hyn yn golygu na fyddwch chi’n arbed arian.

Daeth i’r casgliad na ddylech chi newid eich arferion siopa dim ond i ennill pwyntiau. Ond os ydych chi eisoes yn defnyddio siop, yna does dim i’w golli wrth ymuno â chynllun teyrngarwch a chymryd pa bynnag fuddion y gallwch chi.

Defnyddio codau disgownt

Bydd rhai manwerthwyr yn cynnig gostyngiad i chi ar y peth cyntaf y byddwch yn ei brynu os byddwch yn cofrestru ar gyfer eu cylchlythyr e-bost. Mae'n werth gwneud hyn oherwydd gallwch chi bob amser ddad-danysgrifio'n syth ar ôl defnyddio’r cod.

Nid oes yn rhaid i chi fod yn gwsmer newydd i gael gostyngiad. Mae digon o fargeinion ar gael ac mae safleoedd defnyddiol fel MoneySavingExpert yn casglu llawer o godau a thalebau mewn un lle er mwyn i chi allu dewis a dethol pa rai i'w defnyddio.

Cymharu prisiau ar-lein

Os ydych chi'n gwneud eich siopa ar-lein, yna peidiwch â phrynu o'r wefan gyntaf sy'n ymddangos ar Google.

Yn hytrach, chwiliwch i weld a allwch chi gael gwell bargen mewn mannau eraill. Diolch byth, dydy hyn ddim yn golygu gwirio pob gwefan fesul un. Yn hytrach, gallwch ddod o hyd i wefan cymharu prisiau i wneud y gwaith i chi. Rhowch gynnig ar Google Shopping – yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw chwilio am y cynnyrch yr ydych chi ei eisiau a chlicio i gymharu prisiau. Mae'n chwilio ar wefannau amrywiaeth o fanwerthwyr gan gynnwys Amazon ac eBay.

Prynu cardiau rhodd am bris gostyngol

Os ydych chi'n gwybod yn union pa siop yr ydych chi'n bwriadu ei defnyddio i brynu rhywbeth, yna dyma ffordd o gynilo ychydig o geiniogau: prynwch gerdyn rhodd am bris gostyngol. 

Mae gwefannau fel Cardyard yn prynu cardiau rhodd gan bobl ac yna'n eu gwerthu am bris gostyngol. Anfonir y rhan fwyaf o gardiau rhodd drwy e-bost fel e-gardiau anrheg.

Prynu yn ail law neu eu gwneud eich hun

Yn bendant, gall pethau ail law fod bron cystal â phethau newydd. Yn ogystal ag arbed arian, mae prynu nwyddau ail law yn llawer mwy cynaliadwy.

Yn ogystal ag Oxfam Online neu eBay, rhowch gynnig ar Amazon Warehouse - ie, Amazon - sy'n gwerthu cynhyrchion ail law, wedi eu defnyddio neu sydd mewn bocsys wedi’u hagor.

Yn yr un modd, os oes gennych chi sgiliau pobi neu grefft, gall rhodd wedi'i wneud â llaw arbed arian i chi a bod yn fwy ystyriol.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am y Nadolig yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig