Sut i reoli eich cyllideb Nadolig

Diweddarwyd ddiwethaf: 25/11/2022

Mewn blwyddyn pan fo pawb yn ceisio gwario llai, cymerwch gamau eleni i gynllunio ymlaen llaw a gosod cyllideb realistig y byddwch yn cadw ati mewn gwirionedd.

Fel hyn gallwch fwynhau Nadolig llawen iawn, heb boeni y bydd yn rhaid i chi dalu amdano yn y Flwyddyn Newydd.

Cyfrifwch faint y gallwch chi fforddio ei wario

Dydy’r Nadolig ddim yn rhad. Dangosodd arolwg yn 2021 gan YouGov bod costau’r ŵyl yn debygol o ddod i gyfartaledd o £1,108, ar gyfartaledd, i bobl ym Mhrydain.

Er nad oes angen i chi wario gymaint â hynny o bell ffordd, gall fod yn anodd cadw costau'n isel oherwydd temtasiwn y danteithion Nadoligaidd, gweithgareddau a’r awydd i roi pleser i’ch anwyliaid.  

Mae'n bwysig dechrau drwy gyfrifo faint y gallwch chi fforddio ei wario'r Nadolig hwn, ac yna blaenoriaethu sut yr ydych chi am ei wario.

Efallai fod gennych chi syniad eisoes o faint o arian sydd gennych yn weddill ar ôl i chi dalu biliau, costau byw ac ad-daliadau dyled. Neu fe all helpu i ddefnyddio teclyn cyllidebu ar-lein, fel hwn gan MoneySavingExpert.

Pan fydd gennych chi gyllideb benodedig mewn golwg, yna gallwch chi ddechrau meddwl am yr hyn sy'n bwysig iawn i chi eleni. Rydych chi’n debygol o fod â thair prif flaenoriaeth ar gyfer eich cyllideb: anrhegion, addurniadau a bwyd.

Bwyd

Mae'n debyg bod cyllidebu faint i'w wario ar fwyd a diod yn lle da i ddechrau gan y byddwch yn gallu gwneud amcangyfrif eithaf cywir o faint y bydd angen i chi ei wario.

Yn gyntaf, nodwch faint o bobl fydd yn bwyta yn eich cartref, a phryd, a bydd hyn yn helpu i gyfrifo faint y bydd angen i chi ei wario ar fwyd a diod. Gallwch ei gadw i leiafswm drwy gynllunio prydau bwyd yn ofalus ac osgoi gwastraff. Cyngor ychwanegol i arbed arian ar eich cyllideb fwyd yw:

  • Prynu pecyn cinio Nadolig sy’n cynnwys y cyfan: er enghraifft mae bwndel cinio Nadolig wedi'i rewi o Asda yn £18.78 ar gyfer wyth o bobl.
  • Manteisiwch i’r eithaf ar eich rhewgell: gall prynu ffrwythau a llysiau wedi'u rhewi fod yn rhatach yn aml ac yr un mor iachus â phrynu rhai ffres. Hefyd, cofiwch rewi unrhyw weddillion fel nad ydyn nhw’n mynd yn wastraff.
  • Rhannu â chymdogion: mae’r ap rhannu bwyd Olio yn cysylltu cymdogion i rannu bwyd dros ben ac eitemau eraill y bydden nhw’n mynd i safleoedd tirlenwi fel arall.

Addurniadau

Oes angen unrhyw addurniadau newydd arnoch, neu a allwch chi ddod i ben yn iawn â’r hyn sydd gennych chi eisoes? Yn achos y rhan fwyaf ohonom, mae'n debyg y gallwn ni.

Eich cost fwyaf mae’n debyg fydd y goeden. Ond mae rhai bargeinion ar gael. Rhowch gynnig ar siopau fel Aldi ac Argos sydd â choed rhad. Neu siopwch ar-lein, a phan fyddwch yn gwneud hynny, defnyddiwch safle cymharu prisiau fel Google Shopping i ddod o hyd i ddewis helaeth am lai na £20.

Gall goleuadau bach fod yn ddrud, ar adeg pan fo costau ynni’n cynyddu. Ond gallwch arbed arian ar eich biliau drwy ddewis goleuadau bach LED sy’n ynni effeithlon; gall gostio o £0.26 i £0.90 i ddefnyddio goleuadau LED dros gyfnod cyfan y Nadolig, yn ôl Checkatrade. Am oleuadau yn yr ardd, prynwch oleuadau solar fel bod yr haul yn cyflenwi eich anghenion ynni.

Anrhegion

Pan fyddwch wedi cyllidebu ar gyfer bwyd ac addurniadau (ac o bosibl unrhyw dreuliau ychwanegol, fel teithio), yna dylech fod â syniad eithaf da o faint sy’n weddill ar gyfer anrhegion.

Eich cam nesaf yw creu rhestr o enwau aelodau’r teulu a ffrindiau y byddwch yn prynu anrhegion iddyn nhw. Ar ôl i chi ei llunio, edrychwch i weld sut y gallwch ei chwtogi. Os byddwch yn siarad â'ch anwyliaid, maen nhw'n debygol o ddeall yn iawn pe bai angen i chi roi llai o anrhegion eleni. Ac o ran y lleill, fel athrawon ysgol neu gefndryd pell, anfonwch neges bersonol mewn cerdyn yn lle rhoi anrheg.

Yna dyrannwch swm ar gyfer pob unigolyn. Ar ôl i chi lunio eich rhestr, cadwch lygad barcud arni, gan nodi faint yr ydych wedi'i wario ac ar bwy gan gadw cyfrif o’ch gwariant cyffredinol. Gallwch wneud addasiadau bach wrth i chi fynd ymlaen, er enghraifft os dewch o hyd i fargen, efallai y bydd ychydig ar ôl i rywun arall ar y rhestr.

Dylai defnyddio'r rhestr hon eich helpu i osgoi prynu’n fyrbwyll neu i osgoi cael eich denu a’ch temtio gan fargeinion yn y siopau, a sicrhau eich bod yn prynu'n bwrpasol.

Mae digon o ffyrdd eraill hefyd o arbed arian ar anrhegion. Darllenwch ein canllaw ar osgoi dyled a straen wrth siopa Nadolig.

Traddodiadau nad oes eu hangen arnoch y Nadolig hwn

Ar ôl i chi gyllidebu ar gyfer bwyd, anrhegion ac unrhyw deithio, rydych chi yna fwy neu lai. Gellir hepgor llawer o draddodiadau eraill heb i neb sylwi mewn gwirionedd! Er enghraifft...

  • Anfon cardiau ✘ (mae'n weddol hen ffasiwn – beth am e-gardiau)
  • Gwleddoedd Nadolig gormodol, gorlawn ✘ (efallai ei bod yn draddodiad i fynd dros ben llestri adeg y Nadolig, ond anghofiwch hyn yn 2022, blwyddyn pan fo cynaliadwyedd ar flaen meddyliau llawer o bobl)
  • Gorwneud pethau gyda goleuadau awyr agored ✘ (mae gosod goleuadau y tu allan yn edrych yn ddeniadol, ond mae croeso i chi adael i'r cymdogion wneud y gwaith eleni)
  • Yr un pyjamas i bawb ✘ (mae'n debyg y gallwch fyw hebddyn nhw, neu ailddefnyddio rhai llynedd)
  • Diodydd siopau coffi ar thema’r Nadolig ✘ (er bod newydd-deb y rhain yn denu, maen nhw’n costio ffortiwn ac nid ydyn nhw’n iach – mae siocled poeth Mint Choc Chip Cafè Nero yn cynnwys yr hyn sy'n cyfateb i 15 llwy de o siwgr)
  • Coblyn ar y Silff ✘ (ddim yn draddodiad Nadolig hanfodol!)
  • Mins peis, pwdin Nadolig a bwydydd traddodiadol eraill ✘ (os ydych chi'n eu hoffi, yna mwynhewch nhw, ond peidiwch â'u prynu dim ond oherwydd eu bod yn draddodiadol a’ch bod yn meddwl y dylech chi)

Canslo’r Nadolig!

Dyma awgrym gan Martin Lewis o Money Saving Expert ac mae'n rhaid cyfaddef ei fod yn ddadleuol ac nid yw’n ddewis i bawb: mae'n gofyn i ddefnyddwyr ei safle ddychmygu eu bod yn taro botwm mawr coch i GANSLO’R NADOLIG, er mwyn osgoi baich ariannol y Nadolig.

Ysgrifennodd yn ei flog Christmas Cold Turkey yn 2018: “If you're really struggling and have nothing, then do truly go cold turkey – see family, spend quality time, think about life, watch the telly, but don't spend money on it. Christmas is just one day. Far more important is a happier, financially less-stressed New Year.”

Os byddai hyn yn cael gwared ar lawer iawn o straen ariannol, efallai ei bod hi’n werth ei ystyried?

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am y Nadolig yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig