Sut i wneud y mwyaf o le bach yn yr awyr agored

Diweddarwyd ddiwethaf: 20/07/2022

Gall hyd yn oed yr ardd neu’r lle lleiaf yn yr awyr agored wneud man gwych i fwynhau ychydig o awyr iach. 

Peidiwch â gadael i faint gyfyngu ar eich dewisiadau: gallech greu hafan heddychlon i fwynhau diod ar ddiwedd y dydd, lle bywiog i fwyta yn yr awyr agored, neu ardd fach ond cynhyrchiol i dyfu eich bwyd eich hun ynddi.

Nid oes angen cyllideb fawr arnoch na sgiliau garddio medrus ychwaith – dim ond ychydig o ddychymyg, amser a pharodrwydd i roi cynnig arni os nad ydych yn arddwr greddfol. 

Dyma rai ffyrdd o wneud y mwyaf o’ch lle bach yn yr awyr agored. 

Yn gyntaf, gwnewch gynllun

Ystyriwch faint o le sydd gennych a sut y gallech ei ddefnyddio. Gwnewch frasluniau os yw hynny’n helpu, i raddfa os yn bosib. Yna gwnewch restr o flaenoriaethau, ac edrychwch i weld beth allai ffitio o bosibl.

Ar y cam cynllunio hwn, cofiwch nad oes angen i chi wneud y cyfan ar unwaith. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi newydd symud i mewn a bod gennych lwyth o flaenoriaethau a chostau eraill sy’n cystadlu yn eich cartref newydd. Efallai y gallech ganolbwyntio ar un prosiect gardd eleni, un arall flwyddyn nesaf ac yn y blaen.

Gwnewch y mwyaf o’r lle sydd gennych

DIY bar

Os oes gennych batio neu lawr pren, mae’n lle da i ddechrau. Dechreuwch drwy ei dacluso, yn enwedig os yw wedi ei esgeuluso. Taflwch unrhyw botiau planhigion sydd wedi torri a sbwriel, a thorrwch blanhigion sydd wedi tyfu’n fawr yn ôl.

Yna ystyriwch beth hoffech chi ei ychwanegu. Nid oes angen llawer iawn o le i ychwanegu bar gardd wedi’i ei wneud eich hun, pwll tân neu bopty pizza syml. Gall ychydig o oleuadau cynnes, wedi’u lleoli’n dda roi bywyd i’r lle hefyd, ac ychwanegu dyfnder i erddi bach.

Delwedd o Garden Patch

Ewch i fyny

Vertical Herb Garden

Yr ateb clasurol i ddiffyg lle yw meddwl yn fertigol yn ogystal ag yn llorweddol. Gall y dull hwn weithio mewn lle yn yr awyr agored hefyd.

Felly cymerwch beth bynnag y gallwch oddi ar y llawr, yn enwedig os oes wal neu ffens gref ar gael i chi. Gallwch osod ambell i silff denau arni, ar gyfer planhigion, cadw offer - neu fel bar syml ar ddiwrnod braf o haf.

Dewis arall yn lle silffoedd yw troi’r wal neu’r ffens yn fan tyfu fertigol. Gallwch brynu bagiau plannu sy’n hongian ar wal yn eithaf rhad. Mae llawer iawn o syniadau ar y we hefyd o ran sut i greu effaith debyg – er enghraifft â chlampiau pibell ddŵr a sgriwiau, gallwch osod eich potiau terracotta neu blastig ar baled.

Delwedd o Seed Pantry

Defnyddiwch sgriniau i greu parthau

Runner Bean Wheelie Bin

Ffordd glasurol arall o greu argraff o fwy o le – a dod â mwy o apêl a phersonoliaeth i’ch gardd – yw ei rhannu’n barthau ar wahân. Gall pob un fod â’i bersonoliaeth a’i ddiben ei hun.

Gall hyn fod yn haws ac yn rhatach nag y byddech yn ei feddwl. Gallwch ddefnyddio bambŵ, helygen neu gorsen i greu sgrin, sy’n hawdd cael gafael arnyn nhw mewn canolfannau garddio neu ar-lein. Neu, os ydych yn ddigon amyneddgar, gallech ychwanegu trelis i dyfu planhigion arno. Mae sgriniau o’r fath hefyd yn wych ar gyfer cuddio pethau hyll fel y bin olwynion pan nad oes llawer o le.

Ffordd arall o greu’r syniad o barthau yw ychwanegu llwybr, yn enwedig os gallwch greu un sy’n troi ar ychydig o ongl, yn hytrach na mynd yn syth i lawr canol eich lawnt.

Hefyd, efallai y gallech ddefnyddio’r meddylfryd fertigol yn eich parthau, gan greu gwahanol lefelau. Nid oes angen iddo fod yn uchel iawn, ond os gallwch chi ychwanegu gris neu ddau, gallai roi safbwynt newydd i’ch gardd.

Delwedd o Urban Dwellers Scrimping

Crëwch ardd cegin

Kitchen Garden

Beth am wneud un o barthau eich gardd yn ardd cegin fach? Nid oes angen llawer o le i dyfu llysiau (fel tomatos neu ffa dringo) a bydd perlysiau yn hapus mewn potiau.

Gan fynd yn ôl at eich thema fertigol, gall rhai llysiau a ffrwythau dyfu’n dda mewn basgedi sy’n hongian hefyd.

Delwedd o Pinimg

Gwnewch le ar gyfer plant

Childrens Outdoor Kitchen

Os oes gennych blant ifanc, efallai y bydd ganddyn nhw syniadau gwahanol iawn am sut i ddefnyddio’r lle gwerthfawr hwnnw yn yr awyr agored.

Ffordd dda o gadw pawb yn hapus yw rhoi un rhan o’ch gardd i’ch plant bach. Er enghraifft, gall cegin fwd fach eu diddanu yn rhad iawn heb ddefnyddio gormod o le. Neu, os ydych yn dewis tyfu’ch planhigion eich hun, gallech roi ‘llain’ (neu botyn neu ddau o leiaf) i’r plant ofalu amdanyn nhw.

Delwedd o Etsystatic

Crëwch eich noddfa bersonol eich hun

Garden Retreat - Lattice Wall

Cofiwch gynnwys eich man personol eich hun hefyd. Edrychwch am gornel fach a allai fod yn lle eistedd cysurus. Mae digon o ffyrdd o ddiffinio hwn fel ‘lolfa’ yn eich gardd. Er enghraifft, mae matiau awyr agored yn fforddiadwy a byddan nhw’n helpu i greu canolbwynt, gydag ychydig o ddodrefn bach. Neu gallech ychwanegu canopi neu gazebo dros y patio, i roi ychydig o gysgod a phreifatrwydd os gall eich cymdogion weld i mewn i’ch gardd.

Delwedd o Amazon

Dewiswch y dodrefn iawn

Garden Furniture

Yn amlwg, mewn lle bach, nid ydych chi eisiau ei lenwi â gormod o ddodrefn.

Gall set bistro eithaf bach fod yn berffaith – dwy gadair a bwrdd bach sy’n plygu er mwyn eu cadw yn y sied. Mae’n awgrym syml ond gall defnyddio dodrefn sy’n plygu wneud gwahaniaeth mawr pan fyddwch yn ceisio arbed lle. Dewis arall yw mainc sydd hefyd yn gwpwrdd cadw.

Neu os ydych yn arddwr brwdfrydig, efallai yr hoffech dŷ gwydr bach hefyd. Gallwch eu prynu yn eithaf rhad, neu eto, gallwch roi cynnig ar wneud eich un eich hun – ffrâm sgwâr sylfaenol ac arno ddalenni clir polycarbonad. Ar wefannau fel Pinterest neu YouTube ceir llu o brosiectau fel hyn i’w gwneud eich hun, felly byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth sy’n iawn ar gyfer eich gardd chi.

Yn ddigon buan, bydd eich lle bach yn yr awyr agored yn cyflawni llawer mwy na’r disgwyl. Mwynhewch.

Deweledd o The Independent

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig