Telerau ac Amodau Eich Cyfrif
Mae'r Telerau ac Amoday hyn, a'r Telerau ac Amodau Cynilo, yn berthnasol i'ch defnydd o Eich Cyfrif.
I gofrestru ar gyfer gwasanaeth ar-lein Eich Cyfrif, bydd angen i chi fod:
- Yn gwmser ar hyn o bryd gyda chyfrif Principality gweithredol
- 16 oed neu drosod
I fynd at y gwasanaeth Eich Cyfrif ar-lein, bydd angen bod gennych:
- Rif ffôn symudol cyfredol sydd wedi ei gofrestru i chi fewngofnodi'n ddiogel iddo. Rhaid i'r rhif ffôn symudol fod eich un chi ac nid yn un sy'n cael ei rannu gan unrhyw un arall; a
- Cyfeiriad e-bost er mwyn i ni anfon negeseuon diogel atoch a diweddariadau gwasanaeth Eich Cyfrif. I leihau unrhyw risg i'ch cyfrif cynilo, dylai'r cyfeiriad e-bost hwn fod yn un sy'n cael ei ddefnyddio gennych chi yn unig.
Gallwch weld unrhyw rai o'ch cyfrifon cynilo neu morgais Principality gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein, Eich Cyfrif.
Os ydych yn cofrestru ar gyfer Eich Cyfrif, dylech sicrhau eich bod yn:
- Cadw unrhyw fanylion mewngofnodi a manylion eich cyfrif yn ddiogel
- Osgoi defnyddio dolenni mewn negeseuon e-bost a theipio www.principality.co.uk/your-account i mewn i'ch porwr gwe
- Dywedwch wrthym cyn gynted â phosibl os ydych yn credu bod eich cyfrif mewn perygl e.e. bod eich manylion mewngofnodi wedi eu defnyddio heb eich caniatâd
Byddwn:
- Byth yn gofyn am eich manylion mewngofnodi
- Yn atal eich cyfrif rhag cael ei ddefnyddio os ydym ni'n credu yn rhesymol bod unrhyw risg
- Yn dweud wrthych chi cyn gwneud hyn oni bai na allwn wneud hyn am resymau cyfreithiol
I wybod mwy am eich diogelwch ar-lein. Mae hwn yn cynnwys canllawiau ar ddefnyddio rhwydweithiau diogel, cyfrineiriau a gwe-rwydo.
Mae gan Eich Cyfrif gwcis ac wrth ddefnyddio'r wefan rydych yn cytuno iddynt. Os byddwch yn analluogi cwcis ar gyfer Eich Cyfrif, ni fyddwch yn gallu ei ddefnyddio. I wybod mwy - ein polisi cwcis.