How to complain

Ein nod bob amser yw rhoi gwasanaeth o ansawdd ragorol. Er hyn, rydym yn cydnabod y gallai problemau godi. Mae ein gweithdrefn gwynion yma i'ch helpu chi i gael ateb cyflym a boddhaol.

Gwneud cwyn

Gallwch wneud cwyn:

Sut y caiff cwyn ffurfiol ei thrin

Byddwch yn derbyn llythyr i gydnabod eich cwyn yn ffurfiol. Caiff hwn ei anfon atoch o fewn 10 diwrnod.

Byddwn bob amser yn ymchwilio i gwynion mor gyflym â phosibl, ond os yw eich cwyn yn dal ar agor ar ôl 4 wythnos, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf.

Os yw eich cwyn yn dal ar agor ar ôl 8 wythnos byddwn yn ysgrifennu eto.

Cwynion am wasanaethau talu

Os yw eich cwyn am wasanaeth talu (e.e. trosglwyddiad telegraffig, taliadau cyflymach), byddwn yn ysgrifennu atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am eich cwyn ar ôl 3 wythnos os yw eich cwyn yn dal ar agor – ac yna byddwn yn ysgrifennu eto gyda phenderfyniad terfynol ar eich cwyn o fewn 7 wythnos.

Ein penderfyniad terfynol

Efallai y bydd ein Adran Gwynion yn ceisio eich ffonio chi ond byddwn bob amser yn rhoi ymateb ysgrifenedig neu drwy e-bost. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi beth oedd ein penderfyniad ynghylch eich cwyn, ac yn rhoi'r rhesymau dros ein penderfyniad.

Bydd cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ar bob llythyr i chi gysylltu â ni os ydych yn dymuno trafod ymhellach.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Os nad ydych yn fodlon gyda'n hymateb terfynol, gallech ei gyfeirio at y Gwasanaeth Obwdsmon Ariannol i'w adolygu. Os yw hyn yn wir, byddwn yn ysgrifennu atoch. 

Os ydych yn dymuno cyfierio cwyn at yr Ombwdsmon Ariannol, rhaid i chi wneud hynny o fewn 6 mis o ddyddiad ein hymateb terfynol.

Gallwch weld ein adroddiad diweddaraf ar gwynion ar ein tudalen: Cwynion.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig