Egluro’r dreth gyngor

Beth mae angen i chi ei wybod

Diweddarwyd ddiwethaf: 07/04/2021

Pwy sy’n gorfod talu’r tâl hwn, am beth ydyw, a faint fydd y gost i chi? Darllenwch i gael atebion.

Beth yw’r dreth gyngor a phwy sy’n ei thalu?

Ewch i  wefan Treth Gyngor y llywodraeth i gael mwy o wybodaeth am faint yw eich treth gyngor, pwy sy’n gyfrifol am ei thalu ac a allwch gael gostyngiad.

Y dreth gyngor yw ffi flynyddol a godir gan awdurdodau lleol i helpu i dalu am wasanaethau yn eich ardal leol, fel casglu sbwriel, gwasanaethau heddlu a chynnal a chadw’r ffyrdd.

Fel arfer, mae’n rhaid i chi dalu’r dreth gyngor os ydych yn 18 oed neu’n hŷn ac yn berchen ar eich cartref eich hun neu’n rhentu.

Mae rhai eithriadau. Er enghraifft, os ydych yn byw ar eich pen eich hun – neu chi yw’r unig oedolyn – cewch 25% o ostyngiad ar eich bil treth gyngor. Hefyd, os ydy pawb sy’n byw yn eich cartref yn fyfyriwr, ni fydd yn rhaid i chi dalu o gwbl.

Faint fyddwch chi’n ei dalu?

Gallwch ddod o hyd i’ch awdurdod lleol a gweld faint o dreth gyngor y mae angen ei thalu trwy ddefnyddio’r dolenni hyn:

Bydd swm eich treth gyngor yn dibynnu ar ffactorau fel maint eich cartref a’i leoliad. Mae pob cartref mewn band prisio y dreth gyngor a chodir swm gwahanol o dreth gyngor ar bob band.

Mae gan Loegr wyth band Treth Gyngor o A, sef y rhataf, i H. Ar y llaw arall, mae gan Gymru naw band o A i I.

Byddwch yn cael bil ym mis Ebrill bob blwyddyn a byddwch fel arfer yn talu’r ffi mewn 10 rhandaliad misol ac yna dau fis heb daliadau. Fodd bynnag, gallwch ofyn i’r cyngor rannu’ch taliadau Treth Gyngor dros 12 mis os yw hynny’n haws i chi gyllidebu ar ei gyfer.

Beth am brynwyr tro cyntaf?

Os ydych yn gobeithio camu ar yr ysgol dai, mae’n bwysig cofio am y dreth gyngor wrth gynilo a chynllunio’ch cyllideb.

Mae hefyd yn werth gwirio faint o dreth gyngor y byddai’n rhaid i chi ei thalu ar unrhyw dŷ rydych yn ystyried ei brynu i sicrhau y gallwch ei fforddio. Yn y tymor hir, gall y gwahaniaeth mewn bandiau treth gyngor gronni.

Beth sy’n digwydd os nad ydych yn talu’r dreth gyngor?

Mae’n hanfodol gwneud taliadau’r dreth gyngor yn brydlon.  Os byddwch ar ei hôl hi ac os na fyddwch yn gweithredu’n gyflym, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y flwyddyn gyfan ymlaen llaw. 

Os na fyddwch yn talu, gallai eich cyngor fynd â chi i’r llys. 

Os na allwch dalu’r Dreth Gyngor, mae Cyngor ar Bopeth yn argymell eich bod yn gofyn i’ch cyngor a fydd yn gadael i chi ei dalu mewn symiau llai bob mis. Mae'n ychwanegu, os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael gostyngiad ar eich bil y Dreth Gyngor.

 

Click here for more on Home Insurance and Protection

Dysgwch fwy >

Cofiwch

P’un a ydych yn rhentu eich cartref neu’n berchen ar eich cartref, mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth gyngor.

Cliciwch ar yr adrannau isod i archwilio beth mae angen i chi ei wybod ar bob cam o’ch taith i brynu cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig