Prynu tŷ: Cael cyfreithiwr
When buying your first home, you’ll need the help of a legal specialist. This could either be a solicitor or a licensed conveyancer. So, what do solicitors and conveyancers do? When do you need them? And how do you find a good one?
Conveyancing is the legal transfer of home ownership from the seller to the buyer. Your property solicitor or conveyancer is a specialist professional who takes care of all the legal paperwork involved in transferring a property from one person to another.
While reading about the home-buying process, you may see the terms ‘solicitor’ and ‘conveyancer’ used interchangeably. There is a difference though:
- Licensed conveyancers are specialists in property, but may not be able to help with more complex legal issues.
- Solicitors are legally qualified, and can help with both conveyancing and any other legal issues which may arise. However, they’re likely to be more expensive.
Bydd cyfreithiwr neu drawsgludwr yn cyflawni nifer o swyddogaethau pwysig yn y broses o brynu cartref.
Ymdrin â chontractau
Bydd cyfreithiwr yn ymdrin â manylion y contractau, a fydd yn eich arbed chi rhag gorfod darllen tudalennau o iaith gyfreithiol. Yn y lle cyntaf, bydd yn gofyn am gontract drafft oddi wrth drawsgludwr neu gyfreithiwr y gwerthwr. Bydd hefyd yn caffael copïau o ddogfennau teitl y gwerthwr, a ffurflen gosodiadau a chynnwys yr eiddo – sydd yn y bôn yn dweud wrthych beth fydd yn dod gyda’r tŷ, a'r hyn na fydd yn dod gydag ef.
Bydd eich cyfreithiwr hefyd yn ymdrin â'ch benthyciwr morgais, ac weithiau'n gwneud gwaith cyfreithiol angenrheidiol ar ei ran. Ac yna yn y pen draw fe fydd yn ymdrin â chyfnewid contractau, a chwblhau'r broses brynu.
Dod o hyd i wybodaeth gan y gwerthwr
Bydd eich cyfreithiwr hefyd yn gofyn cwestiynau perthnasol i'r gwerthwr, a allai ddatgelu a oes unrhyw broblemau o ran yr eiddo. Er enghraifft, gall hyn ddod ag unrhyw anghydfod ffiniau i'r amlwg. Bydd y cyfreithiwr wedyn yn cadw cofnod o'r ymatebion, a allai fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol pe baech yn canfod bod yr eiddo wedi ei gamddarlunio i chi.
Cynnal chwiliadau
Er mwyn sicrhau ymhellach fod popeth yn agored a didwyll o ran yr eiddo, mae angen i gyfreithiwr neu drawsgludwr wneud ychydig o ymchwil.
Bydd angen gwneud chwiliadau gyda’r cyngor lleol, a allai ddatgelu problemau o ran rheoli adeiladu, cynlluniau ffyrdd cyfagos ac ati. Bydd gwirio gyda Chofrestrfa Tir EM yn dangos a oes hawl tramwy drwy'r ardd, er enghraifft. Hefyd mae chwiliadau draenio ac amgylcheddol i’w gwneud.
Bydd pob un o'r chwiliadau hyn yn golygu ffi, a bydd y cyfreithiwr fel arfer yn casglu hon ymlaen llaw.
Ymdrin â Chofrestrfa Tir EM
Mae Cofrestrfa Tir EM yn cofrestru perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr. Bydd eich cyfreithiwr yn cofrestru’r trosglwyddiad perchnogaeth i chi, gan ei wneud yn swyddogol. Dylai cost hyn fod rhwng tua £250 a £500, ac mae'n rhaid ei dalu erbyn y dyddiad cwblhau.
Bydd hefyd yn caffael eich gweithredoedd teitl newydd, a’u rhoi i'ch benthyciwr morgais.
Noder bod gan yr Alban ei chofrestr ei hun.
Rhoi cyngor cyfreithiol i chi
Os bydd unrhyw faterion cyfreithiol yn codi, mae cyfreithiwr yn gymwysedig i roi cyngor i chi. Gall hyn fod yn achubiaeth wirioneddol, ac nid yn rhywbeth y byddwch yn ei gael o reidrwydd pe baech yn dewis cyflogi trawsgludwr.
Trosglwyddo'r arian i dalu am eich eiddo
Yn olaf, mae'r cyfreithiwr yn ymdrin â'r trafodiadau ariannol. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo arian ar gyfer yr eiddo, a thalu’r dreth stamp.
Mae'r broses drawsgludo yn dechrau ar ôl i'r cynnig yr ydych chi wedi'i wneud am yr eiddo gael ei dderbyn. Er, nid yw'n syniad gwael cael rhywun yn barod cyn y cam hwn, er mwyn atal unrhyw oedi.
Mewn gwirionedd, mae'n well cael cyn lleied o amser â phosibl rhwng derbyn eich cynnig a chyfnewid contractau, oherwydd byddwch yn lleihau'r siawns o gael eich gasympio. Dyma sy’n digwydd pan fydd eich cynnig wedi ei dderbyn, ond wedyn mae'r gwerthwr yn derbyn cynnig uwch gan rywun arall.
O gofio hyn, mae'n werth dod o hyd i'r cyfreithiwr neu'r trawsgludwr iawn cyn cyrraedd y cam hwn. Os oes gennych chi rywun yn barod i ddechrau ar y gwaith, gallwch ddechrau eu cyfarwyddo cyn gynted ag y derbynnir y cynnig.
Fel y soniwyd eisoes, mae'n werth treulio ychydig o amser yn ymchwilio. Y man cychwyn naturiol i lawer yw ar-lein. Gall hyn gynnig nifer ofnadwy o ddryslyd o ddewisiadau, ond dylech allu manteisio ar sgoriau ac adolygiadau. Hefyd, peidiwch â theimlo rheidrwydd i ddewis cyfreithiwr lleol. Gallai dewis un sy’n lleol i’r eiddo ei hun olygu gwell gwybodaeth o'r ardal. Er hynny, gallech gyflogi rhywun o unrhyw le yn y wlad.
Gallech hefyd ystyried cael argymhellion personol oddi wrth ffrindiau neu deulu, neu ofyn i'ch rhoddwr benthyciadau neu frocer morgais, yn enwedig os oes ganddyn nhw restr gymeradwy o gyfreithwyr maen nhw’n eu defnyddio.
Os yw eich gwerthwr tai yn argymell cyfreithiwr, edrychwch i weld sut mae ei bris yn cymharu ag eraill cyn i chi ymrwymo i ddim byd. Gallai cymharu fel hyn eich atal rhag talu mwy na’r pris arferol.
Mewn gwirionedd, mae’n werth cymharu prisiau bob amser wrth ystyried pa gyfreithiwr i'w ddefnyddio. Gall rhai godi un ffi unigol, gall eraill godi cyfradd fesul awr, a gall rhai hyd yn oed ofyn am ganran o werth yr eiddo.
Wrth wneud cymhariaeth, gwnewch eich symiau a chynnwys yr holl gostau – gan gynnwys TAW – i wneud yn siŵr eich bod yn cymharu tebyg â’i debyg.
Yn ogystal â'r gost, dylech hefyd sicrhau bod eich arbenigwr eiddo dewisol wedi'i achredu'n iawn. Gwiriwch fod eich cyfreithiwr yn aelod o Gymdeithas y Cyfreithwyr os ydych yng Nghymru neu Loegr, neu Gymdeithas y Gyfraith yr Alban. Dylai hefyd fod yn aelod o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Os dewiswch drawsgludwr yn hytrach na chyfreithiwr, gwiriwch ei fod yn aelod o Gyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig (CLC).
What next?
- Use our deposit calculator to work out how to save a deposit for your first home.
- Download our free First Home Steps app for a pocket-guide to budgeting, planning, saving, and buying your first place.
- Explore more blogs in our First Time Buyers hub.