Yswiriant Bywyd a Chynlluniau Diogelu Principality gan Vita

Rydym wedi partneru gyda Vita, Arbenigwr Diogelu Annibynnol yn y DU. Mae Vita yn cynnig cyngor arbenigol ac mae'n gallu mynd at 'y farchnad gyfan', sy'n golygu y bydd yn rhoi cyngor i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o gynlluniau yswiriant bywyd a chynlluniau diogelu a allai helpu i ddarparu ar gyfer eich dyfodol ariannol chi a'ch teulu.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl gan Vita:


White speech bubble icon

Gwasanaeth a chyngor diduedd heb ffi


White speech bubble icon

Call centres open 24/7 - for the support you need, when you need it


Image of a trophy

Gwasanaethau sydd wedi ennill gwobrau – 15 Gwobr proffil uchel yn y 10 mlynedd diwethaf


White speech bubble icon

Call centres open 24/7 - for the support you need, when you need it


Image of hands shaking

Gwasanaeth hawliadau wedi ei neilltuo – cymorth gan gynghorydd wedi ei neilltuo i chi


White speech bubble icon

Call centres open 24/7 - for the support you need, when you need it


Image of bullet point list

Atebion wedi eu teilwra i'ch amgylchiadau a'ch cyllideb chi


White speech bubble icon

Call centres open 24/7 - for the support you need, when you need it

Trefnwch apwyntiad heddiw:

Beth gall Vita ei wneud i mi?

Mae diogelwch ariannol yn rhoi tawelwch meddwl i chi a'ch anwyliaid, drwy wybod, pe byddai rhywbeth yn digwydd i chi, y byddai eich aelodau eich teulu wedi'u diogelu'n ariannol. Gallai cynhyrchion diogelu eich amddiffyn rhag amgylchiadau fel colli swydd, salwch critigol neu farwolaeth. Felly, os ydych ar ddechrau eich bywyd, os oes gennych deulu neu os ydych yn chwilio am ddiogelwch yn hwyrach mewn bywyd, gallwn helpu i'ch diogelu.

Mae cynghorwyr cyfeillgar Vita ar gael i ateb eich cwestiynau, rhoi cyngor arbenigol a gwneud argymhellion ar:

  • Yswiriant bywyd morgais - sydd wedi ei gynllunio i dalu eich morgais os byddwch yn marw yn ystod cyfnod y polisi.
  • Yswiriant salwch critigol - sydd wedi ei gynllunio i dalu cyfandaliad os cewch ddiagnosis o salwch critigol.
  • Diogelu incwm - sydd wedi ei gynllunio i dalu swm misol os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anaf sy'n achosi colli enillion.
  • Yswiriant bywyd teulu - sydd wedi ei gynllunio i ddarparu incwm i'ch teulu os byddwch yn marw.

Nid cynilion na chynhyrchion buddsoddi yw'r rhain ac nid oes gwerth arian parod iddynt os na fyddwch yn gwneud hawliad.

Gwybodaeth i ddeiliaid polisi Legal & General

Os ydych chi wedi prynu polisi Yswiriant Bywyd Morgais, Yswiriant Bywyd Morgais gyda pholisi Yswiriant Salwch Critigol neu Bolisi Budd Diogelu Incwm Legal & General yn flaenorol a'ch bod eisiau siarad gyda rhywun am eich polisi, cysylltwch â Legal & General:

Ar gyfer ymholiadau, ffoniwch Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyffredinol ar 03700 600 015 *

Os oes angen i chi wneud hawliad, ffoniwch Legal & General ar 0800 137 101 *

Ewch i dudalen we Cymorth Yswiriant a Chysylltu Legal & General.

Gallwch fod yn sicr y bydd eich hawliad yn cael ei drin yn unigol ac yn bersonol.  Ar ôl eich galwad gyntaf, bydd un person yn gyfrifol am reoli eich hawliad o'r dechrau i'r diwedd.

*Gallai galwadau gael eu recordio a'u monitro.