Offer hanfodol y mae eu hangen ar bob perchennog tŷ

Diweddarwyd ddiwethaf: 04/02/2022

O hongian rheiliau llenni a gosod lluniau ar y wal i dasgau o amgylch yr ardd, yn hwyr neu’n hwyrach mae'r rhan fwyaf o berchnogion tai yn rhoi cynnig ar rywfaint o waith DIY.

Wrth gwrs, mae angen offer. Oni bai eich bod yn bwriadu gwneud gwaith adnewyddu mawr, mae'n annhebygol y bydd angen amrywiaeth enfawr o offer arnoch. Ond mae rhai offer hanfodol sydd eu hangen ar bob perchennog tŷ.

Felly, dyma ein rhestr o'r hanfodion pwysicaf. 

Tâp mesur

Mae angen tâp mesur ar bob perchennog tŷ. P'un a yw'n mesur dodrefn pan fyddwch chi’n symud i mewn am y tro cyntaf, neu'n rhoi cynnig ar rywfaint o DIY, dyma un o’r rhai mwyaf hanfodol.

Bydd unrhyw dâp yn iawn, ond ceisiwch gael gafael ar dâp mesur sy'n 5m o hyd ac yn eithaf llydan, fel na fydd yn plygu drwy’r amser wrth i chi fesur.

Tyrnsgriwiau

Un peth arall sy'n hanfodol ar gyfer DIY sylfaenol yw hen dyrnsgriw dibynadwy. 

Prynwch ddau dyrnsgriw pen gwastad, un mawr ac un bach, a dau dyrnsgriw pen-croes, un mawr ac un bach. Gelwir y rhain hefyd yn dyrnsgriwiau Phillips.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld bod angen rhai tyrnsgriwiau bach iawn arnoch, sy'n ddefnyddiol ar gyfer agor caead batri mewn teclynnau.

Morthwyl

Beth sydd i'w ddweud? Nid yw morthwylion wedi newid llawer dros y blynyddoedd. Maen nhw’n cyflawni’r gwaith yn iawn.

Morthwyl crafanc yw'r dewis gorau ar gyfer gwaith DIY sylfaenol amlbwrpas, oherwydd gellir defnyddio ei grafangau siâp ‘v’ i dynnu hoelion neu i wneud gwaith crowbar.

Gallwch gael rhai sydd â phennau dur gefail ollwng neu rai sy’n gytbwys o ran disgyrchiant gyda’r pwysau wedi ei ddosbarthu’n gyfartal, ond ar y llaw arall, gallwch wario llai na £10 a chael offeryn syml sy'n ddigon da a chadarn.

Allweddi Allen

Bydd pobl sy’n hoffi dodrefn o Ikea a pherchnogion beiciau yn gwybod pa mor werthfawr yw allweddi Allen. Ond mae'n syndod pa mor aml y mae perchnogion tai angen dod o hyd i un o'r rhain er mwyn gosod sgriwiau sydd â phennau gyda thoriadau hecsagonol mewnol (y siâp hecsagonol hwnnw sy'n rhoi’r enw arall iddynt, allweddi hex).

Mynnwch set o wahanol feintiau a chadwch unrhyw rai a gewch chi am ddim gyda dodrefn pecyn fflat gan fod allweddi Allen yn offer na allwch chi byth fod â gormod ohonyn nhw.

Sbaner cymwysadwy

Mae sbaner cymwysadwy, a elwir hefyd yn dyndro cymwysadwy, yn offeryn amlbwrpas sydd â genau y gellir ei gau neu ei agor i afael yn y nytiau a’r bolltau.

Os nad oes defnydd arall iddo, mae'n debyg y bydd ei angen arnoch i dynhau'r sedd tŷ bach o bryd i'w gilydd.

Gefeiliau wedi'u hinswleiddio

Mae'n debyg y byddwch yn defnyddio eich gefeiliau yn fwy nag y byddech yn ei ddisgwyl, i dynnu gwrthrychau ystyfnig, i dorri neu i ddal deunyddiau.

Ar gyfer set o dair gefail wedi'u hinswleiddio, rydych yn debygol o wario rhwng £10 a £20.

Dril diwifr

Mae dril diwifr, gyda darnau dril cysylltiedig yn offeryn hanfodol i hyd yn oed y rhai mwyaf amharod i wneud gwaith DIY.

Yn ogystal â’r swyddogaeth amlwg o ddrilio tyllau, bydd gallu eich dril i droi sgriwiau hefyd o gymorth gwirioneddol o amgylch y tŷ.

Ar gyfer gwaith achlysurol, gallwch brynu dril diwifr da am lai na £50.

Ysgol

Ni fydd hon yn ffitio yn eich blwch offer, ond bydd yn rhan hanfodol o'ch offer.

Heb ysgol, sut gallwch chi estyn i newid bwlb golau, neu glirio cafnau glaw?

Llif llaw

Llifiau bwa, llifiau ffret, llifiau crynion... aiff y rhestr yn ei blaen. Er y gallech fod â chasgliad aruthrol un diwrnod, am y tro, gallwch ddechrau gyda llif llaw yn unig.

Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith coed yn fuan, rydych yn dal yn debygol o fod angen yr offeryn sylfaenol hwn ar gyfer gwaith amlbwrpas o amgylch y cartref neu'r ardd. Neu hyd yn oed i dorri'ch coeden Nadolig yn ddarnau ym mis Ionawr.

Am lif llaw safonol, disgwyliwch dalu tua deg punt.

Blwch offer

Blwch offer sylfaenol plastig yw'r cyfan sydd ei angen arnoch i storio eich offer newydd, a bydd yn eich galluogi i'w pentyrru'n daclus mewn un lle fel nad ydynt yn y ffordd, ond rydych bob amser yn gwybod lle maen nhw.

Mae'n ddefnyddiol i chi brynu blwch gyda llawer o adrannau bach i gadw sgriwiau, hoelion a ffasnyddion eraill.

Hefyd, cofiwch y bydd eich casgliad o offer yn anochel yn cynyddu dros y blynyddoedd, felly gadewch rywfaint o le ar gyfer ychwanegu rhai newydd. 

Offer diogelwch

Byddwch yn ofalus wrth wneud gwelliannau i'r cartref, ni waeth pa mor fach, oherwydd mae llawer ohonom yn cael damweiniau. Yn ôl data gan NHS Digital, yn 2020/21, roedd angen i fwy na 5,600 o bobl gael eu derbyn i'r ysbyty ar ôl dod i gysylltiad ag offeryn llaw wedi'i bweru a derbyniwyd mwy na 2,700 ar ôl damwain gydag offeryn llaw heb ei bweru fel morthwyl neu lif.

Rhan bwysig o gadw'n ddiogel yw defnyddio'r offer diogelwch cywir. Felly, o leiaf, dylai fod gennych bâr go lew o fenig, mwgwd ar gyfer paentio neu wrth ddefnyddio unrhyw ddeunydd sy'n cynhyrchu mygdarth gwenwynig neu lwch, a sbectol ddiogelwch ar gyfer tasgau a fydd yn creu llwch a malurion.

Ar ôl cael yr offer cywir, ewch ati i fwynhau manteision gwaith DIY: o arbed arian i gael y teimlad cynnes hwnnw o foddhad pan fyddwch wedi gosod, gwneud neu wella rhywbeth i gyd ar eich pen eich hun.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig