Canllaw ar newid biliau eich cartref
Diweddarwyd ddiwethaf: 02/03/2022
P’un a ydych yn symud tŷ neu eisiau dod o hyd i gyflenwr rhatach ar gyfer gwasanaethau a chyfleustodau’r cartref, dyma beth sydd angen i chi ei wybod am newid eich biliau.
- Ffôn cartref a band eang
- Biliau dŵr
- Nwy a thrydan
- Yswiriant cartref
Os ydych chi eisiau newid eich cyflenwr ffôn a band eang, yna dechreuwch gyda'ch cwmni presennol. Ffoniwch nhw a gofynnwch am bris gwell. Yn aml, nid yw cyflenwyr yn barod i gynnig cytundebau gwell i gwsmeriaid presennol, ond gall ffonio ac egluro nad ydych yn hapus â'ch cytundeb presennol eu hannog i gynnig rhywbeth gwell i chi.
Ond gallwch wneud mwy na hynny. Defnyddiwch wefan cymharu prisiau i ddod o hyd i fargen ratach.
Os ydych yn symud tŷ, yna gyda'r rhan fwyaf o ddarparwyr band eang gallwch fynd â'ch gwasanaeth presennol gyda chi, os oes ganddyn nhw ddarpariaeth yn eich lleoliad newydd. Efallai y bydd angen i chi dalu tâl bach, neu ymrwymo i gontract newydd.
Dylech yn sicr ystyried y cynigion eraill sydd ar gael i wneud yn siŵr mai dyma'r cynllun gweithredu gorau. Cofiwch, os ydych yn dal i fod o fewn cyfnod eich contract cychwynnol gyda'ch cyflenwr presennol, yna bydd canslo yn arwain at ffi terfynu cynnar.
Gallai gymryd tua wythnos i chi gael eich cysylltu yn eich cartref newydd, felly gorau po gynted y byddwch yn dechrau'r broses hon.
Yn anffodus, ni allwch chwilio am gyflenwr dŵr newydd – rhaid aros gyda pha bynnag gwmni sy'n cyflenwi eich ardal chi.
Os ydych chi'n bwriadu symud ac yn aros gyda'r un cwmni dŵr – sy’n debygol os ydych chi'n symud yn lleol - yna mae angen i chi roi gwybod iddyn nhw am eich cyfeiriad newydd. Os ydych chi'n symud i ardal gyda chwmni dŵr gwahanol, yna cysylltwch â nhw i roi gwybod iddyn nhw.
Os oes gennych fesurydd dŵr yn y cartref yr ydych yn symud allan ohono, yna cysylltwch â'ch cyflenwr i drefnu darlleniad mesurydd terfynol. Os oes gan eich cartref newydd fesurydd dŵr, cymerwch ddarlleniad cyn gynted ag y byddwch yn symud i mewn fel eich bod yn gwybod yn union faint yr ydych chi wedi'i ddefnyddio, a beth wnaeth y perchnogion blaenorol ei ddefnyddio.
Fel arfer, mae'n syniad da edrych yn rheolaidd am gytundeb ynni gwell ac arbed arian drwy newid.
Byddech yn cymharu dyfynbrisiau ar safleoedd cymharu prisiau, dewis yr un i chi a bydd eich cyflenwr newydd yn gwneud popeth arall i chi. Yna mae'n cymryd tua 17 diwrnod i gwblhau’r newid, yn ôl y rheoleiddiwr ynni Ofgem.
Ond ar hyn o bryd – gan fod prisiau ynni yn uchel iawn - mae aelwydydd yn cael eu cynghori i beidio â newid. Y rheswm am hyn yw bod cyfradd tariff ddiofyn safonol eich cyflenwr, a osodwyd ar y cap ar brisiau ynni gan y rheoleiddiwr Ofgem, yn debygol o fod y gyfradd rataf sydd ar gael.
Os ydych yn symud tŷ, yna rhowch wybod i'ch cyflenwr trydan a nwy eich bod yn symud, o leiaf 48 awr cyn i chi gau'r drws am y tro olaf. Yna, ar y diwrnod olaf, darllenwch eich mesuryddion a rhowch y darlleniadau i'ch cyflenwr. Byddant yn anfon bil terfynol atoch, neu efallai y bydd angen iddyn nhw dalu arian i chi os ydych mewn credyd. Os ydych ar dariff cyfnod penodol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ymadael.
Ar ôl i chi symud, cysylltwch â'r cyflenwr presennol yn eich cartref newydd i ddweud eich bod wedi symud i mewn. Byddwch yn cael eich rhoi ar 'gontract tybiedig' gyda nhw. Darllenwch eich mesuryddion ar y diwrnod y byddwch yn symud i mewn a rhowch y darlleniadau i'r cyflenwr presennol. Bydd hyn yn eu helpu i roi bil cyntaf cywir i chi.
Fel yr esboniwyd uchod, fel pawb arall, ar hyn o bryd, mae pobl sy’n symud tŷ yn annhebygol o arbed arian drwy newid cyflenwyr yn eu heiddo newydd.
Mae yswiriant cartref mewn gwirionedd yn derm ar gyfer dau fath o yswiriant.
Y cyntaf yw yswiriant adeiladau, sy'n darparu yswiriant ar gyfer strwythur eich eiddo; os ydych yn prynu eich cartref gyda morgais, yna bydd eich benthyciwr yn gofyn i chi fod ag yswiriant adeiladau o'r dyddiad y byddwch yn cyfnewid contractau. Hynny yw, oni bai eich bod yn prynu eiddo lesddaliad, ac os felly bydd eich tâl gwasanaeth yn debygol o gynnwys yswiriant.
Os oes gennych yswiriant adeiladau eisoes ar gyfer eich cartref presennol, gallech siarad â'ch yswiriwr a chadw'r un polisi - er y bydd y pris yn newid, gan y bydd yn seiliedig ar ble’r ydych yn byw a'r math o eiddo yr ydych yn ei brynu. Neu gallech ddefnyddio safleoedd cymharu prisiau gwahanol i weld a allwch gael gwell bargen mewn mannau eraill.
Ar yr un pryd â phrynu yswiriant ar gyfer eich cartref newydd, efallai y bydd angen i chi ganslo polisi sy'n bodoli eisoes hefyd, y byddech yn ei wneud pan fyddwch yn cyfnewid contractau gyda'ch prynwr.
Yr ail fath o yswiriant cartref yw talu am eich cynnwys. Nid yw hwn yn orfodol, ond argymhellir yn gryf ei fod gennych. Mae'n syniad da trefnu polisi cyn diwrnod symud, gan y bydd y rhan fwyaf o bolisïau'n ymdrin â'ch eiddo wrth ei gludo. Unwaith eto, chwiliwch am y fargen orau bosibl.