Sut i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni

Diweddarwyd ddiwethaf: 25/07/2022

Bydd gwella effeithlonrwydd ynni eich eiddo yn ei wneud yn rhatach i’w redeg, yn lleihau ei effaith amgylcheddol, a gallai ei wneud yn fwy deniadol i ddarpar brynwyr, mewn geiriau eraill, mae’n beth da ym mhob ffordd.

Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch chi sicrhau bod effeithlonrwydd ynni eich cartref yn arbennig o uchel.

Inswleiddio eich atig a’ch waliau

Mae insiwleiddio bob amser yn fuddsoddiad da ac yn un o’r meysydd gwelliant a argymhellir mwyaf cyffredin mewn sgoriau Tystysgrif Perfformiad Ynni. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gall cost insiwleiddio’r atig i chi fod yn £530 ar gyfartaledd ar gyfer tŷ pâr. Ond mae’n para tua 40 mlynedd. Ac mewn cartref nad oedd wedi’i insiwleiddio gynt gallai arbed cymaint â £255 i chi ar eich biliau ynni yn flynyddol, oherwydd – os nad yw eich atig wedi’i insiwleiddio – rydych chi’n colli tua chwarter gwres eich cartref trwy’r to.

Os cafodd eich cartref ei adeiladu ar ôl 1920, mae’n debygol bod ganddo waliau ceudod. Gallai inswleiddiad waliau ceudod arbed hyd at £255 y flwyddyn i chi ar eich biliau. Mae’n debygol y bydd gan dai hŷn waliau solet, a allai, o’u hinswleiddio, arbed cymaint â £360 y flwyddyn i chi. Ddim yn ddrwg o gwbl!

Gosod ffenestri gwydr dwbl

Mae’n rhaid cyfaddef nad yw gosod gwydr dwbl yn rhad, ond dylai fod yn fuddsoddiad da yn y pen draw. Mae cael ffenestri gradd A ar gyfer tŷ pâr yn debygol o gostio tua £7,500 i chi.

Trwy arbed £145 y flwyddyn ar filiau, bydd yn cymryd amser maith i chi adennill yr arian hwn. Ond ceir manteision eraill. Gyda gwell sgôr Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni, gallech gael gwell pris am eich eiddo pan fyddwch yn gwerthu. Heb sôn am y ffaith y bydd eich cartref yn amlwg yn fwy cynnes a thawel.

Defnyddio goleuadau ynni isel

Mae lleihau defnydd o ynni wrth oleuo eich cartref yn argymhelliad Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni cyffredin arall, ac yn un sy’n golygu dim newidiadau strwythurol. Mae gosod bylbiau arbed ynni yn lle rhai golau gwynias yn ffordd rad a hwylus o fod yn fwy effeithlon o ran ynni. Trwy newid eich holl fylbiau yn eich cartref i oleuadau LED, gallech chi dorri £55 y flwyddyn oddi ar eich biliau.

Gwresogi eich cartref yn fwy effeithlon

Gwresogi a dŵr poeth sy’n gyfrifol am fwy na hanner cyfanswm bil ynni yr aelwyd gyfartalog. Gallai ychydig newidiadau i’ch modd o wresogi wneud gwahaniaeth mawr heb gostio llawer.

Mae gosod boeler nwy sy’n fodel mwy effeithlon na’r un sydd gennych yn costio tua £2,500, ond dylai fod yn werth yr arian yn yr hirdymor. Fel arall, dylai diweddaru dull rheoli eich boeler olygu eich bod yn cael eich gwres dim ond pan a lle fyddwch ei angen.

Bydd gosod thermostat deallus yn caniatáu i chi greu gwahanol raglenni ac amseryddion, a all eich atal rhag gwastraffu ynni. Gallwch raglennu gwahanol dymereddau ar gyfer gwahanol fathau o ddiwrnod, er enghraifft. Neu gallech ychwanegu parthau gwresogi, fel bod y rhannau o’r tŷ yr ydych yn eu defnyddio yn aros yn gynnes braf, heb i’r gwres fod ymlaen mewn mannau eraill. Hefyd, gallwch reoli’r rhain gan ddefnyddio’r cynorthwywyr llais, neu o’ch ffôn clyfar pan fyddwch allan o’r tŷ.

Atal drafftiau yn eich cartref

Mae atal drafftiau yn ffordd rad a rhwydd o atal oerfel o gwmpas y cartref, a gallai arbed tua £45 y flwyddyn i’r tŷ pâr cyfartalog. Yn hytrach na’r nadroedd ffabrig hen ffasiwn ar waelod drysau, gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio stribedi atal drafftiau o gwmpas drysau, ffenestri a chaeadau atig. Bydd selio bordiau wal ac estyll gyda llanwad seiliedig ar silicôn hefyd yn helpu i atal gwres rhag dianc.

Gosod mesurydd deallus

Mae gan gyflenwyr ynni dargedau i osod mesuryddion deallus ym mhob cartref erbyn canol 2025, ond beth am achub y blaen ar y sefyllfa? Gellir cael eu gosod am ddim fel rheol ac – er nad ydynt yn gwella effeithlonrwydd ynni ynddynt eu hunain – byddant yn amlygu ble gallech ostwng eich defnydd ynni. Bydd meddu ar un hefyd yn golygu bod eich bil yn gywir, a ddim yn seiliedig ar amcangyfrifon.

Gosod paneli solar

Bydd gosod paneli solar yn golygu y gall eich cartref cyfan gael ei bweru gan ynni adnewyddadwy glân. Gallwch ddefnyddio paneli solar thermol i wresogi eich dŵr, a phaneli ffotofoltäig ar gyfer eich trydan. Gellir storio hwn mewn batri hefyd ar gyfer misoedd y gaeaf pan fydd llai o olau haul. Hefyd, gellir allforio unrhyw ynni ychwanegol i’r grid pŵer cenedlaethol gan dderbyn taliad drwy’r Warant Allforio Deallus.

Gallwch ddarllen mwy am y cynllun hwn ar wefan Ofgem.

Er na fydd pawb eisiau mynd mor bell â gosod paneli solar, mae’n eglur bod digonedd o gamau rhad a rhwydd y gallwch eu cymryd i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni. 

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy am fyw yn gynaliadwy yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig