Cyngor i wneud eich cartref yn fwy cynaliadwy
Diweddarwyd ddiwethaf: 21/12/2021
I lawer ohonom, mae cadw ein heffaith ar yr amgylchedd mor isel â phosibl wedi dod yn gynyddol bwysig. A pha le gwell i ddechrau na gartref.
Ceir cymaint o ffyrdd i leihau effaith amgylcheddol eich cartref. Dyma ddetholiad – rhai mawr a rhai bach – i’ch rhoi ar ben ffordd.
Mae plastigau yn bygwth bywyd gwyllt, yn lledaenu tocsinau ac yn cyfrannu at gynhesu byd-eang.
Ceir digonedd o ffyrdd i leihau faint o blastig rydych yn ei ddefnyddio gartref, heb wneud unrhyw newidiadau eithafol i’ch ffordd o fyw.
Er enghraifft, gallech osgoi cynhyrchion sydd wedi’u gwneud o blastig, fel cwpanau neu wellt plastig untro, yn ogystal ag eitemau sydd â gormod o ddeunydd pacio plastig. Un ffordd fach o wneud hyn yw dewis cael eich llaeth i’r drws, mewn poteli gwydr, yn hytrach na phrynu cynwysyddion plastig.
Gallech hefyd ddefnyddio cynhyrchion glanhau y gellir eu hail-lenwi. Darganfyddwch a oes rhywle yn agos atoch chi a all ail-lenwi eich hylifau golchi llestri, eich hylifau golchi dillad a chynhyrchion glanhau eraill i gynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio.
Gall bawb dyfu eu bwyd eu hunain gartref. Nid oes angen gardd arnoch hyd yn oed… mae silff ffenestr neu deras bach yn ddigon i dyfu ychydig o berlysiau neu tsilis.
Trwy dyfu eich hun, byddwch yn arbed arian ar eich biliau bwyd, yn lleihau eich ôl troed carbon, ac yn teimlo’n fodlon gyda’ch ffordd hunangynhaliol newydd o fyw.
Os oes gennych ardd, yna nid oes terfyn i’r hyn y gallwch ei wneud – ewch ati i dyfu. Mae betys cochion, dail salad, tatws a thomatos i gyd yn addas ar gyfer tyfwyr llysiau sy’n ddechreuwyr.
Mae defnyddio llai o ddŵr yn ffordd arall o wneud eich cartref yn fwy cynaliadwy a lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.
Dyma rai ffyrdd syml o wneud hynny:
- Mynd i'r bath llai a chael mwy o gawodydd, a threulio llai o amser ynddynt hefyd: gallai pob munud yn llai yn y gawod olygu arbediad o tua 12 litr o ddŵr
- Rhoi’r peiriant golchi llestri ymlaen dim ond pan fo’n llawn: mae’r peiriant golchi llestri cyfartalog yn defnyddio 10 litr o ddŵr bob tro
- Newid pen eich cawod am un mwy effeithlon: gall y rhain leihau eich defnydd o ddŵr tua 40 litr y dydd
- Ceisio casglu’r dŵr yr ydych yn ei ddefnyddio i olchi llysiau a salad i ddyfrio eich planhigion tŷ
- Diffodd y tap pan fyddwch yn brwsio eich dannedd neu’n eillio
- Aros am lwyth llawn o ddillad golchi cyn rhoi eich peiriant golchi dillad ymlaen: mae peiriannau golchi dillad yn defnyddio tua 60 litr fesul tro
Mae defnyddio goleuadau effeithlon o ran ynni yn ffordd syml o leihau eich allyriadau carbon deuocsid.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, pe baech yn gosod bylbiau LED yn eich cartref, gallech leihau eich allyriadau carbon deuocsid hyd at 40 cilogram y flwyddyn.
A dweud y gwir, mae’r llywodraeth wedi gwahardd gwerthu bylbiau golau halogen o fis Medi 2021, yn rhan o ymdrechion ehangach y DU i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Felly mae hwn yn un newid yr ydych bron yn sicr o’i wneud.
Cofiwch y tri gair pwysig hyn: lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
- Lleihau… lleihewch eich gwastraff bwyd - mae gan Love Food Hate Waste lwyth o ysbrydoliaeth.
- Ailddefnyddio… ymunwch â gwefannau fel Freecycle neu Reuse Network, lle gallwch gynnig yr eitemau nad ydych eu heisiau am ddim. Darganfyddwch beth arall sy’n digwydd yn eich ardal leol; pwy a wyr, efallai fod grŵp Facebook lle mae rhieni yn rhoi a chyfnewid pethau y mae eu plant wedi tyfu’n rhy fawr iddynt, er enghraifft.
- Ailgylchu…mae hyn yn haws nag erioed, ond mae’n bwysig ei wneud yn iawn, felly ewch i wefan eich cyngor lleol i ddarganfod sut a beth y gallwch ei ailgylchu.
Gall inswleiddio pibellau fod yn ffordd hawdd o leihau colled gwres, a gallwch ei wneud eich hun. Mae’n debygol mai dim ond tua £20 y bydd angen i chi ei wario.
Bydd eich cartref yn gynhesach ac yn fwy clyd o ganlyniad. Mae wir yn opsiwn gwyrdd cyflym, rhad a rhwydd.
Efallai y bydd paent confensiynol yn cynnwys cemegau niweidiol. Ond mae dewis amgen wedi dod i’r amlwg, eco-baent, sydd â chynhwysion nad ydynt yn wenwynig ac sy’n cael ei gynhyrchu mewn ffyrdd sy’n well i’r amgylchedd.
Ceir amrywiaeth gynyddol fawr i ddewis ohoni, er y bydd angen i chi wneud eich gwaith cartref gan fod rhai brandiau paent yn cael eu cyhuddo o wyrddgalchu – sef gwneud honiadau am fanteision amgylcheddol eu cynhyrchion efallai nad ydynt o reidrwydd yn wir.
Hwn yw un o’r newidiadau mwy yn sicr, ond gallai wneud gwahaniaeth gwirioneddol: buddsoddi mewn system wresogi newydd i arbed ar allyriadau carbon.
Os oes gennych foeler aneffeithlon hen ffasiwn, yna efallai mai nawr yw’r amser i’w newid. Gallech hefyd fuddsoddi mewn dulliau rheoli modern, hawdd eu defnyddio.
Er enghraifft, mae gosod falfiau rheiddiadur thermostatig yn sicrhau eich bod yn gwresogi ystafelloedd yr ydych yn eu defnyddio yn unig.
Gallech fynd gam ymhellach a newid o wresogi nwy neu olew yn gyfnewid am system wresogi ynni adnewyddadwy. Mae pris paneli solar wedi lleihau yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, neu, os oes gennych ddigon o le awyr agored, gallech ystyried pwmp gwres, sy’n ffordd effeithiol ac effeithlon o ran ynni i wresogi eich cartref a chreu dŵr poeth.
Mae’r rhain yn newidiadau mawr, sy’n gofyn am lawer o amser a buddsoddiad, ond byddent yn rhoi ar y trywydd pendant i greu cartref mwy cynaliadwy.
Peidiwch â bod ofn rhannu eich triciau a’ch cyngor gwyrdd a’r ffyrdd yr ydych wedi lleihau effaith amgylcheddol eich cartref. Mae pobl yn llawer mwy ymwybodol o bwysigrwydd diogelu’r amgylchedd y dyddiau yma, ac yn aml yn chwilio am ffyrdd syml ac effeithiol o leihau eu hôl troed carbon.
Cofiwch gynnwys eich plant hefyd: mae plant yn aml yn ecoryfelwyr parod a byddent yn hapus i gyfrannu at wneud eich cartref yn fwy cynaliadwy, os byddwch yn esbonio’r rhesymau pam.