5 newid gwyrdd i'ch helpu i greu cartref mwy cynaliadwy

Diweddarwyd ddiwethaf: 25/07/2022

Edrychwch o gwmpas eich cartref, mewn mannau fel cypyrddau cegin neu eich cabinet ystafell ymolchi: a yw'r cynhyrchion yr ydych chi'n eu prynu'n rheolaidd yn llawn cemegau, wedi'u gwneud o blastig neu wedi'u lapio mewn llwythi o ddeunydd pecynnu anghynaliadwy?

Mae'n debyg mai'r ateb yw ydyn. Mae llawer o hanfodion bob dydd sy’n llenwi ceginau, ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd gwely pobl sy’n wael i'r amgylchedd.

Y newyddion da yw bod dewis cynyddol o opsiynau amgen gwyrddach yn cael eu creu am bron pob un o'r pethau yr ydym yn eu defnyddio yn ein cartrefi. Mae digon o gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio, cynaliadwy a bioddiraddadwy ar gael erbyn hyn.

Mae newid iddyn nhw yn weddol hawdd – felly dechreuwch arni heddiw! Dyma bum newid cartref gwyrdd i roi eich cartref ar y llwybr i well cynaliadwyedd.

Cynhyrchion glanhau naturiol, ail-lenwi

Mae'r gegin yn lle gwych i ddechrau ar gyfer newidiadau gwyrdd hawdd.

Un yw cynhyrchion glanhau. Y tro nesaf y bydd angen mwy arnoch, prynwch gan frandiau fel Ecover neu Method sy'n defnyddio cynhwysion naturiol, bioddiraddadwy nad ydynt yn wenwynig.

Gwell byth, yn hytrach na phrynu cynnyrch cwbl newydd bob tro y bydd ei angen, gallwch leihau gwastraff plastig drwy ddefnyddio ail-lenwadau cynhyrchion glanhau ecogyfeillgar. Teipiwch 'siop ddiwastraff yn agos ataf' yn Google a gweld beth yw eich opsiynau lleol, neu cofrestrwch i wasanaeth tanysgrifio sy'n cynnig ail-lenwi.

Bwyd anifeiliaid anwes gwyrddach

Mae pob un ohonom ni’n caru ein hanifeiliaid anwes. Ond nid yw cael ffrind blewog yn wych i'r amgylchedd. Yn ôl llyfr Mike Berners-Lee, How Bad Are Bananas?, mae cath o faint cyfartalog yn gyfrifol am 310kg o CO2e y flwyddyn ac mae ci maint cyfartalog yn cyfrif am 770 kg o CO2e y flwyddyn (gan gynyddu i 2,500kg o CO2e y flwyddyn ar gyfer ci mawr). Mae hyn yn bennaf o fwyd anifeiliaid anwes, ac amcangyfrifir bod hyn yn gyfrifol am chwarter yr effeithiau amgylcheddol o’r cynhyrchu cig cyfan.

Diolch byth, gallwch wneud newidiadau gwyrdd syml. I ddechrau, dewch o hyd i fwyd anifeiliaid anwes mwy cynaliadwy: mae'r opsiynau'n cynnwys bwyd fegan, neu fwyd anifeiliaid anwes wedi ei wneud o bryfed.

Gallai cael eich anifeiliaid anwes i newid eu bwyd fod yn heriol, ond mae newidiadau bach eraill y gallwch eu gwneud i leihau eu heffaith ar y blaned. Er enghraifft, gallech newid i fagiau pw y gellir eu compostio ar gyfer cŵn neu brynu teganau anifeiliaid anwes di-blastig a bioddiraddadwy, fel y llygoden hon wedi'i gwneud allan o jiwt ar gyfer cathod.

Brwsys dannedd bambŵ

Roedd adeg pan mai'r unig opsiwn ar gyfer cadw eich dannedd yn lân oedd defnyddio brws dannedd plastig. Ond erbyn hyn, mae opsiynau mwy cynaliadwy ar y farchnad. Mae'r rhain yn cynnwys brwsys wedi'u gwneud o fambŵ neu startsh corn.

Mae hyd yn oed cwmnïau, fel Bristle, sy'n cynnig gwasanaethau tanysgrifio ar gyfer brwsh dannedd bambŵ.

Mae brwsys hefyd ar gael gyda phennau y gellir eu hadnewyddu, felly yn hytrach na phrynu brws dannedd cwbl newydd bob tro y mae'r gwrych wedi dod i ben, gallwch gael pen newydd, gan leihau eich defnydd o blastig a'ch gwastraff.

Gall plant gymryd rhan yn y chwyldro brwsio dannedd gwyrdd hefyd, gyda dewisiadau fel brwsys dannedd plant Jack N’Jill y gellir eu compostio (a phast dannedd naturiol).

Dewisiadau amgen i haenen lynu

A yw'n well gennych ddirwyn eich haenen lynu rownd a rownd nes bod eich bwyd wedi'i lapio’n drylwyr? Neu ydych chi'n fwy o berson ‘llai yw mwy’, gan ymestyn darn bach o ffilm nes ei fod yn gorchuddio eich brechdanau? 

Y naill ffordd neu'r llall, gallech chi roi'r gorau i'r ffilm yn gyfan gwbl. Mae dewisiadau eraill yn cynnwys bagiau storio silicôn â chaeadau y gellir eu hailddefnyddio, bagiau brechdanau papur, a deunydd lapio cwyr gwenyn, y byddwch yn ei olchi ar ôl pob defnydd a gallan nhw bara am hyd at flwyddyn os byddwch yn gofalu amdanyn nhw.

Rholyn papur tŷ bach bambŵ neu bapur wedi'i ailgylchu

Oeddech chi'n gwybod y gallwch gael blychau enfawr yn llawn o roliau papur tŷ bach (a hancesi a thywelion papur) cynaliadwy wedi'u danfon i'ch cartref? Pa mor gyfleus yw hynny? Hefyd, os byddwch yn ei brynu gan gwmni fel WGAC, ni fydd y rholiau – sydd wedi eu hailgylchu neu eu gwneud o fambŵ – wedi eu lapio'n unigol mewn plastig, ond wedi'u hamgáu mewn papur yn lle hynny.

Mae WGAC hefyd yn rhoi 50% o'u helw (cyfanswm o £5.3 miliwn hyd yma) i helpu i adeiladu toiledau a gwella glanweithdra yn y byd datblygol.

Gwnewch y newid

Dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain o'r mathau o gynhyrchion y gallech eu hystyried y tro nesaf y bydd angen i chi brynu hanfodion cartref.

Felly meddyliwch am newidiadau bach y gallech eu gwneud yn eich cartref a mwynhau'r teimlad o ffordd wyrddach a mwy cynaliadwy o fyw!


Nid oes gan Gymdeithas Adeiladu Principality unrhyw gysylltiad â'r cynhyrchion a'r brandiau a enwir yn yr erthygl hon ac nid yw'n eu cymeradwyo, nac yn derbyn unrhyw daliad am eu cynnwys. Trwy glicio ar y dolenni byddwch yn gadael gwefan y Principality – nid yw Principality yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy am fyw yn gynaliadwy yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig