Cyngor uwchgylchu i roi bywyd newydd i’ch dodrefn

Diweddarwyd ddiwethaf: 21/12/2021

Os ydych eisiau i’ch dodrefn edrych yn ffasiynol, ond nad ydych yn awyddus i brynu dodrefn newydd, yna beth am ailwampio ac addasu at ddibenion gwahanol? Mae uwchgylchu yn ffordd wych o ymestyn oes hen ddodrefn, ac mae’n lawer o hwyl hefyd.

Ceir manteision niferus i uwchgylchu. Nid oes yn rhaid i chi wario ffortiwn ar ddodrefn newydd, ac mae’r hyn sydd gennych yn y pen draw yn wirioneddol unigryw. Hefyd, mae ailddefnyddio hen eitemau yn fwy cynaliadwy na chael eich dal yn y cylch o daflu a disodli.

Rydym yn edrych yma ar rywfaint o gyngor defnyddiol i’ch rhoi ar ben ffordd.

Cael gafael ar ddodrefn

Os nad oes gennych rywfaint o ddodrefn eisoes a allai elwa o adfywiad, mae’n bryd mynd i chwilio am fargeinion. Mae arwerthiannau cist car, ffeiriau sborion a siopau elusen mwy sy’n arbenigo mewn dodrefn yn fannau da i gychwyn.

Mae gan gwmnïau fel Oak Furnitureland siopau clirio ledled y wlad, sy’n gwerthu dodrefn â diffygion am bris gostyngedig. Neu i gael bargen go iawn, gallech bori Gumtree a Freecycle yn eich ardal.

Bod â chynllun

Cyn i chi ddechrau, meddyliwch beth yn union yr hoffech ei gyflawni. Meddyliwch sut y bydd y darn yn ategu ei safle terfynol yn yr ystafell. Hefyd, os ydych yn uwchgylchu darn mwy o ddodrefn, ceisiwch fod yn ystyriol o’i arddull gwreiddiol.

Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eich syniadau dylunio, gallwch weld prosiectau uwchgylchu pobl eraill ar blatfformau fel Pinterest ac Instagram.

Pan fyddwch wedi penderfynu ar yr hyn yr hoffech ei wneud, cymerwch lun ‘cyn’ o’r dodrefnyn. Nid yw hyn yn ddefnyddiol i arddangos eich lluniau ‘cyn’ ac ‘ar ôl’ yn unig (er nad oes dim o’i le â hynny). Pan fyddwch chi’n mynd i’r siop DIY, byddwch yn gallu dangos y darn i rywun os bydd angen unrhyw gymorth arnoch – fel gwybod a oes angen i chi beintio haen breimio, neu’r pwysau cywir o bapur llyfnu i’w ddefnyddio.

Trefnu’r taclau

Gofalwch bod popeth sydd ei angen ar gyfer y gwaith gennych. Gyda hen eitemau wedi’u defnyddio, efallai y bydd angen i chi eu glanhau neu eu llyfnu nhw cyn gafael yn y brws paent.

Ac ar y pwnc hwnnw, mae’n well peidio â dewis y brwsys paent rhataf. Mae cael brwsys o ansawdd da yn lleihau’r siawns y bydd blew’r brws yn mynd yn sownd yn y gwaith paent.

Ac i sicrhau hirhoedledd eich darnau, mae’n syniad da eu gorffen gyda farnais neu gwyr. Felly bydd angen y rhain arnoch hefyd.

Paentio dodrefn

Cyn i chi gychwyn, rhowch hen gynfasau llwch i lawr ar yr arwyneb yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio. Os ydych yn paentio arwyneb pren, defnyddiwch bapur llyfnu i’w wneud yn wastad. Cliriwch y llwch llif i gyd cyn ychwanegu unrhyw baent.

Os nad yw’r arwyneb wedi’i baentio eisoes, y peth gorau i’w wneud yw defnyddio paent preimio. Bydd y gôt isaf hon yn atal y cynnyrch terfynol rhag fflawio, ac yn eich helpu i gael gorffeniad esmwyth a fydd yn para am amser maith.

Pan ddaw i baentio, efallai y bydd angen sawl côt arnoch. Am y rheswm hwn, peidiwch â rhoi eich offer o’r neilltu tan eich bod yn siŵr ei fod wedi’i orffen. Gallwch gadw brwsys a rholeri paent yn ffres ac yn llaith trwy lapio ffilm glynu o’u gwmpas rhwng cotiau. Pan fyddwch wedi gorffen, golchwch nhw yn drylwyr – fel arall bydd y paent yn caledu, ac efallai na fyddwch yn gallu eu defnyddio eto.

Rhoi ôl traul

Er mwyn rhoi ôl traul ar gypyrddau, droriau a dreselau (fel y darn hwn), llyfnhewch y dodrefn i lawr yn llawn cyn eu paentio. Fel arall, bydd defnyddio paent sialc yn helpu i roi’r gorffeniad mat clasurol yna. Bydd llyfnhau’r dodrefn i lawr eto ar ôl i’r paent sychu yn helpu i berffeithio’r effaith.

Allan â ni

Nid oes yn rhaid i’ch dodrefn gael ei gadw dan do. Os oes gennych le yn yr awyr agored – fel patio gardd – yna gallwch greu’r hyn sy’n ymddangos fel ystafell ychwanegol gydag ychydig o greadigrwydd (fel yr un yma).

Defnyddiwch baent a chwistrellau awyr agored amddiffynnol ar gyfer dodrefn. Mae defnyddio gwydredd metelaidd yn rhoi golwg oedrannus hyfryd i ddrych neu fframiau lluniau ail law, y gellir eu gosod yn yr awyr agored hefyd.

Addasu at ddibenion gwahanol

Er y gellir adnewyddu rhai darnau o ddodrefn, efallai yr hoffech fynd i’r afael â phrosiect sydd angen rhyw fymryn yn fwy o feddwl ochrol.

Gellir troi paledi pren, er enghraifft, yn fyrddau gardd, yn seddi neu hyd yn oed eu sefyll ar eu traed i’w troi yn far.

Gellir defnyddio drymiau o hen beiriannau golchi dillad i blannu planhigion, neu hyd yn oed fel pwll tân.

A chyn cael gwared ar hen ffrâm gwely â phen gwely addurnol, a fyddai modd ei throi yn fainc, fel yr un yma?

Rhai syniadau yn unig yw’r rhain i roi hwb i’ch creadigrwydd. Mae llawer o ffyrdd o addasu hen eitemau o gwmpas eich cartref at ddibenion newydd, felly defnyddiwch eich dychymyg ac ewch ati!

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy am fyw yn gynaliadwy yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig