Awgrymiadau ar gyfer tyfu eich gardd lysiau eich hun
Diweddarwyd ddiwethaf: 21/12/2021
O domatos cartref melys i bys yn syth o’r plisgyn – neu beth bynnag arall sydd at eich dant –gall tyfu eich llysiau eich hun fod yn werth chweil.
Yn ogystal â’r cynnyrch blasus y bydd gennych chi i’w mwynhau, mae tyfu eich cynnyrch eich hun hefyd yn ffordd wych o dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, arbed rhywfaint o arian a gwneud eich ffordd o fyw ychydig yn fwy cynaliadwy.
Efallai ei fod yn ymddangos yn anodd iawn os ydych chi’n newydd i arddio, ond pan fyddwch chi’n dechrau arni, efallai y bydd tyfu eich cynnyrch ei hun yn dod yn obsesiwn!
Dyma rai awgrymiadau i ddechreuwyr.
Pan fyddwch chi wedi penderfynu tyfu’ch llysiau eich hun, mae’n hawdd dychmygu eich hun yn sefyll yn falch ar eich darn o dir, yn llewys eich crys, yn edrych ar resi niferus o gnydau ffyniannus.
Gall hynny i gyd ddigwydd maes o law. Ond os ydych chi ar ddechrau’r daith, efallai y byddai’n ddoeth dechrau’n fach a chymryd un cam (neu yn yr achos hwn, un llysieuyn) ar y tro. Beth ydych chi’n mynd i’w dyfu’n gyntaf?
Nid oes dim pwynt tyfu llysiau yn eich gardd os na allwch chi fwynhau’r cynhaeaf. Felly, y ffordd orau o ddechrau arni yw meddwl pa lysiau rydych chi a’ch teulu yn hoffi eu bwyta.
O’r rhain, gallech chi flaenoriaethu pa rai sy’n ddrutach i’w prynu. Er enghraifft, gall bagiau o ddail salad fod yn eithaf costus yn aml.
Wrth gwrs, bydd rhai mathau o lysiau nad ydyn nhw’n ymarferol eu tyfu yn eich gardd, efallai oherwydd eu bod yn cymryd gormod o le neu fod angen mwy o heulwen nag y gall eich cornel chi o’r wlad ei chynnig.
Yn y pen draw bydd gennych chi restr fer o lysiau i’ch rhoi ar ben ffordd.
Mae pacedi o hadau yn rhatach na phlanhigion, ac yn aml mae modd eu cael am fargen mewn siopau fel Aldi, neu ar-lein.
Fodd bynnag, mae’n llawer haws gwario ychydig mwy a dechrau gyda phlanhigion ifanc.
Felly mae’n dibynnu ar eich blaenoriaethau. Efallai y gallech chi roi cynnig ar wneud ychydig o’r ddau - mae betys a letys ymysg y cnydau sy’n hawdd eu dechrau o hadau. Os ydych chi’n eu hoffi wrth gwrs!
Mae angen hau hadau yn ôl y math ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
Edrychwch ar y pecyn hadau a fydd yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch chi ddechrau tyfu eich cnydau. Ond dyma ganllaw cyffredinol ar gyfer rhai o’r opsiynau mwy poblogaidd:
- Tomatos: hau ym mis Chwefror i fis Ebrill a chynaeafu ym mis Gorffennaf i fis Hydref
- Tatws: hau ddiwedd mis Chwefror neu fis Mawrth a chynaeafu ym mis Gorffennaf i fis Medi
- Pys: hau ym mis Mawrth i fis Mehefin a chynaeafu ar ôl dau i dri mis
- Ffa dringo: hau ym mis Ebrill i fis Gorffennaf a chynaeafu ar ôl dau fis
- Dail salad: hau drwy gydol yr haf a chynaeafu dair wythnos yn ddiweddarach
Gallwch chi hau’r rhan fwyaf o fathau o hadau llysiau yn syth yn y pridd lle maen nhw i dyfu.
Yn gyntaf, paratowch y pridd yn dda. Mae hynny’n golygu cael gwared ar chwyn a cherrig a’i balu.
Yna rydych chi’n hau. Yn gryno, rydych chi’n gwneud ffos bas, yn rhoi’r hadau i mewn, yn eu gorchuddio â phridd ac yn rhoi dŵr iddyn nhw.
Bydd y pecynnau hadau yn dweud wrthych chi pa mor ddwfn a pha mor bell ar wahân i roi’r hadau.
Gall helpu i weld hyn – mae digon o fideos ar gael ar-lein, fel hwn.
Mae angen rhoi dŵr i lysiau’n rheolaidd, yn enwedig yn ystod y cyfnodau sych hir hynny sy’n digwydd yn ystod yr haf weithiau.
Yn ôl yr RHS, rheol gyffredinol dda ar gyfer llysiau yw rhoi dŵr iddyn nhw bob 10-14 diwrnod (os nad oes glaw). Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth fanylach am roi dŵr i wahanol fathau o lysiau yma.
Iawn, efallai y bydd sôn am gylchdroi cnydau yn dechrau gwneud i chi ailfeddwl os ydych chi’n hollol newydd i arddio.
Ond nid yw’n gymhleth – y cyfan ydyw yw symud cnydau o amgylch fel eich bod chi’n tyfu gwahanol fathau o blanhigion ym mhob man – ac mae rheswm da dros wneud hynny: os ydych chi’n tyfu cnwd o’r un teulu yn yr un man bob blwyddyn, bydd plâu a chlefydau yn cronni yn y pridd.
Gallwch chi ddod o hyd i ddigon mwy o wybodaeth am gylchdroi cnydau ar-lein.
Rydych hi’n dal yn gallu tyfu eich llysiau eich hun, hyd yn oed os nad oes gennych chi lawer o le y tu allan. Gall balconi cornel neu batio fod yn gartref i bot lle gallwch chi dyfu rhai o’ch ffefrynnau.
Os ydych chi’n byw yn y ddinas, efallai nad ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r lle i dyfu’r amrywiaeth o lysiau yr ydych chi wedi bod yn breuddwydio amdanyn nhw. Ond mae ffermio fertigol - defnyddio rheseli neu silffoedd i stacio planhigion yn fertigol – yn galluogi pobl i dyfu pob math o lysiau mewn mannau cyfyng a’r cyfan gan ddefnyddio llai o ddŵr.
Bydd gennych chi lawer o ddewis o hyd: mae ffa gwyrdd, pupurau tsili, cêl a letys ymysg y sawl math o lysiau y gallech chi eu tyfu mewn potiau.
Dyma rai ffyrdd o arbed arian wrth arddio, gan helpu’r amgylchedd ar yr un pryd hefyd.
- Prynu offer garddio ail-law: Os na allwch chi fegian unrhyw eitemau sbâr gan ffrindiau a theulu, edrychwch ar wefannau fel Gumtree, eBay neu Facebook Marketplace.
- Gwneud potiau planhigion o roliau papur tŷ bach: Bydd gwreiddiau’r planhigyn yn tyfu trwy’r cardfwrdd wrth iddo ddadelfennu yn y pridd gwlyb. Mae digon o bobl yn esbonio sut i wneud hyn ar-lein, fel y fideo hwn.
- Creu eich tomen gompost eich hun: Mae hyn eich arbed chi rhag prynu bagiau drud o ganolfannau garddio ac mae hefyd yn ffordd ecogyfeillgar o ymdrin â gwastraff cegin a gwastraff gardd.
- Gwneud eich labeli planhigion eich hun: Gallwch chi dorri stribedi o hen boteli plastig.
Dychmygwch yr holl lysiau blasus, iach y gallech chi fod yn eu bwyta pan ddaw’n amser cynhaeaf. Mwynhewch!