Canllaw i lanhau wrth symud tŷ

Diweddarwyd ddiwethaf: 27/04/2022 | Amser darllen: 3 munud

Gall gwerthu cartref a symud fod fel ffair. Gall fod yn anodd dod o hyd i amser i lanhau’ch eiddo yn drylwyr cyn i chi gau’r drws ar eich hen fywyd.

Nid oes unrhyw gyfraith yn mynnu bod yn rhaid i chi lanhau’ch cartref cyn i chi symud, felly eich gallwch chi benderfynu faint o amser ac ymdrech yr ydych chi eisiau ei roi iddo.

Y naill ffordd neu’r llall, gall helpu i ddefnyddio rhestr o dasgau glanhau i’w cyflawni.

Y pethau sylfaenol

Dyma rai tasgau glanhau a thacluso sylfaenol y gallech chi geisio eu cyflawni cyn symud.

Hwfro: ewch drwy eich cartref yn drylwyr gyda’r sugnwr llwch, ac yna ysgubo a mopio’r lloriau heb garpedi arnyn nhw.

Glanhau’r ceginau ac ystafelloedd ymolchi: glanhewch yr holl arwynebau gyda chlwtyn.

Rhowch drefn ar yr ardd: gall torri’r lawnt wneud byd o wahaniaeth.

Tasgau glanhau eraill

Os oes gennych chi fwy o amser yna gallech chi ychwanegu’r tasgau hyn at eich rhestr dasgau, gan rannu’r glanhau fesul ystafell.

Cegin

  • Glanhewch gypyrddau’r gegin y tu mewn a’r tu allan gyda chlwtyn.
  • Glanhewch y ffwrn: gallwch brynu cemegau arbennig i lanhau’r ffwrn, neu mae rhai pobl yn argymell cymysgedd syml o soda pobi a dŵr.
  • Glanhewch a diheintiwch yr holl arwynebau, cownteri a’r teils wal, gan ddefnyddio chwistrell hylif glanhau pob arwyneb a chlwtyn microffeibr llaith.
  • Glanhewch y tapiau â chlwtyn a gwnewch eich gorau i gael gwared ar unrhyw olion calch ystyfnig.
  • Cofiwch y ffan echdynnu yn y gegin: tynnwch yr hidlydd a’i olchi yn y sinc gyda dŵr poeth a hylif golchi llestri, neu os oes angen ei lanhau yn fwy trylwyr, rhowch yr hidlydd yn y peiriant golchi llestri.

Ystafelloedd ymolchi

  • Yn yr un modd â’r gegin, glanhewch y tapiau’n drylwyr, ac ewch i’r afael ag unrhyw olion calch.
  • Glanhewch y gawod: cofiwch lanhau’r draeniau.
  • Treuliwch ychydig o amser yn glanhau’r toiledau, gan gynnwys unrhyw deils y tu ôl iddyn nhw.
  • Golchwch y llen gawod os ydych chi’n ei gadael.

Ystafell fyw ac ystafelloedd gwely

  • Ar ôl i chi hwfro, gallech chi ddefnyddio glanhawr stêm carped i lanhau’r carpedi’n drylwyr.
  • Sychwch y bordiau wal, dolenni’r drysau a’r cypyrddau gyda chlwtyn gwlyb.
Pethau bach ychwanegol

Eich dewis chi yw hi’n llwyr, ond os hoffech chi fynd cam ymhellach, mae ychydig mwy o bethau defnyddiol y gallech eu gwneud ar gyfer perchnogion newydd eich eiddo.

Er enghraifft, gallech chi adael hanfodion fel rholyn papur tŷ bach, a llawlyfrau cyfarwyddiadau ar gyfer pethau fel y boeler os oes gennych chi nhw. Os yw’n anodd dod o hyd i bethau fel y stopfalf ddŵr, gallech chi adael nodyn yn cyfeirio’r perchennog newydd atyn nhw.

Gallech chi hefyd adael unrhyw fanylion cyswllt ar gyfer crefftwyr sydd, yn eich barn chi, wedi gwneud gwaith da yn y gorffennol, megis plymwr, trydanwr neu arddwr. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os yw’r person sy’n prynu eich tŷ yn newydd i’r ardal. 

Mae rhai sy’n symud cartref yn mynd cam ymhellach hyd yn oed, ac yn gadael cerdyn cyfarch cartref newydd i groesawu’r preswylwyr newydd, neu fotel o win, hyd yn oed.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig