Symud tŷ? Dyma sut i baratoi eich cartref cyn i bobl ddod i’w weld

Diweddarwyd ddiwethaf: 23/02/2022 | Amser darllen: 4 munud

“Gallaf weld fy hun yn byw fan hyn…” 

Pan fydd pobl yn dod i weld eich tŷ, dyna’n union yr ydych chi eisiau iddyn nhw ei feddwl wrth grwydro o ystafell i ystafell. 

Efallai nad yw eich #cartref yn berffaith ar gyfer Instagram, ond os gwnewch chi bopeth o fewn eich gallu i gyflwyno’ch tŷ bach twt chi ar ei orau, yna gallwch chi helpu i ddwyn perswâd ar y bobl sy’n dod i’w weld ei fod yn berffaith ar gyfer eu bywydau nhw.

Does dim angen i chi wario ffortiwn yn paratoi eich tŷ i bobl ei weld, ond fel arfer mae angen ychydig o amser ac egni. Dyma rai awgrymiadau i roi’r cyfle gorau i’ch cartref gael ei brynu’n gyflym. 

Mae’r argraff gyntaf yn hollbwysig

Beth fydd pobl yn ei weld gyntaf pan fyddan nhw’n cyrraedd eich cartref am y tro cyntaf, ac a allwch chi wella’r olygfa honno? Siŵr o fod. Gwnewch yn siŵr bod pethau fel biniau neu feiciau wedi’u cuddio neu o leiaf eu bod yn cael eu storio mor daclus â phosibl.

Hefyd, os nad oes llawer o leoedd parcio y tu allan i’ch cartref, does dim byd o’i le ar roi eich car rownd y gornel cyn yr ymweliad, fel bod gan eich ymwelwyr rywle i barcio.

Os oes gennych chi fwy o amser:
Os ydy eich drws ffrynt yn edrych yn flêr, rhowch got o baent arno. Mae’n dasg gyflym a byddwch chi’n methu deall pam na wnaethoch chi hynny’n gynt. Os oes gennych chi fframiau ffenestri pren, ystyriwch roi cot newydd o baent arnyn nhw hefyd.

Gwaredu annibendod

Gall fynd nôl ac ymlaen rhwng eich cartref a’ch car achosi embaras, wrth i chi rasio i guddio o leiaf peth o’ch annibendod cyn bod pobl yn dod i weld y tŷ. 

Ond mae’n werth ceisio tynnu rhywfaint o’r annibendod o’ch cartref, er mwyn helpu’r bobl sy’n dod i weld y tŷ i gael gwir syniad o’r gofod. Gallech chi gael gwared ar y cyfan mewn cwpwrdd yn hytrach nag yng nghist eich car, ond efallai y bydd y bobl eisiau edrych y tu iddyn nhw i gael gweld faint o le storio sydd ar gael.

Os oes gennych chi fwy o amser:/span>
Mae symud tŷ yn aml yn amser da i fynd ati o ddifrif i waredu annibendod, gan fynd â chymaint ag y gallwch chi i siopau elusennol. Hefyd, gallwch ad-drefnu dodrefn i wneud i’ch ystafelloedd deimlo’n fwy.

Glanhau’r ffenestri

Os nad ydych chi’n glanhau’r ffenestri yn eich tŷ chi’n rheolaidd, yna byddwch chi’n cael siom ar yr ochr orau: dydy e ddim yn cymryd llawer o amser, a gall fod fel y gwahaniaeth a ddaw wrth gyfnewid eich hen deledu am fodel ultra HD newydd. Bydd cymaint mwy o olau yn llifo i’ch ystafelloedd. Gall hyn hefyd fod yn amser gwych i olchi eich drws ffrynt yn dda hefyd.

Os oes gennych chi fwy o amser:
Trwsiwch ffenestri, os gallwch chi, fel rhai sydd â dŵr rhwng y ddau ddarn o wydr.

Gwnewch yr ardd yn dderbyniol (os oes gennych chi un)

Os ydych chi’n ddigon ffodus i fod yn berchen ar ardd, yna cofiwch roi rhywfaint o sylw iddi hefyd. Nid oes angen i chi ei thirlunio - dim ond mynd â’r rhaca dros y dail, casglu unrhyw sbwriel arall (gan gynnwys hen botiau planhigion wedi’u hesgeuluso a theganau plant) a thorri’r lawnt.

Os oes gennych chi fwy o amser:
Trwsiwch ffensys simsan yr ardd, tociwch eich perthi a glanhewch ddodrefn eich gardd.

Glanhewch y tŷ yn drwyadl

Mae’n anodd i bobl ddychmygu eu hunain yn byw yn rhywle os ydy baw’r perchennog presennol yn tynnu eu sylw.

Felly, cyn bod unrhyw un yn dod i weld eich tŷ, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n glanhau eich cartref yn dda iawn. Ceisiwch ei weld drwy lygaid rhywun arall a glanhewch y pethau hynny yr ydych chi fel arfer yn eu hesgeuluso. Bydd angen golchi llen y gawod (gall rhai fynd yn y peiriant golchi - edrychwch ar y cyfarwyddiadau ar eich un chi) a glanhau’r sgertins, sydd ond angen eu sychu gyda chlwtyn gwlyb.

Yn yr ystafell ymolchi, cofiwch guddio eitemau fel brwsys dannedd, nad ydy pobl yn hoff o’u gweld.

Os oes gennych fwy o amser:
Hongiwch len newydd yn y gawod.

Canolbwyntiwch ar eich cegin

Yn aml, caiff ceginau eu disgrifio fel calon y cartref a’r ystafell bwysicaf o ran pobl yn dod i weld y tŷ.

Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser ychwanegol i wneud eich un chi i edrych mor dda â phosibl. Mae hynny’n golygu rhoi unrhyw lestri brwnt o’r golwg a sicrhau bod eich holl arwynebau’n sgleinio ac yn lân.

Ond eto, fel gyda gweddill eich cartref, meddyliwch am y rhannau hynny na fyddech chi fel arfer yn eu cyrraedd: ydy eich tostiwr yn frwnt ac yn llawn briwsion? Pa fath o gyflwr sydd ar ddrws neu arwyneb y ffwrn? Nawr yw’r amser i fynd amdani.

Os oes gennych chi fwy o amser:
Rhowch got o baent ar gypyrddau eich cegin.

Camau olaf

Er bod pobi torth ffres o fara i lenwi’ch cartref gydag aroglau croesawgar ychydig yn rhy amlwg, dydych chi, yn sicr, ddim eisiau i arogl cyri neithiwr loetran. Felly, cyn i unrhyw un ddod, gwnewch yn siŵr bod eich tŷ’n arogli’n dda.

Yn olaf, does dim byd o’i le mewn rhoi blodau ffres allan i roi lliw i’r ystafell

Nawr bod eich cartref yn edrych ar ei orau, rydych chi’n bendant wedi rhoi’r cyfle gorau posibl i chi’ch hun ddenu unrhyw un sy’n chwilio am dŷ i ddod i’w weld.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig