Ydych yn dewis asiant eiddo? Dyma’r cwestiynau i’w gofyn

Diweddarwyd ddiwethaf: 18/11/2021 | Amser darllen: 4 munud

Gall yr asiant eiddo cywir wneud gwahaniaeth enfawr wrth ichi werthu eich cartref. Gall eich helpu i’w werthu’n gyflym, am y pris cywir, a gyda chyn lleied â phosibl o straen.

Mae’n werth siarad â sawl asiant eiddo i ganfod pa un sydd orau i chi a’ch amgylchiadau. Ond beth ddylech chi ofyn iddyn nhw? I gael gwybod, buom yn siarad â Tony Felici, cyfarwyddwr yn Kelvin Francis, asiantaeth eiddo sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain. 

Dyma rai o’r cwestiynau allweddol y dylech eu gofyn i asiantau eiddo cyn dewis pa un i weithio gydag ef:

Faint ydych chi’n ei godi?

Dylai’r asiant amlinellu ei ffioedd, gan gynnwys TAW, gan nodi’n glir yr hyn a gwmpesir, ac a fydd unrhyw gostau ychwanegol.

Bydd hefyd yn eich helpu i ddeall pa dreuliau eraill sy’n gysylltiedig â phrynu a gwerthu eiddo, fel ffioedd cyfreithiwr, trethi, arolygon a chostau symud.

Wrth drafod ffioedd, gofynnwch pa gostau y gallech chi eu hysgwyddo pe byddech yn penderfynu tynnu eich tŷ oddi ar y farchnad. Er enghraifft, yn yr achos hwn, efallai y bydd rhai cwmnïau yn codi tâl am y gost o farchnata eich eiddo – er enghraifft, tynnu lluniau o’ch cartref.

Sut fyddech chi’n hyrwyddo ac yn marchnata fy eiddo?

Canfyddwch pa wefannau eiddo y bydd eich cartref yn cael ei restru arnynt. Mae’r rhai mwyaf yn cynnwys Rightmove, Zoopla, ac On The Market.

“Byddai angen i chi fod ar ddau ohonynt o leiaf i gael y sylw y byddech yn ei ddisgwyl”, meddai Tony, er ei fod yn ychwanegu y gall asiant da ddefnyddio ei wybodaeth leol a’i rwydwaith o gysylltiadau i werthu eiddo. Gallai elwa hefyd o gael swyddfeydd a chysylltiadau mewn mannau eraill yn y DU.

Hefyd, gofynnwch sut y byddai’n eich cynghori i baratoi’r eiddo fel ei fod yn edrych ar ei orau. A yw’n cynghori unrhyw newidiadau i wneud eich cartref yn fwy dymunol? A fydd yn darparu gwasanaethau fel teithiau rhithwir? A yw’n cynhyrchu cynlluniau llawr?

Ers pryd ydych chi wedi eich sefydlu a beth yw eich profiad o werthu eiddo tebyg yn yr ardal?

Er mwyn helpu i ddod o hyd i’r prynwr cywir, sicrhewch eich bod yn gweithio gydag asiant sy’n adnabod y farchnad leol yn dda. Gall hyn fod o gymorth mawr - mae’n bosibl y bydd ganddo restr o brynwyr posibl hyd yn oed a fyddai â diddordeb yn eich cartref.

A ydych yn aelod o’r Ombwdsmon Eiddo?

Mae’n rhaid i bob asiant eiddo fod yn perthyn i gynllun ombwdsmon fel y gellir mynd i’r afael ag unrhyw gwynion amdanynt yn gyflym ac yn rhwydd.

Yn ogystal â chanfod a yw’n aelod o’r Ombwdsmon Eiddo, gofynnwch hefyd a yw’n aelod o unrhyw sefydliadau proffesiynol, fel Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, National Association of Estate Agents neu Guild of Property Professionals. 

“Os yw’r asiant eiddo yn perthyn i o leiaf un o’r rhain, mae’n golygu y bydd yn dilyn cod ymarfer â chanllawiau ar gyfer aelodaeth”, esbonia Tony, sydd ei hun yn gymrawd o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. 

Eglura Tony efallai y bydd asiant eiddo cymwysedig, er enghraifft aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, yn gallu darparu safbwynt neu ateb gwahanol i unrhyw broblemau a godir yn arolwg y prynwr.

A oes gennych reolwr sy’n gwneud cynnydd ar werthiannau?

Yn hytrach na dim ond dod o hyd i brynwr i chi, bydd asiant eiddo da hefyd yn parhau i helpu i sicrhau bod y broses o werthu eich eiddo yn rhwydd. Mae’n bosibl y bydd ganddo reolwr penodol sy’n gwneud cynnydd ar werthiannau, a’i waith yw gwneud yr union beth hwnnw – gwneud cynnydd ar eich gwerthiant nes i chi drosglwyddo’r allweddi.

“Mae llawer o asiantau’n teimlo, pan fyddan nhw wedi dod o hyd i brynwr, wel dyna ni”, meddai Tony. Ond mae’n ychwanegu, “mewn gwirionedd, y dechrau yw hynny, oherwydd bod cyfres o ddigwyddiadau sy’n gorfod digwydd nes bod contractau wedi eu cyfnewid”. 

Beth yw cyfnod eich contract?

Mae llawer o asiantau eiddo yn cynnwys cyfnod clymu i mewn, hyd at 12 wythnos yn aml, sy’n ei gwneud yn anodd ichi newid eich meddwl os nad ydych yn dymuno gwerthu eich eiddo gyda nhw mwyach. 

Ond mae’n werth ceisio dod o hyd i asiant sy’n darparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl. Wedi’r cyfan, rydych yn dymuno bod â’r gallu i gerdded i ffwrdd, os bydd angen gwneud hynny arnoch.

“Y chi, sef y gwerthwr, ddylai reoli’r gwerthiant”, meddai Tony, sy’n cynghori yn erbyn ymrwymo i gontract hir.

Pwy fydd yn ymdrin â’r gwerthiant i mi?

Efallai y byddwch yn disgwyl mai’r asiant sy’n dod i brisio eich cartref fydd yr un unigolyn a fydd yn ymdrin â’r gwerthiant, gan gynnwys dangos eich tŷ i ddarpar brynwyr. Ond nid yw’n gweithio fel hyn bob amser.

Dywed Tony: “O’m profiad i, ’dyw gwerthwyr ddim yn hoffi pan fo gwahanol bobl o’r asiantau yn dangos eu heiddo i bobl. Mae cysondeb o fudd.” 

Beth arall allwch chi ei wneud i mi?

Gofynnwch pa wasanaethau a chymorth ychwanegol y gall yr asiant eu darparu. Mae’n bosibl, er enghraifft, y bydd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i dŷ newydd i’w brynu yn yr ardal leol. 

Mae’n bosibl hefyd y bydd ganddo rwydwaith o gysylltiadau lleol, fel tirfesuryddion, cyfreithwyr trawsgludo, a chynghorwyr morgeisi y gall eu hargymell i’ch helpu wrth i chi symud cartref.

Gall gofyn y cwestiynau hyn eich helpu i nodi’r asiant gorau ar gyfer y gwaith, ac i werthu eich cartref cyn gynted ac mor rhwydd â phosibl.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig