Sut i werthu eich cartref heb werthwr tai

Diweddarwyd ddiwethaf: 20/07/2022 | Amser darllen: 4 munud

Mae'r farchnad dai yn 2021 yn fywiog, a dweud y lleiaf. Mae eiddo'n gwerthu'n gyflym, a gwerthwyr eisiau gwneud y mwyaf o'u buddsoddiadau. Ond gall y broses werthu ei hun fod yn ddrud, gyda threth stamp a ffioedd amrywiol i’w talu – gan gynnwys ffioedd gwerthwyr tai.

Am y rheswm hwn, efallai y bydd perchnogion tai yn ystyried gwerthu heb ddefnyddio gwerthwr tai. I wneud hyn bydd angen gwneud llawer o waith a bod â thipyn o ddycnwch a chroen trwchus... Ond gallai gwerthu eich cartref yn breifat arbed llawer o gostau. Dyma rai camau i'ch helpu i ddechrau arni os ydych yn ystyried gwerthu eich cartref heb werthwr tai. 

Ffioedd Asiantau Tai Posibl:
Ar adeg ysgrifennu hwn, pris cyfartalog eiddo yn y DU yw £281,000. Felly, pe baech yn gwerthu tŷ am bris cyfartalog drwy werthwr tai sy’n codi ffioedd o 3%, byddai’n costio mwy na £8,400 i chi.

*Ffynhonnell: HPI DU Ebrill 2022

Tacluswch eich eiddo

Y cam cyntaf yw rhoi trefn ar eich tŷ. Gwnewch yn siŵr bod popeth yn daclus, ac mewn cyflwr da. Os oes unrhyw dasgau trafferthus yr ydych chi wedi bod yn eu gohirio, nawr yw'r amser i fynd i'r afael â nhw – rydych chi eisiau i'ch cartref fod mor ddeniadol â phosibl i ddarpar brynwyr.

Mae'r arbenigwr eiddo, y mentor a'r buddsoddwr Mandy St John Davey yn cynghori: "Mae'r argraffiadau cyntaf yn allweddol yma - rydych chi eisiau gwneud y mwyaf o apêl ymyl y ffordd. Nid dim ond y tu mewn a ddylai edrych yn dda; dylai’r tu allan hefyd, oherwydd efallai y bydd rhai prynwyr yn gyrru heibio ac yn edrych ar yr eiddo cyn trefnu i’w weld. Gwnewch yn siŵr bod y gerddi a’r llwyni'n cael eu cadw'n daclus ac yn dwt. Tacluswch unrhyw waith paent allanol, a rhoi cot newydd o baent ar y rheiliau."

Mae Mandy hefyd yn argymell gofyn i rywun fod yn llygad beirniadol. Gwahoddwch ffrind, cydweithiwr neu aelod dibynadwy o'r teulu i ddod draw a rhoi eu barn - gan dynnu sylw at ddiffygion ac anfanteision posibl nad ydych wedi sylwi arnynt.

Nodwch eich pris

Er y gallai fod yn demtasiwn cael prisiad am ddim gan werthwr tai, mae'n syniad da gwario ychydig o arian wrth brisio'r eiddo. Mae gwerthwr annibynnol yn debygol o gostio ychydig gannoedd o bunnoedd, ond mae'n werth gwneud hyn yn iawn. Mae gosod y pris yn rhy uchel yn debygol o atal prynwyr, ond – yn waeth byth – gallai tanbrisio golli llawer o arian i chi.

Marchnata

Pan fyddwch chi'n hapus ei fod yn barod, mae'n bryd cymryd lluniau. Dewiswch ddiwrnod heulog braf, a chymryd lluniau o ansawdd da o'r holl ystafelloedd o sawl ongl. Rydych eisiau rhoi’r argraff gywir felly dylech fod yn barod i wario ar ffotograffau da. Gall ffotograffiaeth wael wneud i ystafell y tu mewn edrych yn llawer llai nag ydyw.

Nawr mae'n bryd rhoi gwybod i'r byd ei fod ar y farchnad. Un rhwystr yw bod gwefannau poblogaidd fel Rightmove a Zoopla yn tueddu i restru eiddo sy’n cael eu gwerthu gan werthwyr tai yn unig. Felly, efallai y byddwch yn ystyried rhestru eich eiddo am ddim ar safleoedd fel The House Shop. Fel arall, mae rhai asiantau fel Strike yn cynnig gwasanaeth am ddim i raddau helaeth, gan gynnwys rhestru eich eiddo ar y safleoedd eiddo mwyaf adnabyddus.

Awgrym Da:
I wneud yn siŵr eich bod yn rhoi darlun llawn o’ch eiddo, ychwanegwch gynllun llawr cywir. Dyma'r ddau beth y bydd siopwyr ar-lein yn edrych arnynt i ddechrau. Hefyd, mae'n werth cynnwys eich Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC).

Trefnu ymweliadau

Dyma pryd mae'n bwysig gwybod eich pethau. Byddwch yn barod am gwsmeriaid lletchwith a chwestiynau treiddgar. Dylech fod â gwybodaeth fel cost y dreth gyngor, yr holl filiau a'ch Tystysgrif Perfformiad Ynni wrth law.

Dyma hefyd lle mae angen croen trwchus. Dywed Mandy: "Gall fod yn anodd pan fo gennych gysylltiad emosiynol â'ch eiddo – yn enwedig os ydych wedi byw ynddo ers amser maith, a rhoi eich stamp eich hun arno – dim ond i gael rhywun yn dod i mewn a'i feirniadu'n uniongyrchol."

Am y rheswm hwn, efallai y byddai’n syniad gofyn i ffrind neu aelod o'r teulu gynnal yr ymweliadau, os ydynt yn cytuno i wneud hynny. Hefyd, os yw trefnu gormod o ymweliadau yn debygol o darfu arnoch chi, efallai y byddai'n ddefnyddiol cynnal diwrnod agored ar benwythnos, gan weld pawb sydd â diddordeb mewn un tro.

Nodwch:
Peidiwch â chuddio unrhyw beth oddi wrth brynwyr posibl. Gallai peintio dros y craciau achosi problemau yn nes ymlaen. Os bydd rhywbeth yn codi mewn arolwg prynwr nad ydych wedi'i ddatgelu, gallai hyn arwain at ail-negodi costus a llawn straen.

Gwerthu’r eiddo

Dywed Mandy: "Pan rydych chi eisiau symud, dylech fod ag amcanion clir. Dylech bennu dyddiad cau ar gyfer pryd yr ydych yn bwriadu gwerthu eich eiddo. Byddwch yn glir ar y pris, ond ystyriwch beth fyddai'r isafswm pris prynu y byddech yn ei ostwng iddo a glynwch yn llwyr at hynny!

Cyn derbyn cynnig, gofynnwch a yw'r darpar brynwr mewn cadwyn. Yr hiraf a’r mwy cymhleth yw’r gadwyn, yr hiraf y mae’r gwerthiant yn debygol o lusgo ymlaen.

Ac er bod derbyn cynnig yn deimlad da, cofiwch fod rhywfaint o waith i'w wneud eto. Ar yr adeg hon, rydych eisiau cynnwys cyfreithiwr neu drawsgludwr dibynadwy.

Dywed Mandy: "Os ydych chi'n derbyn cynnig, cofiwch gadarnhau hyn yn ysgrifenedig. Bydd hyn yn helpu yn ystod y cam trawsgludo, ac nid yw'n gadael unrhyw le i ail-negodi. Cytunwch ar ddyddiad cwblhau, gan nad ydych eisiau iddo lusgo ymlaen am fisoedd a misoedd. Dyma le byddai gwerthwr tai fel arfer yn mynd ar ei ôl ar eich rhan, felly byddwch yn ymwybodol y gallai fod angen i chi fod ddyfalbarhau i wthio'r gwerthiant drwodd."

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig