Sut i werthu eich tŷ mewn arwerthiant
Diweddarwyd ddiwethaf: 01/04/2022 | Amser darllen: 4 munud
Fel y bydd gwylwyr y gyfres deledu Homes Under the Hammer yn gwybod, nid defnyddio gwasanaethau gwerthwr tai yw'r unig ddewis wrth werthu eiddo.
Dewis arall yw gwerthu eich cartref mewn arwerthiant. Gall hyn apelio os ydych chi eisiau gwerthu'n gyflym, neu os oes angen moderneiddio a gwella eich eiddo. Er hyn, gellir gwerthu unrhyw gartref mewn arwerthiant.
Fodd bynnag, gall y posibilrwydd o werthu mewn arwerthiant fod braidd yn frawychus. Felly mae'n bwysig eich bod yn gwybod yn union beth fydd yn digwydd.
Mewn arwerthiant, bydd darpar brynwyr yn rhoi cynnig am eich eiddo. Y cynnig uchaf fydd yn ennill ac fel arfer mae'n rhaid i’r prynwr roi blaendal o 10% cyn gynted ag y bydd y morthwyl yn disgyn er mwyn sicrhau'r pryniant. Bydd y gwerthiant wedyn yn cael ei gwblhau o fewn mis fel arfer, pan fydd y 90% sy'n weddill o'r arian yn cael ei drosglwyddo. Felly, mae'r cyfan yn digwydd yn gyflym iawn.
Bydd yr arwerthiant fel arfer yn digwydd mewn ystafell arwerthu, ond mae cynnal arwerthiant ar-lein yn dod yn fwy poblogaidd, yn enwedig oherwydd y pandemig.
Un o'r gwahaniaethau mwyaf o ran gwerthu drwy werthwr tai traddodiadol ar y stryd fawr yw bod pethau'n cael eu gwneud mewn trefn wahanol wrth werthu mewn arwerthiant: tra bydd prynwr tŷ arferol yn cynnal arolygon a gwiriadau cyfreithiol ar ôl cytuno i brynu eiddo, ar gyfer arwerthiant, bydd y prynwr yn gwneud yr holl ddiwydrwydd dyladwy yn gyntaf, o arolygon i wiriadau cyfreithiol.
Un gwahaniaeth allweddol arall yw'r pris. Er bod gwerthwyr tai yn gyffredinol yn dyfynnu pris gofyn, ar gyfer arwerthiant bydd angen i chi bennu pris cadw, sef y pris isaf y byddwch yn ei dderbyn a chaiff ei gadw'n breifat rhyngoch chi a'r arwerthwr, ac amcanbris, sef y pris y caniateir i'r cyhoedd ei wybod ac y gellir ei ddefnyddio i ddenu prynwyr. Gall eich arwerthwr eich helpu i benderfynu faint ddylai pob un o'r prisiau hyn fod.
Os ydych chi'n ystyried gwerthu mewn arwerthiant, y peth cyntaf y bydd angen i chi ei wneud yw dod o hyd i dŷ arwerthu.
Yn union fel y byddech wrth ddewis gwerthwr tai, chwiliwch am y tŷ arwerthu gorau ar eich cyfer chi. Sicrhewch eich bod yn cymharu ffioedd: gallwch ddisgwyl talu rhwng 1% a 3% o'r pris prynu, ond mae hyn yn amrywio'n sylweddol.
Mae Sally Smith, cyfarwyddwr ac arwerthwr Loveitts, yn cynghori: "Dewiswch arwerthwr yr ydych chi'n ei hoffi ac yr ydych yn ymddiried ynddo. Ond mae gwybodaeth leol yn allweddol. Tuedda arwerthwyr lleol gael prisiau gwell, oherwydd maen nhw’n adnabod y farchnad, ac mae ganddynt gronfa ddata fwy o brynwyr posibl."
Fel arall, mae rhai gwerthwyr yn dewis gweithio gyda chwmni cenedlaethol, yn enwedig os ydyn nhw’n disgwyl i'w heiddo apelio at fuddsoddwyr prynu i osod ac eisiau cael cynulleidfa ehangach.
Bydd arwerthwr yn ymweld â'r eiddo ac yn egluro’r broses arwerthu i chi. Bydd hefyd yn dweud beth yw’r potensial o ran ei bris gwerthu a'i amcanbris.
Bydd y tŷ arwerthu yn marchnata'r eiddo, fel arfer yn ei hysbysebu ar yr un pyrth eiddo ag y byddai gwerthwr tai, fel Rightmove, Zoopla ac OnTheMarket. Bydd hefyd yn ei gynnwys yn eu catalog arwerthu sy'n cael ei anfon at ddarpar brynwyr.
Yna gall pobl sydd â diddordeb ddod i weld eich eiddo, fel y byddent drwy werthwr tai ar y stryd fawr. Felly, yn yr un modd â gwerthu eich cartref drwy werthwr tai safonol ar y stryd fawr, bydd angen i chi sicrhau ei fod yn edrych ar ei orau.
Mae Sally yn dadlau bod arwerthwyr yn fwy rhagweithiol nag asiantau tai, sy'n hanfodol er mwyn cael y pris gorau posibl. Meddai: "Yr egwyddor sylfaenol yw creu diddordeb; y mwyaf o ddiddordeb y byddwch yn ei greu, y mwyaf o bobl fydd yn cystadlu wrth roi cynnig, yr uchaf y bydd y pris yn codi".
Bydd angen i chi ddewis trawsgludwr neu gyfreithiwr i helpu gyda'r ochr gyfreithiol cyn yr arwerthiant ac ar y diwrnod. Cyn yr arwerthiant, bydd yn paratoi pecyn cyfreithiol ar gyfer darpar brynwyr. Mae hwn yn cynnwys dogfennau fel amodau'r gwerthiant a chanlyniadau chwiliad awdurdod lleol o'r eiddo.
Fel gydag asiantau tai neu arwerthwyr, mae'n bwysig eich bod yn chwilio am y cyfreithiwr gorau.
Dyma'r diwrnod mawr! Gall arwerthiant fod yn gyffrous iawn. Os ydych chi'n gwerthu tŷ, nid oes angen i chi fod yno eich hun o reidrwydd , felly mae i fyny i chi os byddwch chi’n mynd yno. Os byddai'n well gennych beidio, bydd yr arwerthwr yn eich ffonio i ddweud y canlyniad wrthych wedyn.
Mae’r morthwyl yn disgyn yn cynrychioli cyfnewid contractau ac mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r cynigydd llwyddiannus dalu blaendal o 10% a llofnodi'r contract cyn gadael yr ystafell.
Mae'r cyfan yn digwydd yn gyflym iawn ar ôl hynny. Fel arfer, bydd y gwaith cwblhau'n digwydd 28 diwrnod ar ôl yr arwerthiant, felly byddwch yn cael eich arian, wedi tynnu’r ffioedd.
Felly, os ydych chi eisiau gwerthu eich cartref yn gyflym, gallai fod yn werth ystyried arwerthiant.