15 ffordd o arbed arian gartref

Diweddarwyd ddiwethaf: 09/06/2022

Dyma awgrymiadau i leihau eich costau ac arbed ychydig o arian.

Terfynu eich tanysgrifiadau

Cafodd dros 1.5 miliwn o danysgrifiadau ffrydio teledu eu canslo yn y DU yn nhri mis cyntaf 2022. Ac mae'n hawdd gweld pam, o ystyried faint o effaith y gallan nhw ei gael ar eich balans yn y banc bob mis. 

Felly, yn hytrach na chadw sawl tanysgrifiad, ceisiwch gadw at un ar y tro yn unig, gan wylio yr hyn sydd ar gael, ac yna newid i un arall. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio i’r eithaf ar dreialon am ddim gan gwmnïau fel Apple TV+ ac Amazon Prime.

Gwirio a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau

Mae miliynau o bobl ar eu colled o filoedd o bunnau y mae ganddyn nhw hawl iddynt gan y llywodraeth.

Felly defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau am ddim, fel y rhai a restrir isod, i ganfod pa fudd-daliadau y gallech chi eu cael, a sut i'w hawlio.

Newid cyflenwr band eang neu becyn ffôn symudol

Mae 16 miliwn o bobl sydd allan o gontract ar eu cytundebau band eang a ffôn symudol, o bosibl yn talu mwy nag y mae angen. Gall chwiliad cyflym ar safle cymharu prisiau eich helpu i arbed arian hanfodol bob blwyddyn. 

Weithiau efallai na fydd angen i chi newid i arbed arian hyd yn oed. Mae cyflenwyr eisiau i chi barhau yn gwsmer iddyn nhw, ac mae'n ddigon posibl y byddan nhw’n cynnig pecyn gwell o ran gwerth i chi os ydych yn ystyried mynd i rywle arall.

Gweler ein canllaw ar newid biliau eich cartref.

Defnyddio gwefannau arian yn ôl

Mae'n ddigon posibl eich bod wedi defnyddio safleoedd arian yn ôl fel Quidco a TopCashback, sy'n talu gwobr ariannol i chi pan fyddwch yn clicio drwyddyn nhw i brynu nwyddau neu gynhyrchion ariannol. 

Ond gall helpu i fanteisio'n llawn ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w gynnig, gan fod arian yn ôl ar gael ar amrywiaeth enfawr o nwyddau a gwasanaethau, fel yswiriant car, hediadau a hyd yn oed pethau y byddwch yn eu prynu ar y stryd fawr.

Yn ogystal â manteisio ar wefannau arian yn ôl eich hun, gall hefyd fod yn werth annog eich ffrindiau i gofrestru, gan fod rhai safleoedd arian yn ôl yn talu bonws os ydych yn cyfeirio ffrind atyn nhw.

Canslo unrhyw beth nad oes angen i chi ei wario

Ewch drwy eich cyfriflenni banc ac edrychwch yn ofalus ar eich holl daliadau rheolaidd.

Yna ystyriwch a oes gwir angen pob un arnoch chi. Os nad oes eu hangen - ac nad ydych wedi'ch clymu i gontract - yna canslwch nhw.

Troi eich thermomedr i lawr 1 radd

Mae biliau ynni yn gost fawr i aelwydydd, yn enwedig gan fod prisiau wedi codi cymaint yn ddiweddar. 

Un ffordd o arbed ychydig o arian ar ynni yw defnyddio llai ohono. Drwy droi eich thermostat i lawr y mymryn lleiaf, gallwch arbed arian, heb deimlo llawer o wahaniaeth mae'n debyg.

Dywed yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, os trowch eich prif thermostat i lawr 1 radd, y gallwch arbed tua 10% ar eich bil ynni. Mae'n dweud mai'r ystod tymheredd delfrydol yw 18-21 gradd.

Inswleiddio eich atig

Mae chwarter y gwres yn cael ei golli drwy'r to mewn cartref heb ei inswleiddio. Felly mae inswleiddio eich atig neu do gwastad yn ffordd arall o leihau eich biliau gwresogi.

Mewn tŷ pâr, gallai inswleiddio atig sydd heb ei hinswleiddio gyda 270mm o ddeunydd insiwleiddio atig gostio £530 ar gyfartaledd i chi, ond gallech wedyn o bosib arbed £255 bob blwyddyn. 

Tynnu swper heno allan o'r rhewgell yn y bore

Os gallwch gofio tynnu cynhwysion allan o'r rhewgell mewn da bryd i’w dadmer ar dymheredd ystafell, yna gallwch arbed arian drwy beidio â dadrewi pethau yn y micro-don o hyd, neu eu rhoi yn y popty am fwy o amser.

Cofiwch fod yn rhaid coginio rhai bwydydd heb eu dadmer, felly darllenwch y label yn gyntaf!

Diffodd yn y soced

Gallwch arbed tua £55 y flwyddyn dim ond drwy gofio diffodd eich offer yn y soced wal, er mwyn dileu'r costau wrth eu gadael ymlaen yn y modd segur. Gall ceisio cofio hyn fod yn boen, felly gall buddsoddi mewn arbedwr segur neu blwg clyfar helpu drwy eich galluogi i ddiffodd eich holl offer sydd yn y modd segur ar yr un pryd.

Hefyd, cofiwch y tric clasurol o ddiffodd y goleuadau pan fyddwch chi'n gadael ystafell. Gallai hyn arbed £20 y flwyddyn arall i chi. Chwiliwch am ragor o awgrymiadau i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni.

Peidio â thalu am feddalwedd

Peidiwch â thalu am unrhyw feddalwedd pan fydd dewisiadau eraill am ddim ar gael. 

Er enghraifft, mae meddalwedd golygu delweddau am ddim GIMP yn dda am efelychu llawer o nodweddion Photoshop, a gall Libre Office gymryd lle Microsoft Office. 

Mae gan gylchgrawn PC Mag restr ddefnyddiol o’r feddalwedd rhad ac am ddim orau sydd ar gael yn 2022.

Prynu raseli diogel yn hytrach na raseli cetris

Gall raseli untro, yn enwedig y rhai aml-lafn, gostio ffortiwn. Dydyn nhw ddim yn wych i’r amgylchedd ‘chwaith.

Gallech roi cynnig ar rasel ddiogel yn lle hynny. Mae’n cymryd amser i ddod i arfer â nhw, ond maen nhw’n rhatach na raseli aml-lafn ac yn llai brawychus na raseli hogi.

Ac yn well fyth, gallwch arbed arian. Ar ôl prynu handlen y byddwch yn ei defnyddio'n barhaol, mae pecyn o 100 llafn, y gellir defnyddio pob un ohonyn nhw sawl gwaith, yn costio llai na £10!

Defnyddio eich llyfrgell

Efallai bod mwy i'ch llyfrgell leol nag oeddech chi’n sylweddoli. 

Er enghraifft, maen nhw'n wych ar gyfer llyfrau sain am ddim i blant ac oedolion. Mae rhai yn caniatáu i chi gael mynediad ar-lein i ddetholiad aruthrol o'r cylchgronau, comics a’r papurau newydd diweddaraf o'r DU a ledled y byd - gan gynnwys rhai sydd fel arfer y tu ôl i wal dalu.

Mae manteision eraill yn cynnwys digwyddiadau aml am ddim, fel amser stori i blant, neu glybiau a grwpiau sgwrsio i oedolion.

Ac wrth gwrs, mae benthyca llyfrau am ddim yn gynnig na ddylid troi trwyn arno os ydych yn ddarllenydd brwd ac yn gwario ffortiwn yn rheolaidd ar eich Kindle neu mewn siopau llyfrau.

Gwneud tasgau eich hun

Gall wneud rhywbeth eich hun roi boddhad mawr, yn hytrach na thalu am gymorth proffesiynol, heb sôn am fod tipyn yn rhatach.

Felly er bod rhai tasgau DIY, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â thrydan neu nwy, y dylech eu gadael i'r gweithwyr proffesiynol, mae digon y gallwch fentro rhoi cynnig arnyn nhw (gyda chymorth YouTube o bosibl).

Ond mae DIY yn costio arian hefyd. Darllenwch Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian.

Save money on food

Siopa am fwyd yw un o'r costau mwyaf y mae'n rhaid i chi gyllidebu ar ei gyfer. Un o'r ffyrdd gorau o arbed costau, heb gymryd unrhyw gamau llym, yw ceisio cynllunio mwy ymlaen llaw.

Gwnewch gynllun prydau bwyd fel mai dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch y byddwch yn ei brynu gan felly osgoi gwastraff. Gall erthyglau fel hon ar gynllunio prydau bwyd helpu, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer ryseitiau rhad fel y sianel YouTube prydau am bunt.

Tyfu eich bwyd eich hun

Ffordd arall o arbed arian ar fwyd yw ceisio tyfu rhywfaint eich hun. Gall ymddangos fel tipyn o drafferth i ddechrau, ond - ochr yn ochr â rhai arbedion bychain - mae tyfu bwyd eich hun yn teimlo'n wych.

Nid oes angen gardd fawr na llawer o offer garddio arnoch. Gallwch dyfu perlysiau a llysiau bach mewn bocsys ffenestri, potiau neu fagiau tyfu (neu hen esgidiau glaw a bwcedi).  Darllenwch ein hawgrymiadau ar gyfer tyfu eich gardd lysiau eich hun.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am gynilo arian:

Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig