Symud tŷ: canllaw i bacio a symud eich pethau

Diweddarwyd ddiwethaf: 28/04/2022 | Amser darllen: 8 munud

P’un a ydych chi’n ei wneud eich hun neu’n galw ar y gweithwyr proffesiynol i’w wneud, gall pacio eich pethau i gyd a’u symud i gartref newydd deimlo fel tasg enfawr . 

Gan fod cymaint o bethau eraill yn digwydd yn y cyfnod cyn y diwrnod symud - ac ar y diwrnod mawr ei hun - gall bopeth fynd yn drech na chi. Felly gobeithio y bydd ein canllaw i bacio eich cartref a symud eich pethau wneud eich bywyd ychydig bach yn haws. 

Penderfynu faint o ddeunydd pacio a bocsys sydd eu hangen arnoch chi

Yn gyntaf oll, faint o focsys sydd eu hangen arnoch chi? Llawer iawn ohonyn nhw yw’r ateb, llawer mwy, yn ôl pob tebyg, nag ydych chi’n sylweddoli. Ar gyfer cartref o faint cyfartalog, mae angen tua 60 o focsys o wahanol feintiau ar y rhan fwyaf o deuluoedd. Os ydych chi’n brynwr tro cyntaf, mae’n debyg na fydd angen cymaint â hynny o focsys arnoch chi.

Os oes gennych chi lawer o bethau, yna gall helpu i feddwl fesul ystafell:

  • Cegin: tua 10-15 o focsys canolig a mawr. Ystyriwch, ydych chi’n gogydd cartref brwd, gyda chegin yn llawn teclynnau?
  • Ystafell fyw: 5-10 o focsys canolig a mawr. Mae hyn yn amrywio’n fawr - os mai soffas, cwpl o fyrddau ochr, teledu a rhai lluniau ar y wal sydd yn eich ystafell fyw, yna ni fydd angen cymaint â hynny o focsys arnoch chi.
  • Ystafell fwyta: tua 5 bocs. Ond yn debyg i’r ystafell fyw, efallai na fydd angen cymaint â hynny.
  • Ystafelloedd gwely: 10-20 o focsys. Ond mae’n debyg y bydd angen mwy ar brif ystafell wely nag ar ystafell wely plentyn, ac mae hefyd yn dibynnu ar faint o ddillad sydd gennych chi!
  • Ystafell ymolchi: 2-4 bocs canolig. Fel arfer, nid oes llawer o eitemau y mae modd eu pacio yn yr ystafell ymolchi.

Wrth gwrs, peidiwch ag anghofio’r ystafelloedd eraill sydd gennych chi yn eich cartref, yr atig, sied yr ardd neu’r garej.

Yn ogystal â bocsys, bydd angen digon o ddeunydd pacio arnoch chi, a tua thri rholyn o dâp.

Awgrymiadau pacio da

Mae gennych chi eich bocsys a’ch deunydd pacio. Nawr dyma ddeg awgrym pacio da:

  1. Dechreuwch ymhell ymlaen llaw: mae pacio tŷ cyfan yn cymryd mwy o amser nag y byddech chi’n ei feddwl, felly os gallwch chi, dechreuwch wythnosau (neu hyd yn oed fisoedd) ymlaen llaw, a dechreuwch drwy bacio’r ystafelloedd a’r eitemau yr ydych chi’n eu defnyddio lleiaf; mae pethau tymhorol fel addurniadau Nadolig yn gwneud man cychwyn da. Hefyd, os oes gennych chi lawer o amser, bydd gennych chi amser i fynd ati i waredu annibendod - mae symud cartref yn gyfle perffaith ar gyfer hyn: ystyriwch yr hyn nad oes ei angen arnoch chi mwyach, yr hyn y mae angen i chi ei uwchraddio, neu’r hyn y gallech chi ei roi i rywun arall ei ddefnyddio a’i fwynhau
  2. Labeli bocsys: ysgrifennwch ar ochrau ac ar dop bocsys. Dylech chi gynnwys nid yn unig yr ystafell y mae angen i’r eitemau fynd iddi, ond yr hyn sydd y tu mewn i’r bocs hefyd: gallai ystafelloedd fel y gegin fod â digon o eitemau ar gyfer degau o focsys, ac nid ydych chi eisiau treulio’ch noson gyntaf yn eich cartref newydd yn eu gwagio i gyd, dim ond i ddod o hyd i’r teclyn agor poteli hanfodol hwnnw.
  3. Paciwch eitemau bregus yn ofalus: cadwch eich deunydd pecynnu gorau a’ch bocys mwyaf cadarn ar gyfer eitemau bregus, fel platiau (dylent gael eu pacio’n fertigol) a gwydrau (paciwch y rhain gyda’r rhan fwyaf llydan o’r gwydr yn wynebu i lawr). Marciwch y bocsys hyn yn fregus a pheidiwch â’u gorlwytho.
  4. Peidiwch â gwneud eich bocsys yn rhy drwm: paciwch eitemau ysgafn mewn bocsys mwy o faint ac eitemau trwm mewn bocsys llai. Hefyd, cofiwch ddal eich bocsys ar y gwaelod os gallwch chi, yn hytrach na’r ochrau, rhag ofn nad ydyn nhw mor gadarn ag yr ydych chi’n meddwl.
  5. Peidiwch â gwagio eich droriau: bydd y tîm symud cartref yn tynnu’r droriau o’ch cypyrddau ac yna’n eu rhoi yn ôl yn y ffrâm y tu mewn i’w lori (neu gallwch chi wneud yr un peth, os ydych chi’n gwneud y cyfan eich hun). Felly byddai gwagio droriau yn wastraff amser gwerthfawr.
  6. Mae modd rholio rhai eitemau o ddillad, ond mae’n ddefnyddiol cadw dillad ar yr hangers, pan fo hynny’n bosibl, fel nad ydyn nhw’n crychu: gallech chi ddefnyddio bocsys cwpwrdd dillad arbennig, er bod y rhain yn ddrud. Rhowch gynnig ar wneud un, os gallwch chi gael gafael ar focs tal a pholyn pren neu fetel gallech chi wthio drwyddo i hongian eich dillad arno.
  7. Ewch â phethau gwerthfawr gyda chi: bydd angen symud unrhyw bethau gwerthfawr mawr a thrwm gyda gweddill eich eiddo, ond cadwch ddogfennau gwerthfawr fel pasbortau neu eitemau fel gemwaith gyda chi wrth i chi symud.
  8. Byddwch yn ofalus gyda chemegau glanhau: mae’n rhyfeddol faint o gemegau glanhau y gallwch chi eu casglu yn eich cartref. I’w pacio gan osgoi gollyngiadau anniben, rhowch nhw mewn bocs cadarn yr ydych chi wedi rhoi bag cryf fel leinin ynddo, a chofiwch gau caead pob cynhwysydd yn dynn hefyd. 
  9. Rhowch sgriwiau a bolltau mewn bagiau: wrth dynnu dodrefn ystafell wely’n ddarnau, cadwch yr holl sgriwiau a bolltau gyda’i gilydd mewn bag brechdanau, wedi’u tapio’n ddiogel iawn i ran o’r dodrefnyn.
  10. Cadwch hanfodion o’r neilltu: cofiwch, pan fyddwch chi’n cyrraedd eich cartref newydd, bydd rhai pethau y bydd eu hangen arnoch chi bron ar unwaith. Bydd hynny’n cynnwys tyweli, bagiau ymolchi a dillad gwely, bocs tŵls, pethau ar gyfer paratoi bwyd, ac unrhyw fwyd anifeiliaid anwes neu nwyddau babanod.

Ffyrdd o gael bocsys am ddim

Gallwch chi wario cannoedd o bunnoedd ar focsys cardbord yn hawdd drwy brynu rhai newydd. Nid dyma’r opsiwn mwyaf fforddiadwy na chynaliadwy. Os oes gennych chi ddigon o amser, fel arfer gallwch chi fynd ati heb wario ceiniog.

Mae rhai ffyrdd syml o gael gafael ar focsys yn cynnwys:

  • Cadw bocsys yr ydych chi’n eu derbyn o unrhyw nwyddau sy’n dod atoch chi.
  • Gofyn i ffrindiau a theulu roi unrhyw focsys maen nhw’n eu cael i’r naill ochr.
  • Gofyn ar fforymau cymunedol fel Facebook, lle byddwch chi’n aml yn dod o hyd i bobl sydd newydd symud ac a fyddai’n falch iawn i gael gwared ar eu hen focsys drwy eu rhoi nhw i chi!
  • Gofyn mewn archfarchnadoedd lleol. Mae rhai archfarchnadoedd yn well na’i gilydd, felly rhowch gynnig ar fwy nag un.
  • Holi o gwmpas busnesau lleol eraill. Ceisiwch ofyn i unrhyw fusnesau lleol a oes ganddyn nhw unrhyw focsys sbâr. Mae lleoedd fel ystadau diwydiannol yn wych ar gyfer hyn.

Mae ailddefnyddio hen focsys yn hollol iawn. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu dal y pwysau, a chuddiwch unrhyw labelu blaenorol fel nad ydych chi’n cael eich drysu ynglŷn â’r cynnwys.

Pacio a symud cynaliadwy

Mae ailddefnyddio bocsys yn gam da tuag at wneud eich proses o symud tŷ ychydig yn fwy ecogyfeillgar. Yn aml maen nhw’n parhau i fod yn iawn ar gyfer symud tair neu bedair gwaith, ond gwnewch yn siŵr eu bod yn ddigon cadarn ar gyfer beth bynnag sy’n mynd y tu mewn.

Ffordd arall o fod yn fwy cynaliadwy yw defnyddio tâp heb blastig y mae modd ei ailgylchu ar ôl ei ddefnyddio. Mae’n hollol addas ar gyfer y dasg dan sylw. 

Hefyd, o ran ychwanegu deunydd padio o amgylch eitemau mwy bregus, er mwyn osgoi prynu deunydd lapio swigod newydd, gallech chi ddefnyddio hen bapurau newydd, eich dillad, tywelion, blancedi neu unrhyw eitemau meddal eraill. 

Mae gwaredu annibendod hefyd yn rhan o wneud eich proses o symud tŷ yn fwy cynaliadwy. Drwy sortio’r pethau nad oes ei angen arnoch chi mwyach - a’u rhoi i elusen neu eu hailgylchu, yn hytrach na’u gwaredu mewn safleoedd tirlenwi - bydd gennych chi lai i’w gludo i’ch cartref newydd.

Gweithio gyda chwmnïau symud

Mae’n well gan rai pobl dalu am y cyfleustra o gael gweithwyr proffesiynol i symud eu heiddo neu hyd yn oed bacio ar eu cyfer. 

Os byddwch chi’n dewis gweithio gyda chwmni symud, yna cadwch yr awgrymiadau hyn mewn cof i’ch helpu chi i ddewis yr un iawn a helpu’r diwrnod i fynd mor ddidrafferth â phosibl:

  • Gofynnwch i ffrindiau, teulu neu gymdogion am argymhellion ar gyfer cwmnïau symud da.
  • Gofynnwch am o leiaf dri dyfynbris gan wahanol gwmnïau symud i gael y gwerth am arian gorau.
  • Mynnwch olwg ar adolygiadau ar-lein cwsmeriaid y cwmnïau symud (rhowch gynnig ar Google Reviews).
  • Cadarnhewch pa yswiriant fydd gan eich eiddo wrth iddo gael ei symud. Cadarnhewch a yw wedi’i gynnwys fel mater o drefn yn eich contract neu a oes rhaid i chi dalu’n ychwanegol.
  • Os yw eich proses o symud tŷ’n gymhleth mewn unrhyw ffordd, er enghraifft os oes gennych chi eitemau mewn uned storio yn ogystal â’ch cartref, neu os yw mynediad yn anodd, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cytuno ar bob cam a manylyn yn ysgrifenedig gyda’r cwmni symud.
  • Trefnwch eich cwmni symud cyn gynted â phosibl, fel y gallwch chi sicrhau y diwrnod yr ydych wedi’i ddewis ar gyfer symud. Cofiwch mai dydd Gwener yw’r diwrnod mwyaf poblogaidd ac efallai y byddwch chi’n talu llai i symud ar ddiwrnod gwahanol o’r wythnos (er nad oes gennych chi fawr o ddewis weithiau os oes cadwyn ynghlwm wrth brynu eich tŷ).

Hurio eich fan eich hun

Gall defnyddio cwmni symud fod yn ddrud, mae’n costio cannoedd neu hyd yn oed filoedd o bunnoedd, felly efallai y byddwch chi’n dewis ei wneud eich hun, yn enwedig os nad oes gennych lawer o eiddo.

Os byddwch chi’n symud eich eiddo eich hun, yna, yn ôl pob tebyg, bydd angen fan arnoch chi. Mae hurio un yn weddol ddidrafferth ar y cyfan. Os ydych chi’n meddwl tybed pa faint fydd ei angen arnoch chi, mae gan AnyVan y canllawiau canlynol:

  • Fflat 1 ystafell wely: fan 3.5 tunnell gydag ôl-lifft
  • Fflat 2 ystafell wely: fan corff Luton 3.5 tunnell gydag ôl-lifft 
  • Tŷ 2 ystafell wely: fan corff Luton 3.5 tunnell gydag ôl-lifft a fan transit LWB
  • Tŷ 3 ystafell wely: fan bocs Luton 7.5 tunnell

Bydd hyn yn amlwg yn dibynnu ar faint o eiddo sydd gennych chi, ac efallai y bydd angen i chi wneud mwy nag un daith.

Gallwch chi yrru fan Luton 3.5 tunnell ar drwydded yrru car categori B arferol. Ond, oni bai bod eich trwydded wedi’i chyhoeddi cyn 1997, ni chewch yrru fan 7.5 tunnell.

Cofiwch fod faniau Luton yn enfawr! Mae’n teimlo’n wahanol iawn i yrru car. Ond wedi dweud hynny, ar ôl ychydig, byddwch yn dod i arfer â hi, ac mae’n ffordd wych o ostwng eich costau symud cartref.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am werthu eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig