Ynni adnewyddadwy gartref: beth yw eich dewisiadau?

Mae llawer ohonom yn breuddwydio am bweru ein cartrefi yn gyfan gwbl ag ynni glân, gwyrdd yr ydym yn ei gynhyrchu ein hunain. 

Drwy fanteisio ar ynni sydd ar gael am ddim, fel yr haul neu'r gwynt, gallech arbed arian ar eich biliau tanwydd a chyfrannu at leihau allyriadau carbon.

Ond dydy creu cartref sy'n cael ei bweru gan wres neu drydan gwyrdd ddim yn syml. Mae llawer o ddewisiadau ac ystyriaethau a gall y buddsoddiad ymlaen llaw fod yn ddrud iawn.  

Yma rydym yn nodi'r prif ddewisiadau sydd ar gael ar gyfer ynni adnewyddadwy yn y cartref.

Paneli solar

Mae paneli solar i’w gweld yn gyffredin iawn ar doeau erbyn hyn, ac mewn gwirionedd dyma'r ffynhonnell ynni adnewyddadwy fwyaf cyffredin yn y DU.

Yn syml, maent yn casglu ynni'r haul a'i droi yn drydan y gallwch chi ei ddefnyddio yn eich cartref. Mae trydan solar yn ynni carbon isel, adnewyddadwy. Mae hefyd am ddim, wedi i chi dalu i’r system gael ei gosod.

Mae'r paneli'n cynhyrchu trydan hyd yn oed ar ddyddiau cymylog. Fodd bynnag, os byddwch yn defnyddio mwy o drydan gartref nag y mae eich paneli yn ei gynhyrchu, neu yn ystod y nos pan nad yw eich paneli'n cynhyrchu unrhyw drydan, yna byddwch yn dal i dalu am rywfaint o drydan gan y Grid Cenedlaethol. Gallwch brynu batri i storio ynni a'i ddefnyddio gyda'r nos, ond mae'r rhain yn ddrud.

A yw eich cartref chi yn addas ar gyfer paneli solar? Mae to heb gysgod, sy'n wynebu’r de yn ddelfrydol. Gellid ystyried toeau sy’n wynebu’r dwyrain neu’r gorllewin hefyd, er y byddant yn cynhyrchu llai o ynni, ond ni argymhellir eu gosod ar doeau sy’n wynebu’r gogledd. 

Mae'n fuddsoddiad drud a bydd yn costio tua £6,500 ar gyfer system solar ffotofoltäig 4.2kWp domestig cyfartalog - pris sy'n  amrywio yn dibynnu ar faint yr arae ac unrhyw anhawster o ran mynd at eich to - a gallai gymryd 13-24 mlynedd ar gyfartaledd i’w adennill trwy arbedion.  

I gael syniad manylach o'r buddion y gallech eu gweld o osod paneli solar, edrychwch ar gyfrifiannell yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Dewisiadau eraill ar gyfer cynhyrchu trydan adnewyddadwy

Solar yw'r dechnoleg fwyaf poblogaidd o bell ffordd ar gyfer cynhyrchu trydan gwyrdd yn y cartref. Ond mae yna ddewisiadau eraill:

Tyrbinau gwynt: Mae dau fath o dyrbin gwynt maint domestig: tyrbinau wedi’u gosod ar bolyn, sydd angen eu lleoli mewn mannau agored; a dewisiadau llai wedi'u gosod ar adeiladau y gellir eu gosod ar do cartref. Mae tyrbinau wedi'u gosod ar adeiladau yn costio llai i'w gosod na rhai sydd wedi'u gosod ar bolyn, ond maent yn tueddu i fod yn llai ac yn llai effeithlon. Os yw mewn man gwyntog, gall tyrbin 6kW gynhyrchu tua 9,000kWh y flwyddyn, sy'n cyfateb i arbed tua £510 y flwyddyn ar filiau trydan, ond nid ydynt yn rhad a bydd system 6kW wedi’i gosod ar bolyn yn costio tua £33,000 i chi ei phrynu.  

Trydan dŵr: gall fod yn opsiwn i ychydig o gartrefi, fel arfer mewn lleoliadau ynysig a gall systemau trydan dŵr bach neu feicro gynhyrchu digon o drydan ar gyfer yr holl offer trydanol a goleuadau mewn cartref cyfartalog. Mae prisiau'n amrywio, ond gallwch ddarllen mwy am gostau cynlluniau trydan dŵr.

Gwresogi adnewyddadwy

Mae cynhyrchu eich trydan eich hun yn un rhan o hafaliad y cartref gwyrdd. Un arall yw rhoi system werdd (neu werddach) ar waith i gynhesu eich cartref a darparu dŵr poeth.

Pympiau gwres

Os oes angen boeler newydd arnoch, yn hytrach na dewis model nwy neu olew arall, gallech ystyried dewis arall mwy gwyrdd: pwmp gwres. 

Mae llawer o gyhoeddusrwydd wedi bod ynghylch pympiau gwres o ystyried bod y llywodraeth yn disgwyl i filiynau ohonyn nhw gael eu gosod mewn cartrefi dros y 10-15 mlynedd nesaf i gyrraedd targedau sero net y wlad.  

Maen nhw'n gweithio trwy gasglu cynhesrwydd o'r tu allan - ar unrhyw adeg o'r flwyddyn - a'i symud i mewn i'ch cartref. Mae hon yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy, er ei bod yn bwysig gwybod bod y pwmp ei hun yn cael ei bweru gan drydan, a allai fod â ffynhonnell adnewyddadwy neu beidio.

Ceir sawl math o bympiau gwres, yn cynnwys:

Pympiau gwres o’r aer: A elwir hefyd yn bympiau gwres aer i ddŵr, dyma'r math mwyaf cyffredin o bwmp gwres. Maen nhw'n trosglwyddo gwres o'r aer y tu allan i ddŵr, sy'n cynhesu'ch ystafelloedd drwy reiddiaduron neu wres o dan y llawr. Gallant hefyd gynhesu dŵr a gedwir mewn silindr dŵr poeth. Bydd angen lle y tu allan i'ch cartref ar gyfer uned, a fydd yn cael ei gosod ar wal, neu ei gosod ar y ddaear. Rydych yn debygol o wario hyd at £13,000, ond fe allech chi elwa o grant llywodraeth o £5,000 (gweler isod).

Pwmp gwres o’r ddaear: Opsiwn drutach, mae'r rhain yn trosglwyddo gwres o'r ddaear y tu allan i'ch cartref a gall fod yn addas ar gyfer eiddo â llawer o dir. Gallwch ddewis cael pibell hir neu goil wedi'i gladdu mewn ffosydd, neu ddolen hir wedi'i mewnosod mewn twll turio. Gallwch ddisgwyl talu tua £24,000 os yw eich dolen ddaear wedi'i chladdu mewn ffosydd, neu tua £49,000 os oes angen i chi balu twll turio. Gallech leihau'r gost yma gyda grant gan y llywodraeth o £6,000. 

Biomas: Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys llosgi pelenni, naddion neu logiau pren i bweru eich gwres canolog a dŵr poeth. Bydd angen rhywfaint o le ar gyfer hyn, felly mae'n addas fel arfer os oes gennych gartref mwy neu os ydych chi’n byw mewn ardal wledig. Mae system biomas nodweddiadol yn costio rhwng £9,000 a £21,000.  

Gwres o ddŵr solar: A elwir hefyd yn systemau thermol solar, mae'r dechnoleg hon yn defnyddio ynni o'r haul i ddarparu dŵr poeth. Ni fydd gwres o ddŵr solar yn darparu'r holl ddŵr poeth sydd ei angen arnoch yn eich cartref ac felly fe'i defnyddir fel arfer ochr yn ochr â boeler confensiynol neu dwymwr tanddwr. Fel gyda phaneli solar, mae casglwyr dŵr poeth solar fel arfer yn cael eu gosod ar do sy'n wynebu’r de, neu o leiaf nid ar do sy’n wynebu’r gogledd. Cost gosod yw £3,000 i £5,000

Grantiau llywodraeth

Mae'r llywodraeth yn annog cartrefi i gael gwared ar foeleri a gosod systemau gwresogi mwy gwyrdd, yn ogystal â chynhyrchu eu hynni gwyrdd eu hunain trwy dechnoleg fel paneli solar. 

Dros y blynyddoedd, mae wedi darparu gwahanol gymhellion ariannol i helpu aelwydydd  i gyflawni hyn.

Ar hyn o bryd, mae cymhellion yn cynnwys grantiau i annog perchnogion eiddo i osod systemau gwresogi carbon isel fel pympiau gwres. Tan 2025, gallech gael £5,000 oddi ar y gost o osod pwmp gwres o’r aer neu foeler biomas, neu £6,000 oddi ar gost gosod pwmp gwres o’r ddaear.

Mae mwy o wybodaeth ar wefan y llywodraeth i'ch helpu i gael gwybod a ydych chi'n gymwys ar gyfer un o'r grantiau hyn.

Dysgwch fwy am ddewisiadau ynni adnewyddadwy gartref

Mae'r erthygl hon yn cyflwyno rhai o'r prif ffyrdd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer eich cartref. Ond mae llawer yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a ffactorau fel faint o le  sydd gennych yn eich cartref.

I gael rhagor o wybodaeth, lle da i ddechrau yw gwefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gostau ac arbedion pob math o dechnoleg. Mae hefyd yn egluro'r holl gymorth ariannol sydd ar gael. 

Os ydych yn byw yng Nghymru, gallech hefyd fanteisio ar gynllun Nyth, sy'n cynnig cyngor diduedd, am ddim ar ynni adnewyddadwy. Gallwch eu ffonio am ddim ar 0808 808 2244 a siarad ag un o'u harbenigwyr am eich sefyllfa unigol. 

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy am fyw yn gynaliadwy yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig